Llywodraethwyr Ysgol

Beth mae Corff Llywodraethu (CLl) yn ei wneud?

Yr ateb syml i hyn yw ei fod yn cefnogi gwaith yr ysgol. Mae’n darparu safbwynt gwahanol i un y staff a gall helpu’r ysgol i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fonitro ei bod yn gwneud yr hyn y mae’n dweud ei bod yn ei wneud. Mae hefyd yn helpu i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau’r ysgol. Yn fyr, mae’n gweithredu fel cyfaill beirniadol.

Yr hyn nad yw’r corff llywodraethu’n ei wneud yw ymwneud â rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd. Rhaid i chi ddeall yn glir mai cyfrifoldeb y Pennaeth yw hyn. Er y gall fod gan aelodau o’r corff llywodraethu sgiliau y gallant eu defnyddio i gefnogi’r ysgol e.e. ym maes cyllid neu iechyd a diogelwch, mae’n bwysig cofio peidio â dweud wrth y staff sut i wneud eu swyddi. Er bod gan bob un ohonom syniad beth sy’n gwneud athro da/athrawes dda mwy na thebyg, nid yw llywodraethwyr yn rhan o ffurfio barnau ynglŷn ag athrawon. Rôl y corff llywodraethu yw sicrhau bod trefniadau yn eu lle i’r Pennaeth ac uwch aelodau o staff fonitro sut y mae staff yn perfformio.

Pam fod gan ysgolion gyrff llywodraethu?

Yr ateb syml yw i’w helpu i gyflawni eu cenhadaeth: darparu’r addysg orau bosibl ar gyfer eu disgyblion. Gall corff llywodraethu wneud hyn trwy:

  • helpu’r ysgol i osod safonau uchel trwy gynllunio ar gyfer dyfodol yr ysgol a gosod targedau ar gyfer gwella’r ysgol
  • bod yn wir gyfaill i’r ysgol, mewn cyfnodau da a chyfnodau gwael, gan gynnig ei gefnogaeth, cyngor a her i’r ysgol
  • herio’r ysgol i ymegnïo’n barhaus i wella ym mhopeth a wna
  • monitro’r cynnydd gyda chynlluniau sydd gan yr ysgol ar gyfer ei datblygiad a monitro effaith y cynlluniau hyn
  • helpu’r ysgol i fod yn ymatebol i anghenion y gymuned a gwneud yr ysgol yn fwy atebol i’r cyhoedd am yr hyn a wna.

Ceir rhai pwerau a dyletswyddau gweddol benodol hefyd. Dyma restr o rai o’r meysydd pwysicaf y mae’n rhaid i lywodraethwyr fod yn weithgar ynddynt:

  • Safonau – sicrhau dull strategol a systematig o hybu safonau uchel o ran cyflawniad addysgol.
  • Targedau – gosod targedau priodol ar gyfer cyflawniad disgyblion a monitro canlyniadau yn erbyn y targedau.
  • Polisïau – penderfynu sut, o safbwynt strategol eang, y dylai'r ysgol gael ei rhedeg.
  • Cyllid – penderfynu sut i wario’r gyllideb a ddyrannwyd i’r ysgol a monitro gwariant.
  • Staffio – penderfynu ar nifer y staff, y polisi cyflog a gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyflog staff.
  • Penodiadau – penodi’r Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth ac aelodau eraill o staff.
  • Disgyblaeth – cytuno ar weithdrefnau ar gyfer ymddygiad a disgyblaeth staff.
  • Gwaith dilynol ar ôl arolygiad – llunio cynllun gweithredu ar ôl arolygiad.
  • Cwynion -gweler isod.

Hefyd, mewn ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, mae llywodraethwyr yn gyfrifol am addysg grefyddol, addoli ar y cyd, derbyniadau, y safle a chyflogi staff.

Dylai fod yn gysur gwybod mai ychydig iawn o benderfyniadau y byddai’n rhaid i gorff llywodraethu eu gwneud heb gyngor y Pennaeth.

Mae’n bwysig iawn pwysleisio:

  1. bod gan lywodraethwyr gyfrifoldeb ar lefel llunio polisi, nid o ran rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd
  2. bod awdurdod yn perthyn i’r corff llywodraethu yn ei gyfanrwydd; nid oes gan y llywodraethwr unigol unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau na gweithredu
  3. unwaith y gwneir penderfyniad, bod llywodraethwr yn derbyn y cydgyfrifoldeb a ddaw yn sgîl bod yn llywodraethwr, hyd yn oed os yw'n benderfyniad y dadleuodd y llywodraethwr yn ei erbyn.

Cwynion

Mae pob corff llywodraethu wedi mabwysiadu Polisi Cwynion ar gyfer ei ysgol. Rhaid i bawb gydymffurfio â’r polisi, gan symud trwy Gamau 1 (lefel athro/athrawes) a 2 (lefel y Pennaeth), cyn y gall y Corff Llywodraethu ymwneud â’r gŵyn (Cam 3). Pan fo cwyn yn cyrraedd Cam 3 yn y broses bydd angen i Bwyllgor Cwynion y corff llywodraethu gwrdd i ystyried pryderon yr achwynydd.

Mae’n bwysig nodi na all cyrff llywodraethu a llywodraethwyr unigol fod yn rhan o ymdrin â phryderon na chwynion tan y cam priodol yn y Polisi Cwynion (Cam 3).

I gyflwyno cwyn ffurfiol, dylai aelod o’r cyhoedd ymweld â gwefan yr ysgol i gael copi o’i Pholisi Cwynion neu gysylltu â’r ysgol a gofyn am gopi os nad yw hwn ar gael.

ID: 4056, adolygwyd 26/07/2023