Llywodraethwyr Ysgol
Beth mae llywodraethwr yn ei wneud?
Mae gan bob llywodraethwr yr un pwerau, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ni waeth i ba gategori y maent yn perthyn fel llywodraethwr. Fel llywodraethwr, rydych yn gweithredu er lles yr holl blant yn yr ysgol. Ni ddylech ei ystyried yn gyfle i gael unrhyw fanteision i blentyn penodol.
Un o’r agweddau allweddol ar fod yn llywodraethwr yw gofyn cwestiynau. Fel llywodraethwr rydych yn dod â’ch safbwynt penodol chi eich hun i’r corff llywodraethu ac, efallai, safbwynt y rhan o’r gymuned yr ydych yn ei chynrychioli a gallwch rannu’r safbwyntiau hyn gydag aelodau eraill o’r corff llywodraethu. Efallai y byddwch yn cael gwybodaeth nad yw aelodau eraill o’r gymuned yn ymwybodol ohoni a gall hyn ddylanwadu ar y ffordd y byddwch yn pleidleisio; dylai’r ffordd y pleidleisiodd unigolion ar y corff llywodraethu aros yn gyfrinachol. Mae’r penderfyniadau a wnaed yn cael eu cofnodi yn y cofnodion, sy’n gofnod cyhoeddus, ond nid adroddir ar fanylion trafodaethau, a phwy ddywedodd beth.
Rôl Rhiant-lywodraethwr
Mae gan riant-lywodraethwyr yr un pwerau, dyletswyddau a chyfrifoldebau â’r holl lywodraethwyr eraill. Fel llywodraethwr, mae disgwyl iddynt weithredu er budd yr holl blant yn yr ysgol. Ni ddylai rhiant-lywodraethwyr ei ystyried yn gyfle i gael unrhyw fanteision i’w plentyn eu hunain.
Mae rhiant-lywodraethwyr yn dod â safbwynt penodol rhiant i’r corff llywodraethu, gan sicrhau bod yr holl lywodraethwyr yn ymwybodol o farn rhieni. Maent yn cynrychioli rhieni, ond nid cennad mohonynt. Mae hyn yn golygu, er y dylai rhiant-lywodraethwyr gynrychioli barn rhieni, y gallant hefyd fynegi eu barn eu hunain a phleidleisio yn ôl eu daliadau eu hunain ar unrhyw fater.
Mae’r un peth yn wir am lywodraethwyr sy’n cynrychioli staff yr ysgol neu eu cyngor lleol.