Llywodraethwyr Ysgol
Cydweithio a Ffedereiddio
Atodiad A: Cwestiynau cyffredin
Yn cynnwys dyfyniadau o gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru – cylchlythyr 011/2014
C1. Beth yw ffederasiwn?
Strwythur llywodraethu cyfreithiol yw ffederasiwn, sy’n galluogi rhwng dwy a chwe o ysgolion i rannu un corff llywodraethu sengl. Bydd yr ysgolion yn cadw eu hunaniaeth, eu henw, eu hethos, eu cymeriad, eu cyllideb a’u gwisg ysgol eu hunain, ond bydd modd iddynt rannu adnoddau, cyfleusterau ac arfer da.
C2. Pam y dylai ysgolion ffedereiddio?
Mae cydweithio trwy gorff llywodraethu sengl yn galluogi ysgolion i godi safonau a chynnal y ddarpariaeth addysg leol trwy rannu adnoddau, staff, arbenigedd a chyfleusterau, yn ogystal â’u harferion da. Bydd y corff llywodraethu sengl yn fecanwaith effeithiol ac atebol ar gyfer cyfuno adnoddau’r ysgolion, gan gynnwys y staff a’r cyllidebau, rhyddhau amser yr uwch reolwyr, manteisio ar ddarbodion maint a gwella effeithlonrwydd.
C3. Beth yw manteision ffedereiddio?
Bydd ffedereiddio yn ei gwneud yn haws i ysgolion:
- ehangu a gwella ansawdd y ddarpariaeth
- ymateb i anghenion ehangach y disgyblion
- rhyddhau arweinwyr, athrawon a llywodraethwyr ein hysgolion cryfaf i gynorthwyo ysgolion sy’n perfformio’n wael
- gwella’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol i’r staff
- darparu gwell gwerth am arian.
C4. Pam y gallai ysgolion bach gael budd o ffedereiddio?
Gall ffedereiddio helpu ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig i barhau’n gynaliadwy o fewn eu cymunedau. Bydd mecanwaith effeithiol ac atebol y corff llywodraethu sengl yn caniatáu i’r ysgolion gyfuno’u hadnoddau a’u staff a pharhau’n hyfyw drwy fanteisio ar well effeithlonrwydd a darbodion maint. Bydd ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig ac anhygyrch ar eu hennill hefyd o’r cyfleoedd i rannu gwasanaeth rheolwyr, llywodraethwyr ac arbenigwyr cwricwlaidd y ffederasiwn. Gellid cyfoethogi’r addysg a gynigir mewn ysgolion cynradd bach trwy rannu, er enghraifft, athro iaith arbenigol neu athro drama.
C5. Beth yw’r manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn?
Mae bod yn rhan o ffederasiwn yn cynnig nifer o fanteision i ysgolion gan gynnwys dysgu a phrofiadau cymdeithasol ehangach i blant sy’n arwain at wella perfformiad disgyblion. Bydd ysgolion yn gallu rhannu adnoddau, arfer gorau, cyfleusterau ac arbenigedd. Gellir rhoi mwy o bwyslais ar strwythurau arwain a rheoli strategol a bydd gan staff gyfleoedd newydd i gydweithio a lleihau ynysu. Gellir osgoi dyblygu ymdrech ac mae’n gyfle i hyrwyddo gwell arbedion maint.
Ymhlith rhai o’r risgiau mae anawsterau trefnu posibl o ran darparu cwricwlwm mewn nifer o ysgolion. Gall cyfathrebu â rhieni a staff mewn gwahanol ysgolion fod yn her. Gall costau teithio fod yn uwch os bydd staff a disgyblion yn symud rhwng ysgolion i ddiwallu anghenion y cwricwlwm. Efallai y bydd materion sy’n ymwneud â chydberthnasau ac ymddiriedaeth i lywodraethwyr, penaethiaid a staff sy’n gweithio rhwng ysgolion. Dylai’r corff llywodraethu ffederal fod yn ymwybodol o’r risgiau posibl a llunio strategaethau a chamau gweithredu i’w lliniaru.
C6. A fydd fy ysgol yn colli ei hunaniaeth mewn ffederasiwn?
Ni fydd ysgolion mewn ffederasiwn yn colli eu hunaniaeth er y byddant yn rhannu corff llywodraethu sengl. Mae’r ysgolion yn cadw eu statws cyfreithiol ar wahân ac mae ganddynt eu dyraniadau cyllideb eu hunain a bydd pob ysgol unigol yn cael ei harolygu gan Estyn. Bydd yr ysgolion hefyd yn aros yn eu cymuned ac yn cadw eu cymeriad, eu henw, eu hethos a’u gwisg ysgol eu hunain. Er bod pob ysgol yn cael ei chyllideb unigol ei hun a bod yn rhaid iddi roi cyfrif amdani, mae cyfle, drwy’r corff llywodraethu sengl, i ddefnyddio cyllidebau a rennir ymhlith yr ysgolion yn y ffederasiwn. Mae ffedereiddio’n gweithio ar y sail bod gan bob ysgol ei chryfderau a’i manteision penodol ei hun, boed yn gyfleusterau, yn staff neu’n adnoddau.
C7. Beth sy’n digwydd i staff mewn ffederasiwn? A fydd eu hamodau gwasanaeth yn newid?
Mewn ffederasiwn, byddai pob aelod o staff wedi’i gyflogi ar yr un amodau gwasanaeth â’r rhai presennol a chan yr un cyflogwr. Pwy bynnag yw’r cyflogwr staff presennol fydd y cyflogwr newydd o dan y contract cyflogaeth. Yn achos ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol Reoledig, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir, yr awdurdod lleol yw’r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth, er bod corff llywodraethu’r ffederasiwn yn cadw cyfrifoldeb am rai swyddogaethau staffio h.y. cwynion gan staff, gallu, dileu swydd, materion disgyblu a diswyddo staff a phenodiadau. Y corff llywodraethu yw’r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth yn achos staff mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.
Dylai gwaith cynllunio strategol ac ariannol ar y cyd olygu y gellir diogelu swyddi yn well mewn unrhyw gyfnod o gywasgu cyfunol, ac y gellir gwneud y defnydd gorau o staff arbenigol, gan gydnabod pob gan bob aelod o staff cymorth ac addysgu sgiliau a gwybodaeth arbenigol. Byddai staff yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd o fewn ymagwedd gydlynol er mwyn sicrhau cymunedau dysgu proffesiynol sy’n defnyddio data a’r Model Cenedlaethol i ganolbwyntio a’r model cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar welliannau i ysgolion sy’n cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol a chynlluniau datblygu eu hysgolion.
Gall corff llywodraethu’r ysgolion ffederal benodi aelodau newydd o staff i weithio ym mhob ysgol yn y ffederasiwn. Gallai hyn gynnwys penodi pennaeth sengl i fod yn gyfrifol am yr holl ysgolion yn y ffederasiwn, neu benodi bwrsar neu berson sydd â sgiliau rheolaeth ariannol a/neu sgiliau rheoli busnes i oruchwylio agweddau ar fusnes y ffederasiwn heblaw addysgu.
C8. A oes modd i ffederasiwn gael un pennaeth sydd â chyfrifoldeb am yr holl ysgolion yn y ffederasiwn hwnnw?
Oes, os dyna yw dymuniad yr ysgolion; a gallai hynny fod yn opsiwn dichonadwy mewn ffederasiwn o ysgolion cynradd bach gwledig. Os dewisir yr opsiwn hwn ar gyfer ffederasiwn mwy, a fyddai’n cynnwys hyd at chwe ysgol, h.y. ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo, pan fo nifer fawr o ddisgyblion ym mhob un o’r ysgolion, dylai cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried sut y gellir rheoli trefniant o’r fath, a pha strwythur cymorth y byddai ei angen ar bennaeth sengl y ffederasiwn. Byddai’n rhaid ystyried, er enghraifft, sut y gellid gweithredu strwythur rheoli sy’n bodloni anghenion unigol pob un o’r ysgolion, a hefyd yn cynnal parhad y cwricwlwm ledled y ffederasiwn. Gallai hyn olygu cael rhai staff ym mhob ysgol yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu ynghyd â strwythur o swyddi eraill ar gyfer athrawon a fyddai’n gweithio ledled y ffederasiwn, a’r cyfan yn cael ei reoli gan bennaeth sengl.
Opsiwn arall y gallai cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ei ystyried, fyddai cadw pennaeth ym mhob ysgol sy’n ffedereiddio yn hytrach na phenodi pennaeth sengl.
O safbwynt gweithredu o ddydd i ddydd, gallai ysgolion ddymuno mabwysiadu trydydd opsiwn, sef penodi pennaeth ar y ffederasiwn yn ogystal â chadw pennaeth ym mhob un o’r ysgolion. Pe cytunid ar y drefn honno ac os penodid pennaeth trosfwaol i fod yn gyfrifol am y ffederasiwn, byddai’r pennaeth hwnnw’n aelod o’r corff llywodraethu. Os na wneid penodiad o’r fath, gall pennaeth pob un o’r ysgolion fod yn llywodraethwr.
C9. A fyddai’r ‘pennaeth’ sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y ffederasiwn yn gyfrifol am reoli penaethiaid yr ysgolion unigol o fewn y ffederasiwn, pe cytunid ar y strwythur hwnnw?
Gallai’r corff llywodraethu ddewis penodi pennaeth ar y ffederasiwn gyda chyfrifoldeb llawn dros yr holl ysgolion yn y ffederasiwn, a chael uwch-aelod o’r staff neu ddirprwy bennaeth yn unig yn gofalu am bob ysgol unigol. Os na fyddai’r uwch-aelodau hynny’n brifathrawon cymwysedig ac yn cyflawni’r ystod llawn o ddyletswyddau statudol pennaeth ysgol, yna byddai pennaeth y ffederasiwn yn gyfrifol am reoli perfformiad yr uwch-aelodau hynny o’r staff. Y corff llywodraethu fyddai’n gyfrifol am reoli perfformiad pennaeth y ffederasiwn.
C10. A gaiff rhiant-lywodraethwyr eu hethol gan y rhieni o’u hysgol yn unig neu gan rieni o bob ysgol yn y ffederasiwn?
Dylai’r cynnig i ffedereiddio ddatgan y nifer o riant-lywodraethwyr a fydd yn cynrychioli pob ysgol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob ysgol gael o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir gan y rhieni yn yr ysgol honno (neu a benodir gan y corff llywodraethu os nad oes rhiant yn sefyll i’w ethol), ond ni chaniateir i ysgol gael mwy na dau riant-lywodraethwr. Mae’n rhesymol, felly, ar ôl penderfynu ar y nifer o riant-lywodraethwyr a ganiateir i bob ysgol, mai’r rhieni yn yr ysgol dan sylw yn unig ddylai bleidleisio yn yr etholiad i ethol y rhiant-lywodraethwyr. Os penderfynir y dylai bob ysgol gael dau riant-lywodraethwr, ac os nad oes rhiant yn sefyll i’w ethol mewn ysgol benodol, neu os oes un yn unig yn sefyll, caiff y corff llywodraethu ffederal benodi rhiant-lywodraethwyr yn unol ag Atodlen 2 o Reoliadau Ffedereiddio 2014.
Golyga hynny y gallai’r corff llywodraethu benodi rhiant disgybl cofrestredig o’r ysgol; rhiant disgybl cofrestredig o ysgol arall yn y ffederasiwn; neu riant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol (neu o dan oedran ysgol gorfodol yn achos ysgol feithrin).
C11. A ellir cyfyngu ar ffederasiwn o ran amser?
Dylid ystyried bod ffedereiddio yn ymrwymiad hirdymor, ac nid ystryw dros dro. Bydd yr awdurdod lleol neu’r cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth ddofn i’r manteision a’r risg sy’n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn, gan gynnwys ei heffaith ar gyflawniad plant a phobl ifanc. Byddai ffederasiwn yn sefydlu cynlluniau strategol a gweithredol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad yr ysgolion. Cynlluniau ar gyfer y tymor canol a’r tymor hir fyddai cynlluniau o’r fath. Er gwaethaf hynny, mae Rheoliadau Ffedereiddio 2014 yn caniatáu i ysgolion unigol adael ffederasiwn, ac yn darparu ar gyfer diddymu ffederasiwn.
C12. Beth yw’r gwahaniaethau rhwng ffedereiddio ysgolion a chyfuno ysgolion? Os bydd dwy ysgol yn uno, gallant barhau’n agored yn eu cymuned ond byddant wedyn yn un ysgol aml-safle, gydag un enw, un ethos, un gyllideb, un cymeriad ac un wisg ysgol. Un pennaeth fyddai gan yr ysgol ac y mae’n debyg y câi staff eu diswyddo neu y byddai angen iddynt ailymgeisio am swyddi yn yr ysgol newydd. Mewn ysgolion aml-safle gallai’r awdurdod lleol hefyd gau un o safleoedd yr ysgol a throsglwyddo’r disgyblion i’r safleoedd eraill heb fynd trwy unrhyw broses statudol o gyhoeddi cynigion.
Mewn ffederasiwn, bydd yr ysgolion yn parhau’n agored yn eu cymunedau ond byddant hefyd yn cadw eu hunaniaeth, eu henw, eu hethos, eu cymeriad, eu cyllideb a’u gwisg ysgol eu hunain. Byddai’r staff hefyd yn cadw eu swyddi a hwyrach yn cael cyfleoedd ehangach i ddatblygu’n broffesiynol drwy weithio ym mhob un o ysgolion y ffederasiwn. Gall penaethiaid aros yn eu swyddi hefyd, er mai un pennaeth yn unig sydd gan rai ffederasiynau. Gellir cau ysgolion mewn ffederasiwn fel rhan o gynigion i ad-drefnu ysgolion, ond byddai’n rhaid i’r awdurdod lleol ddilyn proses statudol o gyflwyno cynigion er mwyn gwneud hyn.
C13. Beth all ddylanwadu ar ysgolion wrth benderfynu a ddylent uno neu ffedereiddio?
Efallai bod gan yr awdurdod lleol gynlluniau hirdymor ar gyfer ad-drefnu ysgolion o fewn ei hardal, a byddai angen i ysgolion ystyried y rhain a thrafod gyda’u hawdurdod lleol pa opsiwn yw’r mwyaf buddiol iddynt hwy ac sydd hefyd yn gydnaws â chynlluniau’r awdurdod lleol.
C14. A ddylem, fel cam cyntaf, ddechrau cydweithio ag ysgolion y gallem ffedereiddio gyda nhw?
Hwyrach y bydd cydweithio ag ysgolion eraill yn meithrin ymddiriedaeth rhyngoch, a hynny’n eich galluogi i sefydlu perthynas waith dda, a fyddai’n yn ei gwneud yn haws cymryd y cam nesaf tuag at ffedereiddio. Bydd y broses ffedereiddio yn llwyddo os bydd y staff a’r llywodraethwyr wedi ymrwymo i gydweithio er budd cymunedau’r ysgolion.
C15. A all ysgolion sefydlu corff llywodraethu ar y cyd cyn ffedereiddio’n ffurfiol?
Na – mae corff llywodraethu’r ysgolion ffederal yn dod i fodolaeth ar y dyddiad y daw’r ffederasiwn i rym, y mae’n rhaid iddo fod o leiaf 125 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir y cynigion ar gyfer ffedereiddio (neu 100 diwrnod os ffedereiddir ysgolion bach). Golyga hyn y bydd cyrff llywodraethu’r ysgolion sy’n ffedereiddio wedi cynnal etholiadau ar gyfer y llywodraethwyr craidd h.y. rhieni, athrawon a staff a bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi penodi llywodraethwyr sy’n cynrychioli’r awdurdod. Ar y dyddiad y daw’r ffederasiwn i rym, gall y corff llywodraethu sengl sydd newydd gyfarfod a phenodi ei lywodraethwyr cymunedol. Fodd bynnag, gall yr ysgolion sefydlu cyd-weithgor o lywodraethwyr i oruchwylio’r broses ffedereiddio os dymunant.
C16. Pan fo dwy o ysgolion cynradd bach gwledig yn ffedereiddio a ellid ad-drefnu fel bod disgyblion un cyfnod allweddol i gyd yn mynd i ysgol X a’r gweddill yn mynd i ysgol Y?
Gan ddibynnu ar y categori o ysgolion, mater i’r awdurdod lleol (yn achos ysgolion cymunedol) a’r corff llywodraethu (yn achos ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig) fyddai gwneud cynigion i newid ystod oedran ysgol, ar ôl ymgynghori â’r rhieni a phartïon eraill â diddordeb. Byddai angen i’r ysgolion fynd trwy’r broses statudol briodol er mwyn gwneud y newid.
C17. Beth fyddai’n digwydd pe bai disgybl yn cael ei wahardd o un ysgol mewn ffederasiwn? A ellid ei roi mewn ysgol arall yn yr un ffederasiwn?
Gellid – er bod ysgolion wedi’u ffedereiddio a’u bod yn rhannu corff llywodraethu mae’r ysgolion yn dal i fod yn endidau ar wahân fel na allai disgybl gael ei droi i ffwrdd gan un ysgol am ei fod wedi’i wahardd o ysgol arall yn yr un ffederasiwn.
Os bydd y disgybl wedyn yn cael ei wahardd yn barhaol o’r ail ysgol yn y ffederasiwn argymhellir y dylai’r pwyllgor disgyblu disgyblion sy’n cyfarfod i ystyried y gwaharddiad gynnwys aelodau’r corff llywodraethu nad ydynt yn gysylltiedig â’r ystyriaeth a roddwyd i’r gwaharddiad cyntaf.
Gwneir yr argymhelliad hwn er mwyn osgoi unrhyw ogwydd barn y gellid ei ystyried mewn perthynas â’r gwaharddiad cyntaf. Er na ellir bob amser ddarparu pwyllgor disgyblu cyflawn o aelodau newydd y corff llywodraethu dylid trafod unrhyw amgylchiadau o’r fath â’r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.
C18. A allem ni newid enw’r ysgol neu roi’r un enw i bob ysgol yn y ffederasiwn?
Un prif symbyliad i ffedereiddio, ac un o’i brif fanteision yw nad yw’r ysgolion yn colli eu hunaniaeth a’u henw, ond yn parhau’n sefydliadau ar wahân. Bydd enw pob ysgol sydd yn y ffederasiwn, yn ogystal ag enw’r ffederasiwn ei hunan, yn ymddangos ar yr offeryn llywodraethu newydd. Pennir y broses ar gyfer diwygio’r offeryn llywodraethu a newid manylion megis enwa’r ysgolion yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Dylai’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu ddod i gytundeb ynghylch y newidiadau arfaethedig. Os na allant gytuno, yr awdurdod lleol fydd â’r penderfyniad terfynol, ar ôl sicrhau na fydd yr un o’r newidiadau’n gamarweiniol.
Rhaid i bob ysgol mewn ffederasiwn gadw ei rhif cyfeirnod unigryw gwreiddiol a’i chyllideb. Gallai fod yn fater pur gymhleth a dyrys pe bai pob un o’r ysgolion yn penderfynu newid ei henw ac yn penderfynu mabwysiadu enw sengl wrth orfod rhoi cyfrif am gyllidebau ar wahân.
C19. Beth fydd yn digwydd i’r ysgol os na fydd yn ffedereiddio?
Byddai angen i’r corff llywodraethu hysbysebu swydd pennaeth llawn amser, ac mae’n debygol y byddai’n rhaid iddo ymrwymo i addysgu, yn dibynnu ar faint yr ysgol.
Mae ffedereiddio yn cael ei ystyried oherwydd yr her o recriwtio penaethiaid llawn amser i ysgolion bychain/ysgolion â chymeriad crefyddol. Mae pryder ynghylch y methiant posibl i recriwtio pennaeth parhaol llawn amser i’r ysgol, a allai gael effaith andwyol ar arweinyddiaeth a safonau. Gallai hyn arwain at effaith sylweddol ar ddyfodol yr ysgol yn dilyn arolygiad gan Estyn, a allai effeithio ar enw da’r ysgol a nifer y disgyblion sydd wedi cofrestru yn yr ysgol, a fyddai’n cael effaith ganlyniadol ar ei chyllideb ddirprwyedig.
C20. Pa mor llwyddiannus mae ffedereiddio wedi bod i ysgolion eraill?
Mae’r prif fanteision o ffedereiddio’n cynnwys:
- Darparu datblygiad proffesiynol ehangach i staff, yn enwedig cyfleoedd i arwain lle mae arweinwyr sylfaen/staff sy’n dirprwyo yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddod yn arweinwyr ysgol posibl yn y dyfodol
- Mwy o amser i’r pennaeth arwain (yn aml mae penaethiaid sy’n addysgu yn gweithio ar raddfa 3.5 diwrnod yn addysgu/cyflenwi ac 1.5 diwrnod yn arwain, felly mewn trefniadau 50/50 mae ganddyn nhw 2.5 diwrnod o arweinyddiaeth neilltuedig ar gyfer pob ysgol)
- Mwy o amser addysgu pwrpasol i ddisgyblion. Yn ystod yr amser y mae’r pennaeth i fod yn addysgu, maent yn aml yn cael eu tynnu i ffwrdd o’u gwers, gan amharu ar y dysgu; nid yw hyn yn wir mewn ysgol ffederal
- Cefnogi llwyth gwaith athrawon drwy alluogi athrawon i rannu adnoddau, arbenigedd a dogfennau cynllunio
- Perfformiad gwell mewn addysgu a dysgu drwy rannu arweinyddiaeth cwricwlwm/meysydd dysgu a phrofiad ar draws mwy nag un ysgol, creu rhwydweithiau proffesiynol, lleihau ynysigrwydd proffesiynol, a chyfleoedd i gymedroli safonau ledled y ffederasiwn
- Mae ffedereiddio yn denu arweinwyr mwy profiadol i’r swyddi
- Mae ffedereiddio wedi bod yn llwyddiannus wrth gynnal ysgolion bach yn Sir Benfro er gwaethaf y pwysau ariannol a’r pwysau sylweddol ar arweinwyr i gyflawni agenda ddiwygio Llywodraeth Cymru
- Mae ysgolion ffederal wedi cael gostyngiadau wrth brynu pethau penodol e.e. rhaglenni mathemateg neu ddarllen, sydd wedi gwneud y pryniant yn fwy fforddiadwy i’r ddwy ysgol. O ganlyniad, mae unrhyw hyfforddiant cysylltiedig posibl hefyd yn cael ei rannu
- Pan fydd penaethiaid gweithredol yn mynychu cyfarfodydd/hyfforddiant i benaethiaid maent yn cynrychioli’r ddwy ysgol sy’n cadw costau cyflenwi i lawr
- Mae gan gynghorau disgyblion y cyfle i gydweithio o fewn y ffederasiwn, gan greu cyfleoedd ehangach i’r disgyblion
- Mae gweithgareddau a rennir rhwng disgyblion yn lleihau costau ac yn cynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau penodol, chwaraeon tîm ac ymweliadau â theatrau er enghraifft.
C21. A fydd yr ysgolion yn y ffederasiwn yn gallu cadw eu cymdeithas rhieni ac athrawon eu hunain?
Byddant. Gall yr ysgolion ffederal gael cymdeithasau rhieni ac athrawon unigol.
C22. A all ysgolion ffedereiddio a chael un pennaeth ar y cyd ond cyrff llywodraethu ar wahân?
Na. Weithiau, lle mae swydd pennaeth yn wag ac nad yw’n bosibl penodi dirprwy bennaeth neu aelod arall o’r staff addysgu i gymryd swydd pennaeth dros dro, gellir penodi pennaeth ysgol arall i fod yn gyfrifol ac yn atebol am yr ysgol honno yn ogystal â’i rôl barhaus fel pennaeth ei ysgol ei hun.
Dylid ystyried y rôl hon fel prifathro dros dro nes bod trefniadau’n cael eu gwneud i recriwtio pennaeth parhaol neu fod trefniadau parhaol amgen yn cael eu gwneud, fel uno’r ysgolion neu greu ffederasiwn ffurfiol. Mae disgwyl y dylai’r trefniadau hyn fod dros dro ac yn destun adolygiad rheolaidd. Ni ddylent barhau’n hwy na dwy flynedd.
C23. A all y ddwy ysgol benodi dirprwy bennaeth i arwain yr ysgol yn ystod absenoldeb y pennaeth?
Os yw nifer y disgyblion a lefelau cyllido pob ysgol unigol yn gwarantu swydd dirprwy bennaeth, yna gall y ddwy ysgol, mewn theori, benodi dirprwy bennaeth i arwain yr ysgol yn ystod absenoldeb y pennaeth. Y corff llywodraethu fyddai’n gwneud y penderfyniad hwn. Mae ysgolion â 92+ o ddisgyblion yn gymwys i gael cyllid ar gyfer uwch-arweinwyr, y gall y corff llywodraethu ddewis ei ddefnyddio i benodi dirprwy bennaeth.