Llywodraethwyr Ysgol

ID: 5461, adolygwyd 29/09/2022

Dod yn Llywodraethwr Ysgol

Ethol cynrychiolwyr rhieini- lywodraethwyr

Datganiad ynglyn a’r personau a enwebwyd

Mae’r canlynol yn ddatganiad ynglyn a’r personau a enwebwyd ar gyfer eu hethol fel Cynrycholwyr Rhieni-Lywodraethwyr í wasanaethu ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Plant a Theuluoedd.

 

PERSONAU A ENWEBYD

 

 Cyfenw

 Enwau Eraill Yn Llawn

 Rhiant-Lywodraethwr yn

 Cyfeiriad

Moore

Nichola, Sian

Ysgol Gymunedol Egwlyswrw

 

Newport, SA42 ONZ

Parkin

James

 

St Oswald’s V.A School

Tenby, SA70 8RU

 

SWYDDOG CANLYNIADAU (Ethol CRhL - Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr) 

DYDDIEDIG y diwrnod hwn 2 Chwefror 2024

Dod yn Llywodraethwr Ysgol

Diolch am eich diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol. Gobeithio y bydd yr wybodaeth yr ydym wedi ei darparu’n eich helpu i wneud eich penderfyniad. 

Mae sawl math o bobl yn dod yn llywodraethwyr ysgolion. Mae ganddynt i gyd reswm penodol dros wasanaethu ar y corff llywodraethu. Caiff cyfansoddiad corff llywodraethu ei reoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac mae’n amrywio yn ôl categori’r ysgol a maint yr ysgol. Mae gan bob ysgol lywodraethwyr yn y categorïau canlynol:

  • Rhiant-lywodraethwyr – a etholwyd gan rieni i ddisgyblion yn yr ysgol
  • Athro-lywodraethwyr – a etholwyd gan athrawon yn yr ysgol
  • Llywodraethwyr Awdurdod Lleol – a benodwyd gan yr awdurdod lleol (ALl)

Bydd gan gyrff llywodraethu rai o’r llywodraethwyr canlynol hefyd, gan ddibynnu ar y math o ysgol:

  • Llywodraethwyr cymunedol – a benodwyd gan y corff llywodraethu ei hun
  • Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol – sy’n cynrychioli’r cyngor tref/cymuned lleol
  • Llywodraethwyr cynrychioliadol – mewn ysgolion arbennig yn unig
  • Llywodraethwyr sefydledig – a benodwyd gan y Sefydliad sy’n gysylltiedig â’r ysgol, yr Eglwys fel arfer
  • Llywodraethwyr o blith y staff – a etholwyd gan y staff yn yr ysgol nad ydynt yn addysgu
  • Disgybl-lywodraethwyr cyswllt (ysgolion uwchradd) – a benodwyd gan y Cyngor Ysgol.

Gan bod amodau’n gysylltiedig â llawer o gategorïau llywodraethwyr, gallai’r wybodaeth hon fod yn fwyaf defnyddiol i’r rhai sy’n ystyried dod yn rhiant-lywodraethwyr, yn llywodraethwyr cymunedol neu’n llywodraethwyr awdurdod lleol a all ymgeisio i gael eu hystyried ar gyfer y rôl ar gorff llywodraethu.

Rhiant-lywodraethwyr

I fod yn rhiant-lywodraethwr rhaid bod gennych blentyn sy’n ddisgybl yn yr ysgol yr ydych ar ei chorff llywodraethu ar adeg eich ethol. Caiff rhiant-lywodraethwyr eu hethol fel cynrychiolwyr buddiannau rhieni i ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd ac i roi safbwynt rhiant am benderfyniadau y gall y corff llywodraethu fod yn eu gwneud. Caiff rhieni eu hysbysu ynghylch lle gwag ar gyfer rôl rhiant-lywodraethwr trwy lythyr a ddosberthir gan yr ysgol. Gall gwybodaeth gael ei rhannu gyda rhieni mewn ffyrdd eraill hefyd. Os ydych yn dymuno cael gwybod pan fydd y lle gwag nesaf ar gael yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â GSSAdmin@pembrokeshire.gov.uk

Gall rhiant-lywodraethwr barhau i wasanaethu fel llywodraethwr tan ddiwedd ei gyfnod o bedair blynedd yn y rôl, hyd yn oed os bydd ei blentyn yn gadael yr ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Llywodraethwyr Awdurdod Lleol

Caiff llywodraethwyr awdurdod lleol eu penodi gan yr ALl sy’n cynnal yr ysgol. Gall llywodraethwyr ALl gyflwyno barn yr ALl ond nid cenhadon yr ALl ydynt ac ni all yr ALl orchymyn eu bod yn arddel barn benodol.

Llywodraethwyr Cymunedol

Caiff y llywodraethwyr hyn eu gwahodd gan lywodraethwyr eraill i ymuno â’r corff llywodraethu ac fe’u penodir i’r corff llywodraethu. Mae aelodau cymunedol yn dod â’u profiad neu eu sgiliau hwy eu hunain i’r corff llywodraethu a gallant weithredu fel cyswllt â’r gymuned y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu. Mae llywodraethwyr cymunedol yn byw neu’n gweithio yng nghymuned ardal yr ysgol fel arfer ac maent yn ymrwymedig i lywodraethu’r ysgol yn dda ac i’w llwyddiant.

Sgiliau a Phrofiad

Dylai cyrff llywodraethu a’r ALl amcanu at benodi llywodraethwyr â gwybodaeth, profiad a sgiliau penodol i sicrhau bod gan y corff llywodraethu fynediad at sgiliau eang ar y cyfan. Dyma rai o'r meysydd allweddol y gallai fod gan gorff llywodraethu ddiddordeb ynddynt:

  • Her ac Atebolrwydd
  • Cyfathrebu
  • Disgresiwn
  • Rheolaeth ariannol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Adnoddau Dynol a Recriwtio
  • Didueddrwydd
  • Dehongli data
  • Arweinyddiaeth
  • Monitro a Gwerthuso
  • Cynllunio strategol

Ymrwymiad Amser

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gorff llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor. Mae’r cyfarfod hwn yn debygol o gymryd rhwng un a dwy awr. Mae rhai ysgolion yn cynnal eu cyfarfodydd ar ddiwedd y diwrnod ysgol, eraill yn gynnar gyda’r nos. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i gorff llywodraethu gwrdd yn amlach na hyn. Rydych hefyd yn debygol o fod ar bwyllgor sydd, unwaith eto, yn debygol o gwrdd unwaith y tymor. Rhaid i chi hefyd neilltuo amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd trwy ddarllen gwaith papur ymlaen llaw a dylech hefyd fod yn barod i fynychu digwyddiadau eraill gan yr ysgol ac, o bryd i’w gilydd, i ymweld â’r ysgol yn ystod y diwrnod gwaith, trwy drefniant gyda’r Pennaeth. Efallai y gofynnir i chi hefyd a ydych ar gael i wasanaethu ar bwyllgor statudol i ymdrin â mater gwahardd disgybl neu ddisgyblu staff. Yn ffodus, anaml y cynhelir y rhain.

Fel y gwyddoch mwy na thebyg, gwirfoddolwyr di-dâl yw’r holl lywodraethwyr, felly gallai fod angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr ynglŷn â chael amser o’r gwaith ar gyfer cyfarfodydd. Mae’n bwysig iawn, yn ogystal â’r sgiliau, bod gennych yr amser a’r ymrwymiad i’w rhoi i’r corff llywodraethu. Tîm yw’r corff llywodraethu ac mae’n ddibynnol ar gyfraniad llawn yr holl aelodau.

Os ydych yn dal i fod â diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol, darllenwch yr adrannau eraill cyn cwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau ar gyfer rôl llywodraethwyr ALl a chymunedol i ehangu’r gronfa o bobl y gellir penodi ohoni, hyd yn oed os nad oes lle gwag mewn ysgol yn agos atoch chi ar hyn o bryd. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth ar ffeil nes bydd lle gwag yn codi ac ar yr adeg honno byddwn yn ei rhannu gyda’r rhai sy’n gwneud y penodiad.

Mae gwybodaeth am sut y mae’r Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yn trin data ar gael.

I drafod rôl llywodraethwr ysgol ymhellach, cysylltwch â:

Charlie Blythe

Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr

01437 775132

charlotte.blythe@pembrokeshire.gov.uk

ID: 4054, adolygwyd 02/02/2024

Beth mae Corff Llywodraethu (CLl) yn ei wneud?

Yr ateb syml i hyn yw ei fod yn cefnogi gwaith yr ysgol. Mae’n darparu safbwynt gwahanol i un y staff a gall helpu’r ysgol i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fonitro ei bod yn gwneud yr hyn y mae’n dweud ei bod yn ei wneud. Mae hefyd yn helpu i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau’r ysgol. Yn fyr, mae’n gweithredu fel cyfaill beirniadol.

Yr hyn nad yw’r corff llywodraethu’n ei wneud yw ymwneud â rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd. Rhaid i chi ddeall yn glir mai cyfrifoldeb y Pennaeth yw hyn. Er y gall fod gan aelodau o’r corff llywodraethu sgiliau y gallant eu defnyddio i gefnogi’r ysgol e.e. ym maes cyllid neu iechyd a diogelwch, mae’n bwysig cofio peidio â dweud wrth y staff sut i wneud eu swyddi. Er bod gan bob un ohonom syniad beth sy’n gwneud athro da/athrawes dda mwy na thebyg, nid yw llywodraethwyr yn rhan o ffurfio barnau ynglŷn ag athrawon. Rôl y corff llywodraethu yw sicrhau bod trefniadau yn eu lle i’r Pennaeth ac uwch aelodau o staff fonitro sut y mae staff yn perfformio.

Pam fod gan ysgolion gyrff llywodraethu?

Yr ateb syml yw i’w helpu i gyflawni eu cenhadaeth: darparu’r addysg orau bosibl ar gyfer eu disgyblion. Gall corff llywodraethu wneud hyn trwy:

  • helpu’r ysgol i osod safonau uchel trwy gynllunio ar gyfer dyfodol yr ysgol a gosod targedau ar gyfer gwella’r ysgol
  • bod yn wir gyfaill i’r ysgol, mewn cyfnodau da a chyfnodau gwael, gan gynnig ei gefnogaeth, cyngor a her i’r ysgol
  • herio’r ysgol i ymegnïo’n barhaus i wella ym mhopeth a wna
  • monitro’r cynnydd gyda chynlluniau sydd gan yr ysgol ar gyfer ei datblygiad a monitro effaith y cynlluniau hyn
  • helpu’r ysgol i fod yn ymatebol i anghenion y gymuned a gwneud yr ysgol yn fwy atebol i’r cyhoedd am yr hyn a wna.

Ceir rhai pwerau a dyletswyddau gweddol benodol hefyd. Dyma restr o rai o’r meysydd pwysicaf y mae’n rhaid i lywodraethwyr fod yn weithgar ynddynt:

  • Safonau – sicrhau dull strategol a systematig o hybu safonau uchel o ran cyflawniad addysgol.
  • Targedau – gosod targedau priodol ar gyfer cyflawniad disgyblion a monitro canlyniadau yn erbyn y targedau.
  • Polisïau – penderfynu sut, o safbwynt strategol eang, y dylai'r ysgol gael ei rhedeg.
  • Cyllid – penderfynu sut i wario’r gyllideb a ddyrannwyd i’r ysgol a monitro gwariant.
  • Staffio – penderfynu ar nifer y staff, y polisi cyflog a gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyflog staff.
  • Penodiadau – penodi’r Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth ac aelodau eraill o staff.
  • Disgyblaeth – cytuno ar weithdrefnau ar gyfer ymddygiad a disgyblaeth staff.
  • Gwaith dilynol ar ôl arolygiad – llunio cynllun gweithredu ar ôl arolygiad.
  • Cwynion -gweler isod.

Hefyd, mewn ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, mae llywodraethwyr yn gyfrifol am addysg grefyddol, addoli ar y cyd, derbyniadau, y safle a chyflogi staff.

Dylai fod yn gysur gwybod mai ychydig iawn o benderfyniadau y byddai’n rhaid i gorff llywodraethu eu gwneud heb gyngor y Pennaeth.

Mae’n bwysig iawn pwysleisio:

  1. bod gan lywodraethwyr gyfrifoldeb ar lefel llunio polisi, nid o ran rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd
  2. bod awdurdod yn perthyn i’r corff llywodraethu yn ei gyfanrwydd; nid oes gan y llywodraethwr unigol unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau na gweithredu
  3. unwaith y gwneir penderfyniad, bod llywodraethwr yn derbyn y cydgyfrifoldeb a ddaw yn sgîl bod yn llywodraethwr, hyd yn oed os yw'n benderfyniad y dadleuodd y llywodraethwr yn ei erbyn.

Cwynion

Mae pob corff llywodraethu wedi mabwysiadu Polisi Cwynion ar gyfer ei ysgol. Rhaid i bawb gydymffurfio â’r polisi, gan symud trwy Gamau 1 (lefel athro/athrawes) a 2 (lefel y Pennaeth), cyn y gall y Corff Llywodraethu ymwneud â’r gŵyn (Cam 3). Pan fo cwyn yn cyrraedd Cam 3 yn y broses bydd angen i Bwyllgor Cwynion y corff llywodraethu gwrdd i ystyried pryderon yr achwynydd.

Mae’n bwysig nodi na all cyrff llywodraethu a llywodraethwyr unigol fod yn rhan o ymdrin â phryderon na chwynion tan y cam priodol yn y Polisi Cwynion (Cam 3).

I gyflwyno cwyn ffurfiol, dylai aelod o’r cyhoedd ymweld â gwefan yr ysgol i gael copi o’i Pholisi Cwynion neu gysylltu â’r ysgol a gofyn am gopi os nad yw hwn ar gael.

ID: 4056, adolygwyd 26/07/2023

Beth mae llywodraethwr yn ei wneud?

Mae gan bob llywodraethwr yr un pwerau, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ni waeth i ba gategori y maent yn perthyn fel llywodraethwr. Fel llywodraethwr, rydych yn gweithredu er lles yr holl blant yn yr ysgol. Ni ddylech ei ystyried yn gyfle i gael unrhyw fanteision i blentyn penodol.

Un o’r agweddau allweddol ar fod yn llywodraethwr yw gofyn cwestiynau. Fel llywodraethwr rydych yn dod â’ch safbwynt penodol chi eich hun i’r corff llywodraethu ac, efallai, safbwynt y rhan o’r gymuned yr ydych yn ei chynrychioli a gallwch rannu’r safbwyntiau hyn gydag aelodau eraill o’r corff llywodraethu. Efallai y byddwch yn cael gwybodaeth nad yw aelodau eraill o’r gymuned yn ymwybodol ohoni a gall hyn ddylanwadu ar y ffordd y byddwch yn pleidleisio; dylai’r ffordd y pleidleisiodd unigolion ar y corff llywodraethu aros yn gyfrinachol. Mae’r penderfyniadau a wnaed yn cael eu cofnodi yn y cofnodion, sy’n gofnod cyhoeddus, ond nid adroddir ar fanylion trafodaethau, a phwy ddywedodd beth.

Rôl Rhiant-lywodraethwr

Mae gan riant-lywodraethwyr yr un pwerau, dyletswyddau a chyfrifoldebau â’r holl lywodraethwyr eraill. Fel llywodraethwr, mae disgwyl iddynt weithredu er budd yr holl blant yn yr ysgol. Ni ddylai rhiant-lywodraethwyr ei ystyried yn gyfle i gael unrhyw fanteision i’w plentyn eu hunain.

Mae rhiant-lywodraethwyr yn dod â safbwynt penodol rhiant i’r corff llywodraethu, gan sicrhau bod yr holl lywodraethwyr yn ymwybodol o farn rhieni. Maent yn cynrychioli rhieni, ond nid cennad mohonynt. Mae hyn yn golygu, er y dylai rhiant-lywodraethwyr gynrychioli barn rhieni, y gallant hefyd fynegi eu barn eu hunain a phleidleisio yn ôl eu daliadau eu hunain ar unrhyw fater. 

Mae’r un peth yn wir am lywodraethwyr sy’n cynrychioli staff yr ysgol neu eu cyngor lleol.

ID: 4057, adolygwyd 26/07/2023

Gofynion ar gyfer bod yn llywodraethwr ysgol

Gofynion ar gyfer bod yn llywodraethwr ysgol

Yn dilyn penodiad llwyddiannus mae nifer o ofynion y bydd disgwyl i lywodraethwr ysgol newydd eu hateb. Gallai hyn fod yn sgîl deddfwriaeth y llywodraeth neu o ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan y corff llywodraethu.

Datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae holl gyrff llywodraethu Sir Benfro wedi penderfynu y dylai eu llywodraethwyr gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a adwaenid yn flaenorol fel y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), fel modd i ddiogelu plant a phobl ifanc Sir Benfro. Mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (yn agor mewn tab newydd) yn ei gwneud yn glir, os yw corff llywodraethu’n gofyn i lywodraethwr gael gwiriad o’r fath a bod y llywodraethwr yn gwrthod, y byddai’n cael ei anghymhwyso rhag gwasanaethu fel llywodraethwr. 

Os ydych yn ansicr a fyddech yn fodlon cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, dylech ystyried yn ofalus a ddylech ymgeisio am rôl llywodraethwr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y broses cysylltwch ag aelod o dîm y Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr.

Hyfforddiant i Lywodraethwyr

Mae’n ofynnol i’r holl lywodraethwyr newydd gwblhau dwy sesiwn hyfforddi orfodol, sef Hyfforddiant Sefydlu i Lywodraethwyr Newydd a Defnyddio Data ar gyfer Gwella Ysgolion, o fewn 1 flwyddyn i gael eu penodi/eu hethol. Caiff y cyrsiau hyn eu rhedeg yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, ond maent hefyd ar gael ar-lein. Bydd methu â chwblhau’r cyrsiau hyn o fewn y cyfnod rhagnodedig yn arwain at waharddiad rhag bod yn llywodraethwr am hyd at chwe mis, nes bod yr hyfforddiant wedi cael ei gwblhau. Bydd methu â chwblhau’r hyfforddiant erbyn diwedd cyfnod y gwaharddiad yn arwain at anghymhwysiad.

Os ydych yn ansicr a fyddech yn fodlon mynychu’r sesiynau hyfforddi hyn, dylech ystyried yn ofalus a ddylech ymgeisio am rôl llywodraethwr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y broses cysylltwch ag aelod o dîm y Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr.

Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i lywodraethwr:

  • Fod yn 18 oed neu’n hŷn ar adeg ei (h)ethol neu ei b/phenodi. Gall disgyblion fod yn llywodraethwyr ond ychydig sy’n debygol o fod yn gymwys
  • Peidio â bod yn llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol (oni bai eu bod yn llywodraethwr ex officio neu’n llywodraethwr dros dro neu’n llywodraethwr ychwanegol mewn ysgol sy’n peri pryder)
  • Peidio â bod yn llywodraethwr ex officio a nodir yn offeryn llywodraethu mwy na dwy ysgol
  • Peidio â bod yn fethdalwr nac wedi’u hanghymhwyso dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986 neu orchymyn a wnaed dan adran 429(2)(b) Deddf Ansolfedd 1986  
  • Peidio â bod wedi eu diswyddo fel Ymddiriedolwr Elusen neu ymddiriedolwr ar ran elusen gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli, neu dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990 rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff
  • Peidio â bod wedi’u cynnwys yn rhestr yr athrawon neu weithwyr y’u gwaherddir rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc neu y cyfyngir arnynt yn hynny o beth (a elwir yn Rhestr 99 ar hyn o bryd)
  • Peidio â bod yn agored i gael eu cadw’n gaeth dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Peidio â bod wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn athro neu athrawes, yn gyflogai o fath arall mewn ysgol neu’n berchennog ysgol annibynnol
  • Peidio â bod wedi’u dedfrydu i 3 mis neu fwy yn y carchar (heb opsiwn i dalu dirwy) yn y 5 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr neu ers dod yn llywodraethwr
  • Peidio â bod wedi cael dedfryd o 2½ flynedd neu fwy o garchar yn yr 20 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr
  • Peidio â bod wedi cael dedfryd o 5 mlynedd neu fwy o garchar ar unrhyw adeg
  • Peidio â bod wedi cael dirwy am achosi niwsans neu aflonyddwch ar safle ysgol yn ystod y 5 mlynedd cyn neu ers cael eu penodi neu eu hethol yn llywodraethwr.

Ar ôl darllen yr holl wybodaeth a ddarparwyd, os ydych yn dal i fod â diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol, ymgeisiwch trwy ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein Cais i wasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth awtomatig pan fyddwch yn cyflwyno'r ffurflen hon. Os nad ydych yn cael neges e-bost ddilynol, bersonol, gan dîm gweinyddol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr o fewn 24 awr i gyflwyno’r ffurflen, cysylltwch â’r swyddfa yn gssadmin@pembrokeshire.gov.uk

Diolch eto am eich diddordeb.

ID: 4058, adolygwyd 26/07/2023

Cysylltwch tim Cefnogi'r Llywodraethwyr

Charlie Blythe – Prif Swyddog Cymorth i Lywodraethwyr

Charlie sy’n arwain y tîm sy’n rhoi cymorth a chyngor i lywodraethwyr ynghylch gweithdrefnau cyrff llywodraethu a rheoliadau Llywodraeth Cymru.

Mae Charlie yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr gwella ysgolion ar agweddau ar wella ysgolion, mae’n lledaenu gwybodaeth a chanllawiau, yn arwain rhai cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr ac yn ysgrifennu deunyddiau hyfforddi. Mae hi’n rhoi cymorth i sefydlu cyrff llywodraethu dros dro ysgolion newydd, gan fynychu eu cyfarfodydd a chynorthwyo ysgolion sy’n ystyried trefniadau ffedereiddio.

Yn ogystal â rhoi cyngor, cymorth a gwybodaeth i lywodraethwyr, mae Charlie hefyd yn mynychu nifer o gyfarfodydd cyrff llywodraethu i roi cymorth.

Mae Charlie yn paratoi amserlenni cyfarfodydd, agendâu ar gyfer cyfarfodydd a dogfennaeth arall, ac yn goruchwylio’r broses o gynhyrchu cofnodion, adroddiadau a rhaglenni hyfforddi.

Ffôn: (01437) 775132
e-bost: Charlotte.Blythe@pembrokeshire.gov.uk

 

Meinir Williams, Rhian Derrick a Lauren Clewes – Swyddogion Cymorth i Lywodraethwyr

Meinir, Rhian a Lauren yw’r Swyddogion Cymorth i Lywodraethwyr, a hwythau’n cefnogi Charlie yn ei rôl. Mae’r tîm yn gweithredu fel clercod cofnodion ar gyfer nifer o gyrff llywodraethu ac yn paratoi’r pecynnau cyfarfodydd ar gyfer holl gyfarfodydd tymhorol cyrff llywodraethu llawn. Maent yn gyfrifol am eu hysgolion eu hunain a hwy yw’r pwynt cyswllt cyntaf os bydd gan lywodraethwyr unrhyw ymholiadau. Maent yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen hyfforddi, a sicrhau bod yr holl hyfforddiant i lywodraethwyr yn cael ei weinyddu’n effeithiol gan gynnwys trefnu sesiynau hunanadolygu a hyfforddiant pwrpasol, a chynnal a diweddaru cofnodion hyfforddi llywodraethwyr.

Mae’r tîm yn cynnal y gronfa ddata o aelodau cyrff llywodraethu, ac yn cynorthwyo gyda rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i lywodraethwyr.

Ffôn: (01437) 775939

e-bost: Meinir.Williams@pembrokeshire.gov.uk

 

Rhian Derrick

(01437) 775103

Rhian.Derrick@pembrokesire.gov.uk

Lauren Clewes

(01437) 775162

Lauren.Clewes@pembrokeshire.gov.uk

 

E-bost ar gyfer Ymholiadau Cyffredinol: GSSAdmin@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1263, adolygwyd 26/07/2023