Llywodraethwyr Ysgol

Gofynion ar gyfer bod yn llywodraethwr ysgol

Gofynion ar gyfer bod yn llywodraethwr ysgol

Yn dilyn penodiad llwyddiannus mae nifer o ofynion y bydd disgwyl i lywodraethwr ysgol newydd eu hateb. Gallai hyn fod yn sgîl deddfwriaeth y llywodraeth neu o ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan y corff llywodraethu.

Datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae holl gyrff llywodraethu Sir Benfro wedi penderfynu y dylai eu llywodraethwyr gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a adwaenid yn flaenorol fel y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), fel modd i ddiogelu plant a phobl ifanc Sir Benfro. Mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (yn agor mewn tab newydd) yn ei gwneud yn glir, os yw corff llywodraethu’n gofyn i lywodraethwr gael gwiriad o’r fath a bod y llywodraethwr yn gwrthod, y byddai’n cael ei anghymhwyso rhag gwasanaethu fel llywodraethwr. 

Os ydych yn ansicr a fyddech yn fodlon cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, dylech ystyried yn ofalus a ddylech ymgeisio am rôl llywodraethwr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y broses cysylltwch ag aelod o dîm y Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr.

Hyfforddiant i Lywodraethwyr

Mae’n ofynnol i’r holl lywodraethwyr newydd gwblhau dwy sesiwn hyfforddi orfodol, sef Hyfforddiant Sefydlu i Lywodraethwyr Newydd a Defnyddio Data ar gyfer Gwella Ysgolion, o fewn 1 flwyddyn i gael eu penodi/eu hethol. Caiff y cyrsiau hyn eu rhedeg yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, ond maent hefyd ar gael ar-lein. Bydd methu â chwblhau’r cyrsiau hyn o fewn y cyfnod rhagnodedig yn arwain at waharddiad rhag bod yn llywodraethwr am hyd at chwe mis, nes bod yr hyfforddiant wedi cael ei gwblhau. Bydd methu â chwblhau’r hyfforddiant erbyn diwedd cyfnod y gwaharddiad yn arwain at anghymhwysiad.

Os ydych yn ansicr a fyddech yn fodlon mynychu’r sesiynau hyfforddi hyn, dylech ystyried yn ofalus a ddylech ymgeisio am rôl llywodraethwr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y broses cysylltwch ag aelod o dîm y Gwasanaethau Cymorth i Lywodraethwyr.

Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i lywodraethwr:

  • Fod yn 18 oed neu’n hŷn ar adeg ei (h)ethol neu ei b/phenodi. Gall disgyblion fod yn llywodraethwyr ond ychydig sy’n debygol o fod yn gymwys
  • Peidio â bod yn llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol (oni bai eu bod yn llywodraethwr ex officio neu’n llywodraethwr dros dro neu’n llywodraethwr ychwanegol mewn ysgol sy’n peri pryder)
  • Peidio â bod yn llywodraethwr ex officio a nodir yn offeryn llywodraethu mwy na dwy ysgol
  • Peidio â bod yn fethdalwr nac wedi’u hanghymhwyso dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986 neu orchymyn a wnaed dan adran 429(2)(b) Deddf Ansolfedd 1986  
  • Peidio â bod wedi eu diswyddo fel Ymddiriedolwr Elusen neu ymddiriedolwr ar ran elusen gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli, neu dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990 rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff
  • Peidio â bod wedi’u cynnwys yn rhestr yr athrawon neu weithwyr y’u gwaherddir rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc neu y cyfyngir arnynt yn hynny o beth (a elwir yn Rhestr 99 ar hyn o bryd)
  • Peidio â bod yn agored i gael eu cadw’n gaeth dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Peidio â bod wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn athro neu athrawes, yn gyflogai o fath arall mewn ysgol neu’n berchennog ysgol annibynnol
  • Peidio â bod wedi’u dedfrydu i 3 mis neu fwy yn y carchar (heb opsiwn i dalu dirwy) yn y 5 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr neu ers dod yn llywodraethwr
  • Peidio â bod wedi cael dedfryd o 2½ flynedd neu fwy o garchar yn yr 20 mlynedd cyn dod yn llywodraethwr
  • Peidio â bod wedi cael dedfryd o 5 mlynedd neu fwy o garchar ar unrhyw adeg
  • Peidio â bod wedi cael dirwy am achosi niwsans neu aflonyddwch ar safle ysgol yn ystod y 5 mlynedd cyn neu ers cael eu penodi neu eu hethol yn llywodraethwr.

Ar ôl darllen yr holl wybodaeth a ddarparwyd, os ydych yn dal i fod â diddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol, ymgeisiwch trwy ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein Cais i wasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth awtomatig pan fyddwch yn cyflwyno'r ffurflen hon. Os nad ydych yn cael neges e-bost ddilynol, bersonol, gan dîm gweinyddol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr o fewn 24 awr i gyflwyno’r ffurflen, cysylltwch â’r swyddfa yn gssadmin@pembrokeshire.gov.uk

Diolch eto am eich diddordeb.

ID: 4058, adolygwyd 26/07/2023