Manylion Eiddo

14 Stryd y Priordy, Aberdaugleddau

*** AR OSOD ***

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 12pm – 23 Chwefror 2026

 

Lleoliad

14 Stryd y Priordy, Aberdaugleddau 

 

Disgrifiad

Uned fasnachol 558 troedfedd sgwâr o faint mewn lleoliad gwych i wneud argraff weledol. Addas ar gyfer defnydd manwerthu a masnachol, yn elwa o gyfleusterau parcio ceir agos, a gerllaw ardal siopa flaenllaw yn Aberdaugleddau. Gellid rhannu'r ardal fewnol yn ddwy ystafell, neu gynnig storfa gydag ardal sinc a chegin, mae hefyd yn cynnwys cegin a thoiledau cymunol yn y cefn.

 

Gwasanaethau

Wedi’i gysylltu â dŵr o’r prif gyflenwad, trydan a draenio.

 

Rhent

£4,400 y flwyddyn (£366 y mis)

 

Tymor y les

Telerau hyblyg ar gael rhwng tair a 15 mlynedd

 

Ardrethi busnes

Gwerth ardrethol £3,200 (rydym wedi cael gwybod bod yr eiddo yn gymwys i gael rhyddhad o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach)

 

Tystysgrif Perfformiad Ynni

I’w gadarnhau


Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein Ffurflen Gwerthu a Gosod ar-lein. Ymholiad Gwerthu a Gosod / Cais am weld yr eiddo

 

Ffurflen gais

Cwblhewch y ffurflen gais, ac anfonwch hi drwy e-bost at rose.howard@pembrokeshire.gov.uk

 

Polisi Trafodion

Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro 

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 14733, revised 02/03/2026