Manylion Eiddo
25 Y Cwrt, Glan yr Afon, Hwlffordd, SA61 2AN
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau
Hyd nes y’i gosodir
Lleoliad
25 Y Cwrt, Glan yr Afon, Hwlffordd, SA61 2AN
Disgrifiad
Wedi'i leoli mewn lleoliad dymunol ar lan yr afon, mae'r adeilad yng nghanol Hwlffordd, yn agos at faes parcio a chysylltiadau trafnidiaeth. Mae'r adeilad manwerthu llawr daear hwn yn cynnwys gofod manwerthu bach gydag ardal i staff. Mae cyfleusterau toiled ar wahân ar y safle, ac mae cyfleustodau yn gynwysedig. Yn ddelfrydol ar gyfer manwerthwyr bwtîc, mentrau creadigol neu wasanaethau proffesiynol, mae'r uned yn cynnig ffryntiad gwydr mawr gydag ardal tu mewn yn mesur 20m² (215tr²).
Gwasanaethau
Mae dŵr a thrydan o’r prif gyflenwad a’r system ddraenio wedi'u cynnwys yn y tâl gwasanaeth.
Rhent
£2,500 y flwyddyn neu £208 y mis
Tymor y les
Telerau hyblyg i’w trafod, o gyfnod o dair blynedd i dymor hirach
Ardrethi busnes
Tenant i wneud ei ymholiadau ei hun
Costau cyfreithiol
Tenant i ysgwyddo ei gostau ei hun
Tystysgrif perfformiad ynni
Yn yr arfaeth
Geirdaon
Bydd y cyngor yn cynnal gwiriadau credyd ar y darpar denant.
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein ffurflen gwerthu a gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais i weld yr eiddo 01437 775874
Polisi trafodion
Mae ein polisi trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.