Manylion Eiddo
Cyfleustra cyhoeddus Marloes, Glebe Lane, Marloes
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Yn amodol ar ddiddordeb
Lleoliad
Cyfleustra cyhoeddus Marloes, Glebe Lane, Marloes
Disgrifiad
Mae’r adeilad unllawr wedi’i wneud o frics, o dan do llechi ar ongl, a gellid ei ddefnyddio i sawl pwrpas gwahanol yn amodol ar gael caniatâd cynllunio. Mae’r cyfleuster cyhoeddus wedi’i leoli gerllaw’r parc chwarae ym mhentref Marloes.
Yn yr eiddo ar hyn o bryd mae toiledau i ddynion a menywod a thoiled i’r anabl.
Arwynebedd mewnol gros yr adeilad: 18 o fetrau sgwâr (194 o droedfeddi sgwâr)
Cynllun mewnol
Gwasanaethau
Bydd rhaid i’r tenant dalu am osod cyflenwad trydan a mesurydd ar wahân.
Rhent
Wrth lunio eich cynnig mae angen i chi awgrymu faint o rent fyddwch chi’n barod i’w dalu a rhoi manylion am y defnydd arfaethedig i ni ei ystyried.
Noder: Rhaid cadw cyfleuster toiled yn yr eiddo a sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd.
Tymor y brydles
Gwahoddir cynigion ar gyfer prydles. Byddai unrhyw brydles a roddir ar sail atgyweirio ac yswirio llawn, sy’n golygu y byddai’r tenant yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn yr adeilad. Hyd y brydles i’w gytuno.
Mae’r adeilad yn addas ar gyfer defnydd gwahanol yn amodol ar gydsyniadau perthnasol a chaniatâd cynllunio, ond rhaid cadw rhan o’r adeilad fel cyfleuster cyhoeddus a’r ymgeisydd llwyddiannus fydd yn gyfrifol am weithredu, stocio a glanhau’r cyfleuster.
Bydd y brydles yn cael ei chontractio y tu allan i warchodaeth Deddf Landlord a Thenant 1954 a dylai partïon â diddordeb geisio cyngor cyfreithiol priodol ynghylch y goblygiadau.
Ardrethi busnes
Dylai partïon sydd â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch ardrethi busnes.
Tystysgrif Perfformiad Ynni
Eithriedig
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Mae’r adeilad wedi’i gau ag estyllod ar hyn o bryd felly mae’n debygol y bydd rhaid i bobl ymweld â’r eiddo mewn grwpiau. Bydd partïon â diddordeb yn cael gwybod am y dyddiadau a’r amserau pan fydd hyn yn digwydd. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r ddesg gymorth eiddo trwy ein ffurflen gwerthu a gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais i weld yr eiddo
Ffurflen gais
I wneud cais am ffurflen mynegi diddordeb, cysylltwch â’r Desg Gymorth Eiddo Ymholiadau tir ac eiddo
Polisi Trafodiadau
Mae ein Polisi Trafodiadau i'w weld yma: Polisi Trafodiadau Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o'r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid oes rheidrwydd ar y cyngor i dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir ar gyfer yr eiddo.