Manylion Eiddo

drwydded i weithredu faniau hufen iâ yn y Cwm, Abergwaun

*** AR OSOD ***

Cyfle cyffrous i wneud cais am drwydded i weithredu faniau hufen iâ yn y Cwm, Abergwaun

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

12pm, 01/07/2026

 

 

Lleoliad 

Mae Maes Parcio’r Cwmyn harbwr prydferth i’r gogledd-ddwyrain o dref Abergwaun. Mae gan y maes parcio di-dâl hwn le ar gyfer 45 o gerbydau.

 

Rhent

Cynigion dros £500 y flwyddyn ynghyd â TAW (Nodwch eich cynnig yn glir ar y ffurflen gais)

Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd ceisiadau tendro ar gyfer darparu cyfleuster hufen iâ yn y lleoliad isod yn Sir Benfro rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref bob blwyddyn am gyfnod y contract. Yr oriau masnachu ar gyfer yr ardal drwyddedig yw rhwng 11am a 7pm bob dydd. Gellir amrywio’r dyddiadau a’r amseroedd masnachu hyn gyda chytundeb ymlaen llaw gyda’r Rheolwr Gofal Strydoedd a Pharcio.

Bydd lle ar gael yn ystod yr oriau masnachu i ymgeisydd llwyddiannus y tendr barcio ei fan hufen iâ.

Y bwriad yw y bydd yr arlwywr yn darparu hufen iâ yn bennaf. Gellid darparu eitemau tebyg eraill, e.e. diodydd ysgafn a melysfwyd trwy gytundeb. Ni chaniateir gwerthu diodydd alcoholaidd a bwydydd poeth.

 

Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Byddem yn eich cynghori i ymweld â’r lleoliad cyn cyflwyno cynnig

 

Ffurflen gais

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’r Ddesg gymorth eiddo  Ymholiadau tir ac eiddo 

 

Polisi trafodion

Mae ein polisi trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro 

 

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 13229, revised 09/06/2026