Manylion Eiddo

Fferm Wernllwyd, Welsh Hook, Treletert

*** DAN GYNNIG ***

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno

Dim hwyrach na dydd Gwener 5 Rhagfyr 12pm

 

Lleoliad

Mae'r daliad wedi'i leoli tua ¼ milltir o Welsh Hook, (Treletert) ar y ffordd rhwng Welsh Hook a Sealyham.

 

Disgrifiad

Mae Fferm Wernllwyd yn fferm 35 erw, neu oddeutu hynny, o fewn Ystâd Ffermydd Sirol Cyngor Sir Penfro ac mae i'w gosod fel fferm âr / da byw cymysg.

 

Nodweddion

  • Ffermdy carreg tair ystafell wely

  • Detholiad o dai allan carreg ac adeiladau ffrâm porthol

  • 35 erw gan gynnwys pwll a choetir pori

  • Prif gyflenwad trydan a dŵr, offer gwresogi olew

  • Band C y dreth gyngor

 

Rhent

Cynigion dros £10,000 y flwyddyn.

 

Tymor y brydles

Bydd y daliad yn cael ei osod ar denantiaeth busnes fferm safonol y Cyngor Sir am dymor cychwynnol o chwe blynedd o fis Ebrill 2026.

 

Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Cyfyngir ymweliadau i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer a threfnir ymweliadau undydd ar gyfer yr ymgeiswyr hynny a ddewisir.Cysylltwch â'r ddesg gymorth eiddo drwy ein ffurflen gwerthu a gosod ar-lein i ofyn am becyn cais Ymholiadau tir ac eiddo 

Gallai unrhyw ymweliadau anawdurdodedig anghymhwyso eich cais

 

Polisi trafodion

Mae ein polisi trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro 

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.

 


ID: 14236, revised 23/12/2025