Manylion Eiddo
Hen gyfleusterau cyhoeddus, Front Street, Doc Penfro, SA72 6JY
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Yn amodol ar ddiddordeb
Lleoliad
Hen gyfleusterau cyhoeddus, Front Street, Doc Penfro, SA72 6JY
Disgrifiad
Mae’r hen gyfleuster cyhoeddus wedi’i leoli ym maes parcio Front Street sy’n edrych dros Ddyfrffordd y Ddau Gleddau, ac mae’n elwa ar olygfeydd gwych ar draws y Cleddau. Ceir digonedd o le i barcio hefyd yn agos i’r adeilad ond ni fydd unrhyw leoedd parcio yn cael eu cynnwys yn y brydles.
Mae'r adeilad yn adeiladwaith wal frics unllawr o dan do llechi ar oleddf gyda ffenestr yn y to, sydd â'r potensial i gael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Yn fewnol mae'r eiddo'n cynnwys toiled i bobl anabl a chwpwrdd storio.
Arwynebedd mewnol gros yr adeilad:5.4m2 (58.1 troedfedd2)
Dimensiynau mewnol: 2.07m2 x 2.62m2
Gwasanaethau
Nid oes mesurydd trydan wedi'i osod ar hyn o bryd. Y tenant sy’n gwbl gyfrifol am y gost o gysylltu trydan i'r eiddo.
Mae'r adeilad yn elwa ar gysylltiad â’r prif gyflenwad dŵr a charthffosiaeth.
Rhent:
Dylid cynnwys cynnig rhentu ar y ffurflen mynegi diddordeb. Mae angen i'ch cynnig gynnwys cynnig rhent blynyddol, a manylion y defnydd arfaethedig i ni ei ystyried. Byddai unrhyw brydles a roddir ar sail atgyweirio ac yswirio llawn, sy'n golygu mai'r tenant fyddai'n gyfrifol am holl waith atgyweirio a chynnal a chadw’r adeilad.
Tymor y brydles
Gwahoddir cynigion am brydles (ar sail atgyweirio ac yswirio llawn, hyd y brydles i'w gytuno).
Bydd y brydles dan gontract y tu allan i ddiogeliad Deddf Landlord a Thenant 1954 a dylai partïon sydd â diddordeb geisio cyngor cyfreithiol priodol o ran y goblygiadau.
Ardrethi busnes
Dylai partïon sydd â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch atebolrwydd ardrethi busnes.
Tystysgrif Perfformiad Ynni
Wedi’i eithrio
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Mae ffenestri’r eiddo wedi’u bordio ar hyn o bryd, felly mae'n debygol y bydd unrhyw ymweliadau i weld y tu mewn yn cael eu trefnu drwy ymweliadau bloc, a bydd y dyddiad a'r amseroedd yn cael eu darparu i bartïon sydd â diddordeb. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein Ffurflen Gwerthu a Gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais i weld yr eiddo
Ffurflen Gais
I wneud cais am ffurflen mynegi diddordeb, cysylltwch â’r Desg Gymorth Eiddo Ymholiadau Tir ac Eiddo
Polisi Trafodiadau
Mae ein Polisi Trafodiadau i'w weld yma: Polisi Trafodiadau Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o'r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid oes rheidrwydd ar y cyngor i dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir ar gyfer yr eiddo.