Manylion Eiddo

Siopau dros dro y Pasg a r haf, Marchnad Dan Do Dinbych-y-pysgod

*** AR OSOD ***

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:  yn benagored

 

Lleoliad

Siopau dros dro y Pasg a’r haf, Marchnad Dan Do Dinbych-y-pysgod

 

Disgrifiad

Rydyn ni eisiau masnachwyr dros dro!

A ydych chi’n wneuthurwr, yn un sy’n hoff o fwyd, yn grefftwr, neu’n un sy’n hoff o greu pethau?

Dyma eich cyfle chi i ddisgleirio yng nghanol Dinbych-y-pysgod!

Rydym yn cynnig lleoedd siopau dros dro tymhorol a chyfyngedig ar gyfer y Pasg a’r haf, a fydd yn berffaith ar gyfer hybu eich brand yn ystod ein misoedd prysuraf.

Mae’r farchnad yn cynnig y canlynol:

  • Nifer fawr o ymwelwyr

  • Gofod marchnad dan do fywiog

  • Cyrchfan boblogaidd i dwristiaid

  • Cyfleoedd tymor byr hyblyg

P’un a ydych chi’n gwerthu celf, anrhegion, teisennau, nwyddau wedi’u gwneud â llaw, neu rywbeth hollol unigryw, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Cysylltwch â Rheolwr y Farchnad i wneud cais: rose.howard@pembrokeshire.gov.uk.

Bydd y lleoedd yn cael eu llenwi yn gyflym. Peidiwch â cholli’ch cyfle i werthu ym marchnad Dinbych-y-pysgod y tymor hwn!

 

Sylwch na fydd cynigion sy’n cystadlu â masnachwyr presennol yn cael eu hystyried.

 

Gwasanaethau: Trydan a mynediad at ddŵr

Maint: Uned farchnad, yn cynnwys bwrdd chwe throedfedd a/neu gownter gweini

Rhent: £20 y dydd / £100 yr wythnos / £400 y mis

Tymor y drwydded: Dyddiol / wythnosol / misol, yn ôl yr angen


Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Gellir gwneud cais heb ymweliad, ond os ydych chi am ymweld, mae’n rhaid i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein Ffurflen Gwerthu a Gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais am weld yr eiddo

 

Ffurflen gais

Cysylltwch â rose.howard@pembrokeshire.gov.uk i gael ffurflen gais.

 

Polisi Trafodion

Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 15072, revised 08/05/2026