Manylion Eiddo
Swyddfeydd modern Canolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro SA73 6UN
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
i'w gadarnhau
Lleoliad
Swyddfeydd modern, Canolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, SA73 6UN
Disgrifiad
Ar gael yn gynnar yn 2024; amrywiaeth o swyddfeydd modern newydd a rhai wedi'u hadnewyddu rhwng 285-543tr2 wedi'u lleoli o fewn Canolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro.
Mae’r Ganolfan yn cefnogi busnesau newydd sy’n seiliedig ar wybodaeth drwy annog meddianwyr tebyg i’w gilydd o’r un feddylfryd, i rwydweithio a datblygu cyfleoedd i greu partneriaeth yn ogystal â chynnig cymorth busnes. Yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod traddodiadol, mae Canolfan Arloesedd y Bont yn cynnig ardaloedd cymunedol cartrefol sy'n creu amgylchedd anffurfiol ar gyfer cyfarfodydd gyda chydweithwyr neu ymwelwyr. Mae ystafelloedd cynadledda hefyd ar gael gyda chyfleuster ystafell Tap ar gyfer Teams a mynediad i'r rhyngrwyd.
Mae'r ganolfan hefyd yn elwa ar doiledau a rennir, cawodydd, ceginau a maes parcio ymwelwyr gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae rhenti yn dechrau ar £75 + TAW yr wythnos
Am fwy o wybodaeth ewch i Ganolfan Arloesedd y Bont – Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)
Gwasanaethau
Rhyngrwyd, cyfathrebu ffôn Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VOIP).
Rhenti yn dechrau o £75 + TAW yr wythnos.
Cyfnod y Brydles
Telerau hyblyg. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Ardrethi Busnes
I'w cadarnhau
Costau Cyfreithiol
£420 – Tenant i fod yn gyfrifol am gostau cyfreithiol y Cyngor
Tystysgrif Perfformiad Ynni
Tystysgrif perfformiad ynni (EPC) – Dod o hyd i dystysgrif ynni – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
Ymweliadau a Gwybodaeth Bellach
Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Rose Kennington drwy PSTP@pembrokeshire.gov.uk0 neu ffoniwch 01646 689302
Ffurflen Gais
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: i'w gadarnhau
Polisi Trafodion
Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro
Paratowyd yr wybodaeth hon i roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond mae at ddibenion arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio’r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â’u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.