Manylion Eiddo

The Anchorage, Commercial Row, Doc Penfro, SA72 6JU

*** AR WERTH ***

Pris awgrymedig – £175,000

Hen ganolfan ddydd unllawr sylweddol wedi'i lleoli mewn ardal flaenllaw sy’n cynnig amrywiaeth o bosibiliadau ynghyd â photensial gwych o’i hailddatblygu (yn amodol ar ganiatâd)

  • Adeilad tua 3,400 troedfedd sgwâr (316 metr sgwâr)

  • Safle tua 0.55 erw (0.22 hectar)

  • Ar gornel Commercial Row/Ffordd y Gorllewin

Mae'r eiddo'n cael ei farchnata gan Guy Thomas & Co. Cysylltwch â nhw drwy’r wefan neu ffoniwch y swyddfa ar 01646 682342 i gael gwybodaeth bellach.   Manylion llawn - The Anchorage, Commercial Row - Doc Penfro

 

Polisi trafodion

Mae ein polisi trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro 

 

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.

 


ID: 14242, revised 02/10/2025