Manylion Eiddo

Tir Hundleton, Penfro

*** AR OSOD ***

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 12pm canol dydd – 3 Ebrill 2026

 

Disgrifiad

Mae llain 35 erw o dir yn unig o fewn Ystad Ffermydd Sirol Cyngor Sir Penfro ar gael i'w gosod ar gytundeb tenantiaeth busnes fferm am ddwy flynedd.

 

Lleoliad

Mae'r tir yn Hundleton, Penfro.

 

Mynediad 

Mae mynediad i'r tir dros drac byr o'r briffordd gyhoeddus (B4320).

 

Maint

Gweler y cynllun atodedig.

 

Defnydd 

Noder na chaniateir da byw, slyri na gwrtaith.

 

Cyfnod 

Bydd y tir yn cael ei osod ar gytundeb tenantiaeth busnes fferm safonol y Cyngor Sir am gyfnod o ddwy flynedd

 

Rhent   

Gofynnir i ymgeiswyr nodi ar y ffurflen atodedig lefel y rhent blynyddol y byddent yn fodlon ei chynnig sy'n fwy na £700 y flwyddyn.

Rhaid dangos hyn ar y ffurflen gais dendro sydd ynghlwm.

Bydd y rhent yn daladwy ymlaen llaw ar ddiwrnod cyntaf y cytundeb ac yn flynyddol wedi hynny.

 

Ymweliadau

Gellir gweld y tir o’r briffordd gyhoeddus

 

Ffurflen gais

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo Ymholiadau Tir ac Eiddo

Cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd i’r Adran Eiddo, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, HWLFFORDD, Sir Benfro, SA61 1TP

 

Polisi Trafodion

Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 14948, revised 05/03/2026