Manylion Eiddo
Uned 1 Stad Ddiwydiannol Feidr Castell, Abergwaun, SA65 9BB
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau
Hyd nes y’i gosodir
Lleoliad
Uned 1 Stad Ddiwydiannol Feidr Castell, Abergwaun, SA65 9BB
Disgrifiad
Adeiladau busnes ar wahân ar ddau lawr gydag ardal gynhyrchu ar y llawr gwaelod a llety ategol ar y llawr cyntaf. Cyfleusterau toiled a chegin ar bob llawr.
-
Adeilad ffrâm porthol ddur a waliau gwaith bloc wedi'u rendro a tho proffil.
-
System wresogi aer cynnes trydan.
-
Derbynfa llawr gwaelod 234 troedfedd sgwâr, llawr gwaelod 3121 troedfedd sgwâr, llawr cyntaf 2346 troedfedd sgwâr - Cyfanswm 5,701 troedfedd sgwâr (529m²)
Yn cynnwys maes parcio mawr yn y blaen a chilfach lwytho y tu ôl.
Gwasanaethau
Deellir bod prif gyflenwad dŵr, trydan a charthffosiaeth wedi eu cysylltu.
Dylai partïon â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain i’r darparwyr gwasanaeth perthnasol.
Rhent
Pris ar gais
Tymor y les
Tymor hyblyg i’w gytuno o dair blynedd a mwy
Ardrethi busnes
Gwerth ardrethol cyfredol yr eiddo yw £10,750 (rhestr drethu Ebrill 2023) Cynghorir partïon â diddordeb i wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch ardrethi busnes.
Costau cyfreithiol
Tenant i gyfrannu at gostau proffesiynol y Cyngor
Tystysgrif Perfformiad Ynni
Yn cael ei asesu ar hyn o bryd
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein ffurflen gwerthu a gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais i weld yr eiddo
Polisi trafodion
Mae ein polisi trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.