Manylion Eiddo

Uned 1 Ystad Ddiwydiannol Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RY

*** LET STC ***

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm – 30 Ionawr 2026

 

Lleoliad

Mae Ystad Ddiwydiannol Thornton wedi’i lleoli ar gyrion tref borthladd Aberdaugleddau ac mae’n ystad boblogaidd, mewn lleoliad da.

 

Mae’r uned mewn lleoliad cyfleus, hawdd i’w gyrraedd o dref sirol Hwlffordd a thref borthladd Doc Penfro.

 

Disgrifiad

Mae uned 1 yn adeilad diwydiannol unllawr o adeiladwaith bloc o dan do rhychog dur. Mae'r uned yn ymestyn i oddeutu 509 troedfedd sgwâr ac mae ganddi ddrws caead rholio.

 

Rhent

£3,820 y flwyddyn, heb gyfrif ardrethi busnes a TAW. 

 

Gwasanaethau

Mae dŵr o’r prif gyflenwad, trydan a draeniau wedi’u cysylltu â’r eiddo. 

 

Atgyweiriadau ac addurno

Cyfrifoldeb y tenant ar sail atgyweirio llawn.

 

Cyfnod

I’w gytuno.

 

Premiwm yswiriant

Y tenant fydd yn gyfrifol am dalu’r premiwm yswiriant. Credir mai’r premiwm presennol yw £71.26 (i’w gadarnhau). 

 

Ardrethi busnes

Yn gymwys, o bosibl, i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100%. Argymhellir bod hyn yn cael ei gadarnhau gan adran refeniw'r cyngor.

 

Tystysgrif Perfformiad Ynni

Sgôr ‘E’

 

Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein Ffurflen Gwerthu a Gosod ar-lein. Ymholiad gwerthu a gosod / Cais i weld yr eiddo

 

Polisi Trafodion

Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 14708, revised 23/03/2026