Manylion Eiddo
Uned 14, Heol Richmond, Canolfan Fusnes Gorllewin Llanion, Doc Penfro
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau:
Yn amodol ar ddiddordeb
Lleoliad
Uned 14, Heol Richmond, Canolfan Fusnes Gorllewin Llanion, Doc Penfro
Disgrifiad
Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fusnes Gorllewin Llanion yn Noc Penfro, mae Uned 14 yn cynnwys swyddfa/stiwdio ar y llawr daear, sy’n mesur tua 252 troedfedd sgwâr gyda mynediad trwy ddrws i gerddwyr yn unig o ardal gymunol Canolfan Fusnes Gorllewin Llanion. Neilltuir un man parcio car o fewn y maes parcio y tu allan i’r ganolfan.
Gwasanaethau
Mae prif gyflenwad trydan â mesurydd ar wahân wedi’i gysylltu â’r uned. Gall meddianwyr Uned 14 ddefnyddio’r toiledau yn ardal gymunol y Ganolfan Fusnes.
Rhent
£2,100 y flwyddyn heb gynnwys TAW ac ardrethi busnes
Tymor y brydles
Tymor hyblyg at ei gilydd i’w gytuno
Ardrethi busnes
Gwerth ardrethol cyfredol o £1,025
Costau cyfreithiol
Bydd gofyn i’r tenant wneud cyfraniad o £533.50 tuag at gostau cyfreithiol y cyngor.
Tystysgrif Perfformiad Ynni
Yn yr arfaeth
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo trwy ein ffurflen gwerthu a gosod ar-lein Ymholiad Gwerthu a Gosod / Cais i Weld yr Eiddo
Ffurflen Gais
I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Eiddo Ymholiadau Tir ac Eiddo
Polisi Trafodion
Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.