Manylion Eiddo

Uned Twf 1- Canolfan Arloesedd y Bont, Doc, Penfro, SA72 6UN

*** LET STC ***

Dyddiad cau’r cais

yn amodol ar ddiddordeb

 

Disgrifiad

Uned ddiwydiannol olau fodern gyda mesanîn trawiadol yn cynnwys cegin fach a swyddfa wydr, yn edrych dros y gweithdy.

Ceir cyfanswm o 259m2 (2,788 troedfedd sgwâr) yn cynnwys 209m2 (2,090 troedfedd sgwâr) sy’n ofod gweithdy a 45m2 (450 troedfedd sgwâr) yn ofod swyddfa, a’r gweddill yn cynnwys cyntedd mynediad 9m2 (96 troedfedd sgwâr), toiled ac ystafell offer. Mae’r uned hefyd yn elwa o lawr mesanîn sy’n darparu 670 troedfedd sgwâr ychwanegol i arwynebedd sgwâr cyffredinol yr uned.

Mae’r gweithdy’n un o 13 o weithdai tebyg sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Arloesedd y Bont ger y gylchfan i’r de o Bont Cleddau, sy’n cysylltu gogledd a de Sir Benfro ac sydd o fewn cyrraedd hawdd i ffordd yr A477 a ffordd yr A4076. Mae Canolfan Arloesedd y Bont mewn lleoliad cyfleus sy’n hygyrch ar gyfer trefi Penfro a Doc Penfro; ac mae’n 10 milltir o dref Hwlffordd a 7 milltir o dref borthladd Aberdaugleddau.   

 

Gwasanaethau

Mae trydan teirgwedd 100 amp yn yr unedau, ynghyd â nwy, dŵr a charthffosiaeth sydd i gyd wedi’u cysylltu, a phwynt dosbarthu BT. 

 

Rhent

Pris ar gais

 

Tymor y les

Rhoddir les chwe mlynedd gyda chymal terfynu ar ôl 12 mis pe rhoddir tri mis o rybudd yn ysgrifenedig. Adolygir y rhent ar ôl tair blynedd.

Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn canolbwyntio ar dwf busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Bydd angen i fusnes yr ymgeisydd fodloni meini prawf y ganolfan a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Canolfan Arloesedd y Bont.

 

Ardrethi busnes

Gwerth ardrethol cyfredol o £15,500

 

Costau cyfreithiol

Bydd pob parti yn gyfrifol am eu costau eu hunain

 

Tystysgrif perfformiad ynni

Yn yr arfaeth

 

Ymweliadau a gwybodaeth bellach

Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Cysylltwch â drwy anfon e-bost i PSTP@pembrokeshire.gov.uk, neu ffoniwch 01646 689302

 

Ffurflen gais

Cyfleusterau - Canolfan Arloesedd y Bont (yn agor mewn tab newydd)

 

Polisi Trafodion

Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro 

Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.


ID: 12817, revised 12/12/2025