Manylion Eiddo
Uned Twf 7- Canolfan Arloesedd y Bont, Doc, Penfro, SA72 6UN
Dyddiad cau’r cais
yn amodol ar ddiddordeb
Lleoliad
Uned Twf 7, Canolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, SA72 6UN
Disgrifiad
Uned ddiwydiannol unllawr olau a modern sydd â’r potensial i gael ei haddasu’n swyddfeydd deulawr. Ceir cyfanswm o 126m2 (1,356 troedfedd sgwâr), yn cynnwys 81m2 (871 troedfedd sgwâr) sy’n ofod gweithdy a 28m2 (301 troedfedd sgwâr) yn ofod swyddfa, a’r gweddill yn cynnwys cyntedd mynediad 9m2 (96 troedfedd sgwâr), toiled ac ystafell offer.
Mae’r gweithdy’n un o 13 o weithdai tebyg sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Arloesedd y Bont ger y gylchfan i’r de o Bont Cleddau, sy’n cysylltu gogledd a de Sir Benfro ac sydd o fewn cyrraedd hwylus i ffordd yr A477 a ffordd yr A4076. Mae Canolfan Arloesedd y Bont mewn lleoliad cyfleus sy’n hygyrch ar gyfer trefi Penfro a Doc Penfro; ac mae’n 10 milltir o dref Hwlffordd a 7 milltir o dref borthladd Aberdaugleddau.
Gwasanaethau
Mae trydan teirgwedd 100 amp yn yr unedau, ynghyd â nwy, dŵr a charthffosiaeth sydd i gyd wedi’u cysylltu, a phwynt dosbarthu BT.
Rhent
Pris ar gais
Tymor y les
Rhoddir les chwe mlynedd gyda chymal terfynu ar ôl 12 mis pe rhoddir tri mis o rybudd yn ysgrifenedig. Adolygir y rhent ar ôl tair blynedd.
Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn canolbwyntio ar dwf busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Bydd angen i fusnes y ceisydd fodloni meini prawf y ganolfan, a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Canolfan Arloesedd y Bont.
Ardrethi busnes
Gwerth ardrethol cyfredol o £8,000
Costau cyfreithiol
Bydd pob parti yn gyfrifol am eu costau eu hunain
Tystysgrif perfformiad ynni
Yn yr arfaeth
Ymweliadau a gwybodaeth bellach
Ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig. Cysylltwch â drwy anfon e-bost i PSTP@pembrokeshire.gov.uk, neu ffoniwch 01646 689200.
Ffurflen gais
Cyfleusterau - Canolfan Arloesedd y Bont (yn agor mewn tab newydd)
Dyddiad cau’r cais
yn amodol ar ddiddordeb
Polisi Trafodion
Mae ein Polisi Trafodion i'w weld yma: Polisi Trafodion Cyngor Sir Penfro
Paratowyd y manylion hyn i ddarparu disgrifiad teg o’r eiddo, ond maent wedi'u nodi er arweiniad yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a rhaid i unrhyw ddarpar brynwr, tenant neu drwyddedai wneud ei ymholiadau ei hun a/neu archwilio'r eiddo i fod yn sicr ynglŷn â'u cywirdeb. Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ystyried pob cais a dderbynnir ar gyfer yr eiddo hwn hyd at adeg cyfnewid y contractau. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall a wneir am yr eiddo.