Manylion y Cwrs


Dosbarthiadau


Clustogwaith Traddodiadol

Clustogwaith traddodiadol yw crefft clustogi eitem o ddodrefn o’r cyfnod trwy ddefnyddio offer llaw, dulliau traddodiadol a deunyddiau organaidd. Byddwn yn defnyddio technegau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar agweddau crefftus gosod webin, stwffin, pwytho, padin a gorchudd. Y manylion sy’n cynrychioli’r grefft ac sy’n galluogi cadw’r grefft yn fyw. Mae’r cwrs yn agored i bawb o ddechreuwyr llwyr i’r rhai gyda phrofiad sydd eisiau hogi a datblygu eu sgiliau. Byddwch yn ymwybodol nad oes gennym weithdy gydag offer llawn, ond un o’r agweddau gwych ynghylch clustogwaith traddodiadol yw bod modd ei wneud gyda dim ond ychydig o offer llaw sylfaenol iawn. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod â chadair i weithio arni, wrth ddysgu amrywiaeth o sgiliau traddodiadol. Fodd bynnag, byddwn mewn amgylchedd ystafell ddosbarth gyda lle i 10 o fyfyrwyr gan olygu bod meinciau’n brin. Felly mae, eitemau llai fel cadeiriau bwrdd, cadeiriau bach a stoliau i gyd yn brosiectau addas (enghreifftiau isod). Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud un neu ddau o brosiectau llai sy’n cynnwys technegau sylfaenol cyn i chi fynd ymlaen i rai mwy cymhleth. Nid yw darnau mawr, fel cadeiriau breichiau, soffas a chaise longues yn brosiectau addas i ddod i’r dosbarth. Maent yn rhy fawr, trwm a lletchwith i’w symud ac nid ydynt yn ddiogel mewn ystafell ddosbarth pan fo lle’n brin ar gyfer meinciau a myfyrwyr. Bydd amgylchiadau gwaith cysurus yn cyfrannu at rwyddineb gweithio ac at ganlyniadau llwyddiannus yn y pen draw
1 dosbarth a gafwyd

Dyddiadau

Lleoliad

Prisiau


8 wythnos, 25/09/2025 - 20/11/2025
Dydd Iau 13:30 - 16:30 (3 awr)
Lleoedd ar gael: 9
Rhif Dosbarth: 213607
CDdG Hwlffordd (Archifdy)
Ystafell 4
Llawn Consesiwn
£100.80 £50.40

 
instructional text

Dewiswch eich dosbarth.

Cliciwch ar ‘Cadw Lle a Gwybodaeth’ i weld mwy o fanylion am y dosbarth, manylion cyswllt y ganolfan ddysgu, a sut i gadw lle.

ID: 1527, revised 10/07/2024