Manylion y Dosbarth

Manylion Archebu

Gweinyddir gan
Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-pysgod
Cyfeiriad
Greenhill Avenue, DINBYCH-Y-PYSGOD, Sir Benfro SA70 7LB
Ffôn
01437 770190

Manylion y Dosbarth

Categori
Creadigol a pherfformiad, Creu
Dosbarth
Gwaith basged helyg (211121)
Amseroedd
Dydd Iau, 09:30 - 13:30 (4 oriau)
Dyddiadau
02/03/2023 - 30/03/2023 (5 sesiynau)
Lleoliad
Neuadd CDdG Dinbych-y-pysgod, SA70 7LB

Cynnwys y cwrs

Mae cyrsiau basgedwaith helyg yn rhoi cyflwyniad i dechnegau sylfaenol creu basgedi. Ar ôl i fyfyrwyr wneud basged gron, gallant weithio eu ffordd hyd at greu basgedi â seiliau a gwehyddiadau mwy cymhleth. Fel arfer, bydd dwy fasged yn cael eu gwneud yn ystod cwrs pedair neu bum wythnos. Gall myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau pellach symud ymlaen i fasgedi siopa a basgedi coed cyn mentro i fasgedi hirgrwn a gwaith sgwâr. Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd am wella eu sgiliau ac maent yn boblogaidd iawn, p'un a ydych chi eisiau mynychu un gyfres neu sawl un. Darperir yr holl bren helyg, gyda llawer ohono wedi'i dyfu yn lleol yn Sir Benfro. Mae angen i fyfyrwyr ddod â rhai offer sylfaenol: pâr da o sisyrnau tocio, potel chwistrellu dŵr, cyllell dda (rhoddir cyngor yn y sesiwn gyntaf), nodwydd sachau neu debyg, a phwysau neu garreg (mae hen haearn yn addas iawn, neu garreg o'r traeth sy'n pwyso 1-2kg). Codir tâl am y deunyddiau yn ôl faint o helyg a ddefnyddir – fel arfer, rhwng £6 a £10 y fasged.
Angen i fyfywyr dalu am ddefnyddiau.

Dod i'r dosbarth

Sisyrnau tocio, pwysau e.e. carreg fawr a chwistrellydd dŵr.

Cyfarwyddiadau

SA70 7LB - Adeilad mawr gan y llyfrgell - Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod (Neuadd CDdG Dinbych-y-pysgod, SA70 7LB)

ID: 1780, revised 16/07/2024