Manylion y Dosbarth
Manylion Archebu
Gweinyddir gan
Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro
Cyfeiriad
Pembrokeshire, Archives, Prendergast, HWLFFORDD, Sir Benfro SA61 2PE
Ffôn
01437 770150/770165
Manylion y Dosbarth
Categori
Creadigol a pherfformiad, Creu
Dosbarth
Gwaith basged helyg (212631)
Amseroedd
#Dydd Mercher sesiynau
Lleoliad
Ystafell 4, SA61 2PE
Cynnwys y cwrs
Mae cyrsiau basgedwaith helyg yn rhoi cyflwyniad i dechnegau sylfaenol creu basgedi. Ar ôl i fyfyrwyr wneud basged gron, gallant weithio eu ffordd hyd at greu basgedi â seiliau a gwehyddiadau mwy cymhleth. Fel arfer, bydd dwy fasged yn cael eu gwneud yn ystod cwrs pedair neu bum wythnos. Gall myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau pellach symud ymlaen i fasgedi siopa a basgedi coed cyn mentro i fasgedi hirgrwn a gwaith sgwâr.
Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd am wella eu sgiliau ac maent yn boblogaidd iawn, p'un a ydych chi eisiau mynychu un gyfres neu sawl un. Darperir yr holl bren helyg, gyda llawer ohono wedi'i dyfu yn lleol yn Sir Benfro.
Mae angen i fyfyrwyr ddod â rhai offer sylfaenol: pâr da o sisyrnau tocio, potel chwistrellu dŵr, cyllell dda (rhoddir cyngor yn y sesiwn gyntaf), nodwydd sachau neu debyg, a phwysau neu garreg (mae hen haearn yn addas iawn, neu garreg o'r traeth sy'n pwyso 1-2kg).
Codir tâl am y deunyddiau yn ôl faint o helyg a ddefnyddir – fel arfer, rhwng £6 a £10 y fasged.
Dod i'r dosbarth
Sisyrnau tocio, pwysau e.e. carreg fawr a chwistrellydd dŵr.
Cyfarwyddiadau
Trowch i mewn i Brendergast i gyfeiriad Ysgol Uwchradd GRh Hwlffordd. Mae’r fynedfa oddi ar y gylchfan ger mynedfa’r ysgol. (Ystafell 4, SA61 2PE)
ID: 1780, revised 26/03/2025