Erbyn hyn, mae angen i chi ddidoli’ch deunyddiau ailgylchadwy o’ch deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn i chi ymweld ag un o’n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Bydd hyn yn golygu, pan fyddwch yn cyrraedd y safle, y gallwch roi deunydd yn y cynhwysydd cywir yn hawdd.
Rydym yn darparu Man Didoli pwrpasol yn y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu tynnu cyn i wastraff gael ei roi yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Pan fyddwch yn cyrraedd y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu, bydd eich bagiau gwastraff cyffredinol yn cael eu gwirio i weld a ydynt yn cynnwys unrhyw beth y gellid ei ailgylchu ar y safle. Gofynnir i chi roi’r eitemau ailgylchadwy yn y cynhwysyddion cywir a bydd gweddill eich gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Hwn yw’r gwelliant cyntaf i’n gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu yn 2019. Mae llawer o wastraff mewn bagiau yn cael ei daflu i’r cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, pan allai gael ei ailgylchu.
Mae gan bob cyngor yng Nghymru dargedau ailgylchu i’w cyrraedd, a bydd y targedau hyn yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Bydd Llywodraeth Cymru yn dirwyo Awdurdodau nad ydynt yn cyrraedd eu targedau ailgylchu.
Am bob 1% o’r targed a fethir, byddwn yn cael dirwy o £140,000. Gallai dros 40% o wastraff, mewn bagiau gwastraff cyffredinol a waredir mewn Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu fod wedi cael ei ailgylchu neu’i ailddefnyddio.
Mae ein gweithwyr ar y safle yn gwirio’r bagiau gwastraff cyffredinol ac os ydynt yn cynnwys eitemau ailgylchadwy, byddant yn eich cyfeirio ar y Man Didoli i’w waredu ar wahân.
Mae nifer fawr o ddeunyddiau yn cael eu casglu drwy ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, y gellir eu hailgylchu neu’u hailddefnyddio; dangosir y deunyddiau hyn isod, a bydd angen iddynt gael eu tynnu o fagiau gwastraff cyffredinol cyn y gellir eu gwaredu.
Bydd aelod o’n tîm yn y man didoli neu gerllaw drwy’r amser. Bydd yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau.
Os nad ydych chi’n dymuno i’ch deunydd ailgylchu gael ei ddidoli o’ch gwastraff cyffredinol ar y safle, gofynnir i chi fynd â bagiau adref i’w didoli. Y peth rhwyddaf i’w wneud yw didoli’r gwastraff hwn adref cyn i chi gyrraedd. Byddwn yn gwirio bagiau gwastraff cyffredinol cyn y gellir eu taflu i mewn i’r cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Mae ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn derbyn yr holl eitemau y gallwch eu hailgylchu ar hyn o bryd yn eich bagiau oren yn ymyl y ffordd. Yr unig wahaniaeth yw y bydd angen i unrhyw un o’r deunyddiau ailgylchadwy hyn gael eu gwahanu a’u gosod yn y cynhwysydd ailgylchu cywir yn hytrach na gwaredu’r bag oran cyfan ar y safle, gan mai prif ddiben y canolfannau yw gallu didoli eich gwastraff a deunydd i’w ailgylchu.
Mae gennym dîm gorfodi sy’n mynd ar drywydd achosion o faeddu gan gŵn, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Os yw bagiau’n cael eu gollwng yn ein safleoedd/tu allan i’n safleoedd (nid mewn sgipiau gwastraff cartrefi), tipio anghyfreithlon yw hyn, ac mae’n groes i’r gyfraith.
Bydd ein tîm gorfodi yn ymchwilio i unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn tipio’n anghyfreithlon/gollwng sbwriel a byddant yn cael eu herlyn. Mae gennym deledu cylch cyfyng ar waith ym mhob un o’n safleoedd, a bydd rhai o’n gweithwyr yn gwisgo camerâu corff hefyd.
Rydym yn falch o’n hamgylchedd yn Sir Benfro, a byddwn yn cymryd camau i gynnal yr amgylchedd hwnnw.
Nid oes gennym gynlluniau uniongyrchol i gyflwyno gwiriadau preswylio/adnabod yn unrhyw un o’n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu ar hyn o bryd. Rydym yn ymwybodol fod cynghorau eraill yng Nghymru wedi cyflwyno hyn yn eu safleoedd, ond nid yw’n rhywbeth rydym ni’n ei ystyried yn y dyfodol agos.
Byddem yn gofyn, os ydych chi’n gwaredu gwastraff sensitif/anymataliaeth, eich bod yn rhoi hwn mewn bag ar wahân. Ni fydd ein gweithwyr yn gofyn i chi agor y bag ar wahân hwn, a byddwch yn gallu ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.