Newidiadau Gwastraff
Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (CGA)
A oeddech chi'n gwybod…
- Rydym wedi newid enw ein Safleoedd Amwynder Dinesig (Tip) i Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?
- Rydym wedi cyflwyno rhai newidiadau i’r modd y mae ein safleoedd yn gweithredu hefyd?
Beth yw’r newid didoli bagiau rydym wedi’i gyflwyno mewn Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?
Erbyn hyn, mae angen i chi ddidoli’ch deunyddiau ailgylchadwy o’ch deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn i chi ymweld ag un o’n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Bydd hyn yn golygu, pan fyddwch yn cyrraedd y safle, y gallwch roi deunydd yn y cynhwysydd cywir yn hawdd.
Rydym yn darparu Man Didoli pwrpasol yn y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu tynnu cyn i wastraff gael ei roi yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Beth mae’r broses didoli bagiau gwastraff cyffredinol yn ei olygu?
Pan fyddwch yn cyrraedd y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu, bydd eich bagiau gwastraff cyffredinol yn cael eu gwirio i weld a ydynt yn cynnwys unrhyw beth y gellid ei ailgylchu ar y safle. Gofynnir i chi roi’r eitemau ailgylchadwy yn y cynhwysyddion cywir a bydd gweddill eich gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Pam ydych chi wedi cyflwyno’r broses didoli bagiau gwastraff cyffredinol mewn Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?
Hwn yw’r gwelliant cyntaf i’n gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu yn 2019. Mae llawer o wastraff mewn bagiau yn cael ei daflu i’r cynhwysydd gwastraff cyffredinol yn ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, pan allai gael ei ailgylchu.
Mae gan bob cyngor yng Nghymru dargedau ailgylchu i’w cyrraedd, a bydd y targedau hyn yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Bydd Llywodraeth Cymru yn dirwyo Awdurdodau nad ydynt yn cyrraedd eu targedau ailgylchu.
Am bob 1% o’r targed a fethir, byddwn yn cael dirwy o £140,000. Gallai dros 40% o wastraff, mewn bagiau gwastraff cyffredinol a waredir mewn Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu fod wedi cael ei ailgylchu neu’i ailddefnyddio.
Pwy sy’n gwneud y gwaith didoli?
Mae ein gweithwyr ar y safle yn gwirio’r bagiau gwastraff cyffredinol ac os ydynt yn cynnwys eitemau ailgylchadwy, byddant yn eich cyfeirio ar y Man Didoli i’w waredu ar wahân.
Pa fath o bethau y gellir eu hailgylchu allan o’m bagiau gwastraff cyffredinol?
Mae nifer fawr o ddeunyddiau yn cael eu casglu drwy ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, y gellir eu hailgylchu neu’u hailddefnyddio; dangosir y deunyddiau hyn isod, a bydd angen iddynt gael eu tynnu o fagiau gwastraff cyffredinol cyn y gellir eu gwaredu.
Beth os nad ydw i’n siŵr os ydw i’n gallu ailgylchu eitem neu beidio?
Bydd aelod o’n tîm yn y man didoli neu gerllaw drwy’r amser. Bydd yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau.
Beth os nad ydw i eisiau i’m bagiau cyffredinol gael eu didoli ar y safle?
Os nad ydych chi’n dymuno i’ch deunydd ailgylchu gael ei ddidoli o’ch gwastraff cyffredinol ar y safle, gofynnir i chi fynd â bagiau adref i’w didoli. Y peth rhwyddaf i’w wneud yw didoli’r gwastraff hwn adref cyn i chi gyrraedd. Byddwn yn gwirio bagiau gwastraff cyffredinol cyn y gellir eu taflu i mewn i’r cynhwysydd gwastraff cyffredinol.
Pam nad ydw i’n gallu mynd â’m bagiau oren i Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?
Mae ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn derbyn yr holl eitemau y gallwch eu hailgylchu ar hyn o bryd yn eich bagiau oren yn ymyl y ffordd. Yr unig wahaniaeth yw y bydd angen i unrhyw un o’r deunyddiau ailgylchadwy hyn gael eu gwahanu a’u gosod yn y cynhwysydd ailgylchu cywir yn hytrach na gwaredu’r bag oran cyfan ar y safle, gan mai prif ddiben y canolfannau yw gallu didoli eich gwastraff a deunydd i’w ailgylchu.
A fydd hyn yn arwain at fagiau’n cael eu gollwng mewn/tu allan i Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu?
Mae gennym dîm gorfodi sy’n mynd ar drywydd achosion o faeddu gan gŵn, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Os yw bagiau’n cael eu gollwng yn ein safleoedd/tu allan i’n safleoedd (nid mewn sgipiau gwastraff cartrefi), tipio anghyfreithlon yw hyn, ac mae’n groes i’r gyfraith.
Bydd ein tîm gorfodi yn ymchwilio i unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn tipio’n anghyfreithlon/gollwng sbwriel a byddant yn cael eu herlyn. Mae gennym deledu cylch cyfyng ar waith ym mhob un o’n safleoedd, a bydd rhai o’n gweithwyr yn gwisgo camerâu corff hefyd.
Rydym yn falch o’n hamgylchedd yn Sir Benfro, a byddwn yn cymryd camau i gynnal yr amgylchedd hwnnw.
Beth am wastraff sensitif a gwastraff anymataliaeth?
Byddem yn gofyn, os ydych chi’n gwaredu gwastraff sensitif/anymataliaeth, eich bod yn rhoi hwn mewn bag ar wahân. Ni fydd ein gweithwyr yn gofyn i chi agor y bag ar wahân hwn, a byddwch yn gallu ei waredu yn y cynhwysydd gwastraff cyffredinol.