Map Diffiniol

Y Map a'r Datganiad Diffiniol ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Caiff yr holl hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Benfro - llwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd eu cofnodi yn y Map Diffiniol a’r Datganiad Diffiniol.  Os bydd llwybr/ffordd yn cael ei nodi ar y map yna mae hynny’n dystiolaeth ddigamsiynol bod hawliau tramwy yn bodoli yno ar hyd y llwybr/ffordd oni bai y gwnaethpwyd newid sydd wedi’i awdurdodi’n gyfreithiol.   Fodd bynnag os na fydd llwybr/ffordd yn cael ei dangos ar y map nid yw hynny’n profi nad oes gan y cyhoedd unrhyw hawliau drosti; o’r herwydd, fe allai’r map fod yn agored i’w newid.

Mae’n ddyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro, o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sicrhau bod y map yn cael ei ddiweddaru.  Ar ben hynny mae’n ddyletswydd ar y Cyngor ymchwilio i unrhyw gais am ychwanegu at neu ddileu hawliau tramwy neu am newid eu statws – naill ai trwy eu huwchraddio neu eu hisraddio.

Gyda’r Map Diffiniol fe ddaw Datganiad Diffiniol, sy’n ddisgrifiad a allai gynnwys rhagor o wybodaeth am lwybrau unigol, fel y mannau cychwyn a’r terfynfeydd, lled y llwybr, ac ati.

Mae’r Map a’r Datganiad Diffiniol ar gael i’w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd yn ystod yr oriau swyddfa arferol (9.00am - 5.00pm, Llun - Gwener).  Nid oes rhaid trefnu ymlaen llaw ond fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Tîm Cadwraeth ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod swyddog ar gael i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a fyddai gennych am y map.

Hanes (a dyfodol) y Map a’r Datganiad Diffiniol

Cafodd y Map Diffiniol cyntaf ei lunio o ganlyniad i Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949.  Yn ôl y ddeddf hon roedd yn rhaid i’r holl Gynghorau Sir yn Lloegr a Chymru gynnal arolwg ar eu hardal a llunio map a ddangosai’r llwybrau troed, llwybrau ceffyl a’r cilffyrdd a oedd, neu y gellid honni iddynt fod o fewn rheswm, yn hawliau tramwy cyhoeddus.  Y map drafft oedd hwn a chafodd ei lunio ynghyd â datganiad drafft a oedd yn agored i’r cyhoedd ei wrthwynebu.

Bu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymdrin â’r holl wrthwynebiadau, cyn eu cadarnhau neu eu gwrthod.  Yna fe luniwyd map a datganiad dros dro.  Yn sgil hynny cafodd y Map a’r Datganiad Diffiniol cyntaf eu llunio yn 1960.  Mae’r Map Diffiniol yn cael ei arolygu’n barhaus a chaiff newidiadau eu gwneud ynddo yn ôl Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol, wrth iddynt ddigwydd.  Bu llawer o newidiadau ers 1960 ac felly rydym yn cydgrynhoi’r holl ddigwyddiadau cyfreithiol ers hynny a byddwn yn ailgyhoeddi Map a Datganiad Diffiniol Cyfunol ym mis Medi 2010.

ID: 2221, adolygwyd 25/01/2022