Map Diffiniol
Copi Gweithio - Map Diffiniol
Mae'r wybodaeth hawliau tramwy a gyflwynir ar y map hwn yn seiliedig ar wybodaeth o'r copi gwaith o'r map diffiniol o hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Benfro (“y map diffiniol”). NID y map diffiniol mohono. Ni ellir gwarantu cywirdeb y wybodaeth hon. Y bwriad yw ei ddefnyddio at ddibenion hamdden yn unig ac nid yw'n addas ar gyfer gwirio cyfreithlondeb llinellau hawliau tramwy. Os oes angen data mwy cywir arnoch, dylid edrych ar y map diffiniol. Ffoniwch Y Swyddog Map Diffiniol 01437 775390 neu Cynorthwyydd Cadwraeth01437 774640 am ragor o wybodaeth.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy - 2018 i 2028
Mae Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyd-adolygu’r Cynllun Gwellau Hawliau Tramwy dros Sir Benfro 2007-2017 (ROWIP) fel sy’n ofynnol gan adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae amrywiaeth eang o ymgyngoreion wedi rhoi sylwadau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun newydd. Mae’r cynllun yn nodi ac yn cynllunio ar gyfer gwelliannau i’r rhwydwaith hawliau tramwy yn Sir Benfro. Mae hefyd yn nodi’r angen i wella cyfleoedd mynediad i bobl anabl ac mae’n ddogfen bwysig wrth wneud cais i arianwyr allanol i’n cefnogi yn ein hymdrechion i wella ansawdd rhwydwaith hawliau tramwy Sir Benfro.
Mae Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 wedi’i fabwysiadau gan Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
Y Map Diffiniol Cyfunol
Y Map Diffiniol yw cofnod cyfreithiol y Cyngor Sir o'r hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli yn Sir Benfro. Mae e'n dangos llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd agored i bob traffig (BOATs) a chilffyrdd cyfyngedig. Fe allai hawliau tramwy fodoli nad ydynt yn cael eu dangos ar y map. Os yw llwybr yn cael ei ddangos ar y Map yna mae hynny'n brawf pendant o'i fodolaeth yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag nid yw hynny'n wir am y gwrthwyneb. Os nad oes unrhyw hawl tramwy wedi'i chofnodi ar y map, ar hyd llwybr penodol, nid yw'r ffaith honno yn dystiolaeth i ddangos nad oes unrhyw hawl tramwy'n bodoli ar hyd y llwybr hwnnw. Yn yr un modd, fe allai hawliau uwch, fel hawliau llwybrau ceffylau er enghraifft, fodoli ar hyd llwybr sy'n cael ei nodi yn llwybr cyhoeddus yn unig.
Mae Map Diffiniol Cyfunol 2010 a'r Datganiad yn disodli'r Map gwreiddiol. Bellach mae e'n cynnwys yr ardaloedd hynny nad oeddent, o'r blaen, yn rhan o ardal weinyddol Cyngor Sir Penfro oherwydd newidiadau yn y ffin. Mae ef hefyd yn cynnwys pob un o'r newidiadau cyfreithiol a thystiolaethol a gadarnhawyd, sef y newidiadau a wnaethpwyd rhwng 1960 a 2010. Mae'r map presennol wedi cael ei gyhoeddi ar raddfa o 1:10,000 yn lle'r raddfa 1:25,000 ar gyfer y map blaenorol, er mwyn iddo fod yn rhwyddach i'w weld. Bwriedir i'r map gael ei weld ar raddfa o 1:10,000 neu raddfa lai.
Gweld y Map Diffiniol Cyfunol (yn agor mewn tab newydd)
Mae'r Map Diffiniol ar gael i'w weld yn ystod yr oriau swyddfa arferol yn Neuadd y Sir, Hwlffordd. Byddwch cystal â threfnu apwyntiad er mwyn sicrhau y bydd yno rywun ar gael i'ch cynorthwyo gyda'ch ymholiadau.
Y Datganiad Diffiniol
Disgrifiad ysgrifenedig o'r holl hawliau tramwy cyhoeddus yw'r Datganiad Ysgrifenedig. Nid yw'r rhan fwyaf o'r datganiadau wedi cael eu diwygio ers i'r map diffiniol gwreiddiol gael ei baratoi.
Y Dyddiad Perthnasol ar gyfer y Map Diffiniol Cyfunol a'r Datganiad
Y 'dyddiad perthnasol' ar gyfer y Map Diffiniol cyfunol a'r Datganiad hwn yw 14 Mehefin 2010. Dyma'r dyddiad ar yr hwn y mae'r dogfennau yn dystiolaeth bendant ynghylch y manylion sydd ynddynt.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Cyfreithiol/Cyfreithfan
Mae 2400 kilomedr o hawliau tramwy yn Sir Benfro, y mae oddeutu un rhan o dair ohonynt o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn y Tîm Cadwraeth mae gyda ni Dîm Cyfreithiol Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Eu tasg hwy yw ymdrin â materion yn ymwneud â’r agweddau cyfreithiol ar bob un o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus hynny sydd y tu allan i’r Parc Cenedlaethol.
Ar ben hynny mae’r Tîm yn ymdrin â rhai o’r agweddau cyfreithiol ar hawliau tramwy yn y Parc. Fodd bynnag, mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â llwybrau y tu mewn i ffiniau’r Parc, cofiwch gysylltu yn y lle cyntaf â Thîm Y Parc Cenedlaethol.
Beth yw Hawl Tramwy Cyhoeddus?
Hawl tramwy cyhoeddus yw priffordd y gellir ei defnyddio gan unrhyw berson ar unrhyw adeg er mwyn iddo/iddi fynd ar daith ddilys, a chymryd saib fach resymol wrth fynd. Mae dosbarth hawl tramwy yn cael ei benderfynu gan y math o hawliau a geir ar eu hyd.
Mae 4 math o hawliau tramwy:
Llwybr Troed
Dim ond cerddwyr sy’n cael defnyddio llwybrau troed; fodd bynnag mae gyda chi hawl i fynd â phram, cadair wthio neu gadair olwyn. Bydd cyfeirbwyntiau melyn yn nodi’r llwybrau hyn.
Llwybr Ceffyl
Gall llwybr ceffyl gael ei ddefnyddio gan gerddwyr, reidwyr ceffylau a seiclwyr. Bydd cyfeirbwynt glas yn nodi’r llwybrau hyn.
Cilffyrdd Agored i Bob Traffig
Mae Cilffyrdd (neu CABT) ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr, reidwyr ceffylau, seiclwyr, certi a dynnir gan geffylau a cherbydau. Cyfeirbwynt coch sy’n nodi’r llwybrau hyn.
Cilffordd Gyfyngedig
Mae cerddwyr, reidwyr ceffylau, seiclwyr a cherbydau a yrrir gan bŵer motor (fel cerbydau a dynnir gan geffylau) yn cael defnyddio cilffordd gyfyngedig.
Y Map a'r Datganiad Diffiniol ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Caiff yr holl hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Benfro - llwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd eu cofnodi yn y Map Diffiniol a’r Datganiad Diffiniol. Os bydd llwybr/ffordd yn cael ei nodi ar y map yna mae hynny’n dystiolaeth ddigamsiynol bod hawliau tramwy yn bodoli yno ar hyd y llwybr/ffordd oni bai y gwnaethpwyd newid sydd wedi’i awdurdodi’n gyfreithiol. Fodd bynnag os na fydd llwybr/ffordd yn cael ei dangos ar y map nid yw hynny’n profi nad oes gan y cyhoedd unrhyw hawliau drosti; o’r herwydd, fe allai’r map fod yn agored i’w newid.
Mae’n ddyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro, o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sicrhau bod y map yn cael ei ddiweddaru. Ar ben hynny mae’n ddyletswydd ar y Cyngor ymchwilio i unrhyw gais am ychwanegu at neu ddileu hawliau tramwy neu am newid eu statws – naill ai trwy eu huwchraddio neu eu hisraddio.
Gyda’r Map Diffiniol fe ddaw Datganiad Diffiniol, sy’n ddisgrifiad a allai gynnwys rhagor o wybodaeth am lwybrau unigol, fel y mannau cychwyn a’r terfynfeydd, lled y llwybr, ac ati.
Mae’r Map a’r Datganiad Diffiniol ar gael i’w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd yn ystod yr oriau swyddfa arferol (9.00am - 5.00pm, Llun - Gwener). Nid oes rhaid trefnu ymlaen llaw ond fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Tîm Cadwraeth ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod swyddog ar gael i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a fyddai gennych am y map.
Hanes (a dyfodol) y Map a’r Datganiad Diffiniol
Cafodd y Map Diffiniol cyntaf ei lunio o ganlyniad i Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949. Yn ôl y ddeddf hon roedd yn rhaid i’r holl Gynghorau Sir yn Lloegr a Chymru gynnal arolwg ar eu hardal a llunio map a ddangosai’r llwybrau troed, llwybrau ceffyl a’r cilffyrdd a oedd, neu y gellid honni iddynt fod o fewn rheswm, yn hawliau tramwy cyhoeddus. Y map drafft oedd hwn a chafodd ei lunio ynghyd â datganiad drafft a oedd yn agored i’r cyhoedd ei wrthwynebu.
Bu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymdrin â’r holl wrthwynebiadau, cyn eu cadarnhau neu eu gwrthod. Yna fe luniwyd map a datganiad dros dro. Yn sgil hynny cafodd y Map a’r Datganiad Diffiniol cyntaf eu llunio yn 1960. Mae’r Map Diffiniol yn cael ei arolygu’n barhaus a chaiff newidiadau eu gwneud ynddo yn ôl Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol, wrth iddynt ddigwydd. Bu llawer o newidiadau ers 1960 ac felly rydym yn cydgrynhoi’r holl ddigwyddiadau cyfreithiol ers hynny a byddwn yn ailgyhoeddi Map a Datganiad Diffiniol Cyfunol ym mis Medi 2010.
Edrychwch ar Y Map Diffiniol Cyfunol