Marwolaethau
Profedigaeth
Gall marwolaeth rhywun sy’n agos atoch achosi gofid mawr a gall y camau rhwng y farwolaeth a’r claddu neu’r amlosgi fod yn brofiad llethol. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi trosolwg o’r broses ar gyfer cofrestru marwolaethau yng Nghymru a chanllawiau ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl pan fydd rhywun yn marw.
Cam un – cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth
Cam dau – Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru
Cam tri – cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r cofrestrydd
Cam pedwar – cofrestru’r farwolaeth
Cam fump – cynllunio’r angladd
Yr amserlen ar gyfer ardystio marwolaethau yng Nghymru
Cam un – cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth
Bydd clinigydd cymwys (er enghraifft meddyg, nyrs neu barafeddyg) yn gwirio bod y person wedi marw. Mae’r union ffordd o wneud hyn yn gallu dibynnu ar leoliad y person adeg marwolaeth. Bydd meddyg sydd wedi eu gweld yn ystod eu bywyd (ymarferydd a fu’n gweini) yn cyfeirio’r farwolaeth naill ai at sylw Crwner Ei Fawrhydi i ymchwilio iddi, neu at sylw Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru ar gyfer craffu annibynnol.
Mae sawl rheswm pam y gall bod angen cyfeirio marwolaeth at sylw’r Crwner i ymchwilio iddi, gan gynnwys yn achos damweiniau, trawma, hunan-niweidio neu, yn syml, pan nad yw achos y farwolaeth yn hysbys. Nid oes angen cyfeirio’r mwyafrif o farwolaethau at sylw’r Crwner, a hyd yn oed pan fydd angen hysbysu’r Crwner, nid yw hyn bob amser yn golygu bod yna broblem neu fod angen archwiliad post-mortem.
Os nad oes angen cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r Crwner, rhaid i’r meddyg ddrafftio Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth ac anfon hon, ynghyd â manylion y perthynas agosaf a chopïau o’r nodiadau meddygol i’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.
Cam dau – Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn darparu gwasanaeth craffu annibynnol yn achos pob marwolaeth sy’n digwydd yng Nghymru nad yw’n cael ei chyfeirio’n uniongyrchol at sylw’r Crwner i ymchwilio iddi. Y nod yw gwella diogelwch y cyhoedd, sicrhau bod tystysgrifau marwolaeth yn gywir, yn ogystal ag osgoi gofid diangen i unigolion mewn profedigaeth.
Wrth graffu ar farwolaeth, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn adolygu’r cofnodion meddygol ac yn ystyried a oedd problemau mewn perthynas ag unrhyw elfen o’r gofal a ddarparwyd i’r ymadawedig. Yn ystod y broses hon, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn siarad â’r perthynas agosaf neu’r teulu i egluro achos y farwolaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.
Bydd unrhyw bryderon a godir gan y perthynas agosaf neu’r teulu yn cael eu cyfeirio at sylw’r darparwr gofal neu’r Crwner i ymchwilio iddynt ymhellach os oes angen.
Cam tri – cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r cofrestrydd
Pan fydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol wedi craffu ar y farwolaeth a’r meddyg wedi llenwi’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, bydd y dystysgrif yn cael ei chydlofnodi gan yr Archwiliwr Meddygol a’i hanfon yn electronig at y Cofrestrydd yn ardal yr awdurdod lleol (rhanbarth) lle digwyddodd y farwolaeth. Bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn rhannu manylion cyswllt y perthynas agosaf neu’r teulu er mwyn i’r Cofrestrydd allu cynllunio ar gyfer cofrestru’r farwolaeth.
Cam pedwar – cofrestru’r farwolaeth
Pan fydd y Cofrestrydd wedi derbyn y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, gellir gwneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth: Sut i gofrestru marwolaeth (yn agor mewn tab newydd). Nod y Cofrestrydd yw cofrestru’r farwolaeth cyn pen pum niwrnod o dderbyn y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth gan y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.
Cam fump – cynllunio’r angladd
Gall y broses o gynllunio’r angladd ddechrau cyn i’r farwolaeth gael ei chofrestru, a gall aelodau’r teulu siarad â’r Trefnydd Angladdau i drefnu i weld eu hanwyliad cyn y claddu neu’r amlosgi, pan fo’n bosibl gwneud hynny. Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi ffurflen werdd sy’n cadarnhau y gall y Trefnydd Angladdau fwrw ymlaen â’r trefniadau ar gyfer claddu neu amlosgi.
Mae dewis y trefnydd angladdau yn fater pwysig. Mae gan y Cyngor Safonau Angladdau, Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau a Chymdeithas y Trefnwyr Angladdau Cysylltiedig ac Annibynnol (yn agor mewn tab newydd) bob un eu cod arferion. Dylai aelodau'r cyrff masnachol hyn roi amcangyfrif o gostau i chi - eu ffioedd eu hunain a'r ffioedd hynny y dylid eu hychwanegu at eich cyfrif (fel ffioedd gweinidogion). Gallwch dalu am eich angladd o flaen llaw os dymunwch.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, galwch Drefnydd Angladdau ag enw da - un sy'n aelod o un o'r cymdeithasau cydnabyddedig.
Angladdau crefyddol
Mae angladd yn nodi diwedd bywyd dynol ar y ddaear. Mae'n gyfle i gyfeillion a'r teulu fynegi eu galar, diolch am y bywyd sydd nawr wedi cwblhau ei daith yn y byd hwn a throsglwyddo'r ymadawedig i ofal Duw.
Gellir cynnal gwasanaeth yr angladd yng nghartref yr ymadawedig, mewn eglwys, mynwent, amlosgfa, capel, mosg neu deml. Mae'n gallu bod yn fyr iawn a thawel gydag ychydig o aelodau'r teulu yn unig yno neu'n ddathliad mwy sylweddol o orfoledd a diolchgarwch am fywyd.
Angladdau digrefydd
Os ydych chi'n dymuno angladd digrefydd, yna mae'r Gymdeithas Ddyneiddiol Brydeinig (yn agor mewn tab newydd) yn cynnal llinell gymorth (020 7079 3580) a fydd yn fodd i chi gysylltu â gweinyddwr seciwlar lleol.
Angladdau Gwahanol
Cynhelir nifer fach ond cynyddol bob blwyddyn o angladdau annibynnol neu angladdau y mae pobl yn eu cynnal a'u gweithredu eu hunain. Mae rhai pobl yn dymuno ymwneud yn bersonol â phob rhan o'r ffarwelio â'r ymadawedig. Mae rhai pobl eisiau angladd rhatach neu fwy gwyrdd na'r math arferol. Gallwch ofalu am y trefniadau i gyd (o amser y farwolaeth hyd at y claddu) neu fe allwch chi ofalu am ran o'r ddefod yn unig. Mae'r Ganolfan Marwolaeth Naturiol (yn agor mewn tab newydd) yn cyhoeddi rhestr o adnoddau ar gyfer claddedigaethau y mae pobl yn eu cynnal eu hunain. Ffoniwch hwy ar 020 7359 8391
Yr amserlen ar gyfer ardystio marwolaethau yng Nghymru
Bydd pawb sy’n rhan o’r broses ardystio marwolaethau yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y gellir cofrestru marwolaeth cyn gynted ag y bo modd ac i osgoi oedi pan fo hynny’n bosibl. Fodd bynnag, gall materion fel mynediad at gofnodion meddygol, cyswllt â theuluoedd, gofynion tymhorol ac ymchwiliadau pellach gan y Crwner effeithio ar brydlondeb.
Cwblhau’r broses o ardystio marwolaeth cyn pen naw diwrnod yw’r nod. Fodd bynnag, dylid nodi y gall hyn gymryd mwy o amser mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fo achos y farwolaeth yn gymhleth, neu pan nad yw gwybodaeth wedi cael ei darparu mewn modd amserol.
Rhagor o wybodaeth
Ni waeth beth yw’r rheswm pam y mae rhywun wedi marw, gall dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd fod yn arbennig o anodd. Mae pobl yn profi galar mewn gwahanol ffyrdd ac efallai y bydd ar rai eisiau neu angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd lleol.