Marwolaethau

Claddedigaethau Cartref a Phreifat

  • Does dim cyfraith yn rhwystro claddu ar dir preifat.
  • Does dim angen caniatâd cynllunio na'r un caniatâd arall wrth yr Awdurdod hwn ond ni ddylai dull y claddu achosi niwsans statudol na'r un niwsans arall.
  • Mae'n bosib y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer codi cofeb.
  • Os cleddir mwy na dau gorff gall hyn gael ei weld fel newid defnydd gan yr adran gynllunio am ei fod mewn gwirionedd yn 'fynwent' a byddai angen caniatâd ar ei chyfer.
  • Rhaid hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd (ffôn 08708 506506) rhag ofn bod yna gwrs dŵr gerllaw a allai gael ei ddifwyno. Yn ôl pob tebyg byddai Asiantaeth yr Amgylchedd am weld 100m o bellter rhwng claddfa a dyfrdwll, ffynnon neu darddell.
  • Does gan Adran yr Amgylchedd (Adran Hydrolegol, 01473 727712) ddim gwrthwynebiadau ond mae ganddyn nhw dair safon y mae'n rhaid eu parchu (i) Ddim o fewn 10m i gwter, ffos neu gwrs dŵr. (ii) Ddim o fewn 50m i ddyfrdwll neu ffynnon (iii) Ddim mewn tir gwlyb
  • Rhaid dilyn canllawiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder o ran claddedigaeth briodol. Rhaid cyflawni claddedigaeth trwy roi sylw priodol i wedduster cyhoeddus a chludo'r corff a'i osod yn y ddaear mewn arch neu amdo. Rhaid taenu o leiaf 3tr o bridd dros y corff oni bai bod trefniadau arbennig eraill wedi'u gwneud megis darparu cromgell wedi'i selio.
  • Yn ddelfrydol dylid ymgynghori â'r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol i sicrhau na achosir perygl i iechyd cyhoeddus wrth gludo a storio'r corff. Os oes yna bryder ynghylch clefydau heintus yna dylid cymryd y camau priodol.
  • Dylai gosod nod ar y fangre a nodi'r lleoliad ar weithredoedd y tŷ leihau'r posibilrwydd o'r perchnogion nesaf yn canfod gweddillion dynol yn yr ardd ac yna'n galw'r heddlu. Mae yna hefyd ddyletswydd ymhlyg i gofnodi claddedigaeth ar y gweithredoedd o dan y Ddeddf Cofnodi Claddedigaethau 1864.
  • Rhaid gwneud gwiriadau i ganfod os oes yna gyfamod ar yr eiddo yn atal claddu a sicrhau nad oes yr un is-ddeddf yn cael ei thorri.
  • Rhaid cadw Rhan B o'r Dystysgrif a roddwyd gan y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau (neu'r Crwner) yn caniatáu claddedigaeth gyda gweithredoedd y tŷ. Rhaid cofnodi manylion y claddu ar Ran C y Dystysgrif a dychwelyd y rhan honno i'r Cofrestrydd yn unol â'r drefn.
  • Mae'n ddyletswydd hysbysu'r Awdurdod o dan y Ddeddf Diwygio Cyfreithiau Claddu 1870. Gellir gwneud cais am gyflwyno'r holl ddogfennaeth sydd eu hangen o dan y gyfraith cyn caniatáu'r claddu.
  • Mae'n ddoeth hysbysu'r heddlu er mwyn iddyn nhw sicrhau nad oes yr un drosedd yn cael ei chyflawni.
  • Mae yna bryderon ymarferol o ran y dyfodol. Er enghraifft, pwy fyddai am brynu eiddo gyda chorff yn yr ardd. Mae'n bosib y byddai perchennog yn y dyfodol yn symud y corff yn groes i ddymuniadau'r teulu.
  • Os bydd angen symud y corff yn y dyfodol, yna, bydd angen Trwydded y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud hynny.
  • Ni chofrestrir claddedigaethau o'r fath ar Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ond mae'n bosib sefydlu trefniant gyda'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau trwy'r hwn yr hysbysir staff y Pridiannau Tir Lleol o unrhyw achos lle cleddir corff y tu allan i fynwent neu gladdfa reolaidd er mwyn cynnwys 'Gwybodaeth yn Unig' yn y gofrestr.
ID: 155, adolygwyd 22/02/2023