Marwolaethau
Cofnodion am Gladdedigaethau ac Amlosgiadau ar gael ar-lein
Erbyn hyn mae dod o hyd i gofnodion am gladdedigaethau ac amlosgiadau yn Sir Benfro yn fater rhwydd a gallwch chi wneud hynny gartref. Mae Cyngor Sir Penfro yn rheoli oddeutu 50,000 o gofnodion am amlosgiadau unigol a 36,000 claddedigaeth, a gallwch wneud chwiliad ar-lein am bob un ohonynt.
Sefydliad ‘Deceased Online'
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydweithio â'r sefydliad hanes teulu arbenigol, Deceased Online, sydd â'r cofnodion canlynol ar eu gwefan:
- Sganiau digidol o'r cofrestri amlosgiadau ar gyfer 1968-1999
- Cofnodion cyfrifiadurol ar gyfer yr holl safleoedd eraill ar ôl 1999 ar gyfer yr amlosgfa
- Manylion y beddau sy'n dangos pawb a gladdwyd ym mhob bedd
- Mapiau sy'n dangos ym mha ran o'r fynwent neu'r gladdfa y mae'r beddau wedi eu lleoli
Chwiliad am ddim
Gallwch wneud chwiliad am ddim ar y wefan ac os byddwch yn dod o hyd i ddogfen berthnasol, gallwch ei lawrlwytho neu ei hargraffu ond bydd rhaid talu am hynny, Yr unig beth y mae'n rhaid ichi ei wneud yw dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan.
Yn ogystal â'r cofnodion a reolir gan Gyngor Sir Penfro, mae Deceased Online hefyd yn cynnwys miliynau o gofnodion am gladdedigaethau ac amlosgiadau ar gyfer ardaloedd eraill ledled y DU.