Marwolaethau
Dweud Wrthym Unwaith
Rydym yn cynnig Dweudwch Wrthym Unwaith (yn agor mewn tab newydd) yn Sir Benfro. Felly, pan fydd rhywun yn marw, fe allwn ddweud wrth y bobl y mae angen iddyn nhw wybod.
Mae'r gwasanaeth hwn, sy'n rhad ac am ddim, yn rhoi'r cyfle i chi roi gwybod i rai Adrannau'r Llywodraeth am y farwolaeth. Os byddwch yn cyflwyno pasbort/rhif pasbort, trwydded yrru/rhif trwydded yrru neu Fathodyn Glas yr ymadawedig yn ystod eich apwyntiad, gall y cofrestrydd eu diddymu.
Pa wybodaeth y bydd arnaf ei hangen i ddefnyddio'r gwasanaeth?
I sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth gywir i'r cyrff y byddwn yn cysylltu â nhw ar eich rhan, dylech ddod â'r wybodaeth ganlynol (os yw'n berthnasol) am yr ymadawedig:
Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r ymadawedig:
- Manylion o unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau llywodraeth ganolog neu leol roedd yn eu cael
- ei drwydded yrru
- ei Basbort
- ei Fathodyn Glas (bathodyn parcio person anabl)
- ei Gerdyn Llyfrgell
Fe fyddwn hefyd yn gofyn i chi am fanylion cyswllt
- ei berthynas agosaf
- unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n dal yn fyw
- y person sy'n delio â'i ystâd (materion)
Mae'n rhaid i chi gael caniatâd y personau a restrir uchod os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanyn nhw.
Os na allwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth, peidiwch â phoeni - gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth ar gyfer y budd-daliadau/gwasanaethau y mae gennych wybodaeth amdanyn nhw. Peidiwch ag oedi cyn trefnu'r apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth.
Perthynas agosaf
Os chi yw perthynas agosaf y person sydd wedi marw (drwy waed neu briodas), gall y budd-daliadau y gallwch eu hawlio newid, felly gofalwch fod eich rhif Yswiriant Gwladol gennych wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Sylwch nad yw cyn-wraig/cyn-ŵr yn cyfrif fel perthynas i'r person sydd wedi marw.
Os nad chi yw'r perthynas agosaf, neu'r person sy'n delio ag ystâd y person sydd wedi marw, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os cewch eu caniatâd i weithredu ar eu rhan.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth gywir a chyfredol gan yr holl sefydliadau sy'n talu budd-daliadau o unrhyw fath i'r person sydd wedi marw.
Byddwn yn gallu rhoi gwybod i'r sefydliadau canlynol os bydd rhaid:
Adran Gwaith a Phensiynau
- Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
- Canolfan Byd Gwaith
- Tîm Iechyd Tramor
Gweinyddiaeth Amddiffyn, Personél Gwasanaethau ac Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-Filwyr
- Cynllun Pensiynau Rhyfel
Cyllid a Thollau EM
- Budd-dal Plant
- Credydau Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
- Treth Bersonol
Gwasanaeth Pasbort a Hunaniaeth
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
Cynghorau Lleol
- Swyddfa Budd-dal Tai
- Swyddfa Budd-dal Treth Cyngor
Gallwn hefyd ddweud wrth y sefydliadau hyn os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny:
- Tai Cyngor
- Treth Cyngor
- Llyfrgelloedd
- Bathodynnau Glas
- Gwasanaethau Oedolion
- Gwasanaethau Plant
- Casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor
- Gwasanaethau Etholiadol
Am ragor o wybodaeth cofiwch ffonio 01437 775176.