Marwolaethau
Sut i gofrestru marwolaeth
Pa ddogfennau/gwybodaeth y mae angen i fi ddod â nhw?
Beth sy'n digwydd os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner?
Pa ddogfennau y byddaf yn eu derbyn?
Alla i gofrestru marwolaeth rywle arall yng Nghymru a Lloegr?
Pa wybodaeth y bydd arnaf ei hangen i ddefnyddio'r gwasanaeth?
Sut i gofrestru marwolaeth
Pan fo rhywun yn marw, mae’n rhaid cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd yn yr ardal ble digwyddodd y farwolaeth.
O 9 Medi 2024, ni fydd modd cofrestru nes bod yr Archwilydd Meddygol wedi anfon y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth i'r Swyddfa Gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth a wedi rhoi cyfeirnod Archwilydd Meddygoli'r perthynas agosaf, i’r farwolaeth oni bai bod amgylchiadau eithriadol neu fod y Crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth. Yna dylid cofrestru'r farwolaeth o fewn 5 diwrnod ar ôl i'r Swyddfa Gofrestru dderbyn y dystysgrif. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn rhoi gwybod i’r perthynas agosaf pryd fydd yn gallu cysylltu â'r Swyddfa Gofrestru i wneud apwyntiad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r dystysgrif neu'r broses Archwilydd Meddygol, ewch i wefan yr Archwilydd Meddygol Gwasanaeth Archwilio Meddygol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd), e-bost MidandWestWales.MedicalExaminersOffice@wales.nhs.uk neu ffôn 02921 500499.
Os nad ydych yn gallu mynychu’r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal ble digwyddodd y farwolaeth, gallwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru yn Lloegr a Chymru i wneud datganiad o’r manylion sy’n angenrheidiol. Fodd bynnag, os ydych yn dewis gwneud datganiad, fe fydd yn rhaid i chi aros ychydig yn hirach am y tystysgrifau a’r gwaith papur, oherwydd fe fyddant yn cael eu postio o’r Swyddfa Gofrestru honno.
I drefnu apwyntiad, galwch 01437 775176. Dylech geisio sicrhau eich bod yn cyrraedd yn brydlon i’ch apwyntiad ac os nad ydych yn gallu cadw’r apwyntiad, yna dylech roi gwybod i ni.
Pwy all gofrestru?
Dylai perthynas neu bartner i'r person sydd wedi marw gofrestru'r farwolaeth.
Os nad oes perthynas neu bartner, yna mae'n bosibl i berson arall gofrestru.
Mae'n bosibl i'r canlynol wneud hynny:
- person a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth
- swyddog o'r ysbyty
- cynrychiolydd personol yr ymadawedig.
Pa ddogfennau/gwybodaeth y mae angen i fi ddod â nhw?
I gofrestru'r farwolaeth, bydd angen ein bod wedi derbyn y dystysgrif gan yr Archwilydd Meddygol.
Dylai’r hysbysydd ddod â math o ddogfen adnabod gyda nhw, fel pasbort neu drwydded yrru, a phrawf o’u cyfeiriad.
Bydd angen yr hysbysydd hefyd ddarparu'r manylion canlynol yn eich apwyntiad:
- eich perthynas â'r person sydd wedi marw
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad arferol
- dyddiad a man y farwolaeth
- enw llawn yr ymadawedig (ac enw morwynol os yw'n briodol)
- dyddiad a man geni'r person sydd wedi marw
- galwedigaeth y person sydd wedi marw ac, os oedd yn briod, yn weddw neu'n bartner sifil neu'n bartner sifil a oedd yn dal yn fyw, enwau llawn a galwedigaeth y gŵr/y wraig neu'r partner sifil
- dyddiad geni'r gŵr/y wraig neu'r partner sifil sy'n dal yn fyw
- cyfeiriad arferol y person sydd wedi marw
- a oedd y person sydd wedi marw yn cael pensiwn o gronfa gyhoeddus h.y. gwasanaeth sifil, athro, lluoedd arfog
- rhif GIG neu gerdyn meddygol y person sydd wedi marw, os yw ar gael.
Mae'n bwysig sicrhau bod y wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr yn gywir. Fe fydd yn anodd newid unrhyw gamgymeriad a wneir. Dylech wirio'r manylion yn y cofnod yn ofalus iawn cyn i chi lofnodi.
Beth sy'n digwydd os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner?
Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd yn rhaid i'r meddyg neu'r cofrestrydd gyfeirio'r farwolaeth at y Crwner. Mae'n bosibl i'r crwner benderfynu:
- nad oes angen cymryd camau pellach a rhoi gwybod i'r Archwilydd Meddygol am hynny
- cynnal archwiliad post mortem; os felly, fe fydd y crwner yn cyflwyno ffurflen CN2 i'w defnyddio yn lle'r dystysgrif feddygol
- cynnal cwest - fe fydd swyddfa'r crwner neu'r cofrestrydd yn eich cynghori beth i'w wneud yn yr amgylchiadau hyn. Cyhoeddir Tystysgrif Marwolaeth Interim. Dylech roi gwybod i Swyddfa'r Crwner ar unwaith os yw'r dystysgrif yn cynnwys unrhyw wybodaeth anghywir neu os oes gwybodaeth ar goll.
Faint fydd y gost?
Nid oes tâl am gofrestru marwolaeth.
Pa ddogfennau y byddaf yn eu derbyn?
Ar ddiwedd y cofrestru, fe fyddwch yn derbyn:
- tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi, sef y ‘ffurflen werdd' y bydd y trefnwr angladdau ei hangen. Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd y Crwner yn cyflwyno ffurflen; fe fydd y swyddog cofrestru yn eich cynghori yn ôl yr angen.
- Mae’n bosibl y bydd arnoch angen prynu tystysgrifau marwolaeth. Mae tystysgrif farwolaeth yn gopi ardystiedig o’r cofnod yn y gofrestr farwolaeth. Mae’n bosibl y bydd ar fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, neu gyfreithwyr angen y rhain, neu ar gyfer hawlio pensiwn. Mae copïau yn costio £12.50 yr un. Gallwch dalu gyda cherdyn, arian parod neu siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Benfro.
Alla i gofrestru marwolaeth rywle arall yng Nghymru a Lloegr?
Os bydd marwolaeth wedi digwydd y tu allan i Sir Benfro a'ch bod yn methu teithio i'r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, fe allwch fynd i swyddfa yn Sir Benfro a gwneud datganiad. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei hanfon at swyddog cofrestru'r ardal honno a fydd yn cofrestru'r farwolaeth ac yn cyhoeddi'r dogfennau sy'n ofynnol.
Dweud Wrthym Unwaith
Rydym yn cynnig Dweudwch Wrthym Unwaith (yn agor mewn tab newydd) yn Sir Benfro. Felly, pan fydd rhywun yn marw, fe allwn ddweud wrth y bobl y mae angen iddyn nhw wybod.
Mae'r gwasanaeth hwn, sy'n rhad ac am ddim, yn rhoi'r cyfle i chi roi gwybod i rai Adrannau'r Llywodraeth am y farwolaeth. Os byddwch yn cyflwyno pasbort/rhif pasbort, trwydded yrru/rhif trwydded yrru neu Fathodyn Glas yr ymadawedig yn ystod eich apwyntiad, gall y cofrestrydd eu diddymu.
Pa wybodaeth y bydd arnaf ei hangen i ddefnyddio'r gwasanaeth?
I sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth gywir i'r cyrff y byddwn yn cysylltu â nhw ar eich rhan, dylech ddod â'r wybodaeth ganlynol (os yw'n berthnasol) am yr ymadawedig:
Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r ymadawedig:
- Manylion o unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau llywodraeth ganolog neu leol roedd yn eu cael
- ei drwydded yrru
- ei Basbort
- ei Fathodyn Glas (bathodyn parcio person anabl)
- ei Gerdyn Llyfrgell
- ei cerdyn teithio rhatach
Fe fyddwn hefyd yn gofyn i chi am fanylion cyswllt
- ei berthynas agosaf
- unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n dal yn fyw
- y person sy'n delio â'i ystâd (materion)
Mae'n rhaid i chi gael caniatâd y personau a restrir uchod os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanyn nhw.
Os na allwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth, peidiwch â phoeni - gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth ar gyfer y budd-daliadau/gwasanaethau y mae gennych wybodaeth amdanyn nhw. Peidiwch ag oedi cyn trefnu'r apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth.
Perthynas agosaf
Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda’r ymadawedig, gall y budd-daliadau y gallwch eu hawlio newid, felly gofalwch fod eich rhif Yswiriant Gwladol gennych wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Sylwch nad yw cyn-wraig/cyn-ŵr yn cyfrif fel perthynas i'r person sydd wedi marw.
Os nad chi yw'r perthynas agosaf, neu'r person sy'n delio ag ystâd y person sydd wedi marw, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os cewch eu caniatâd i weithredu ar eu rhan.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth gywir a chyfredol gan yr holl sefydliadau sy'n talu budd-daliadau o unrhyw fath i'r person sydd wedi marw.
Byddwn yn gallu rhoi gwybod i'r sefydliadau canlynol os bydd rhaid:
Adran Gwaith a Phensiynau
- Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
- Canolfan Byd Gwaith
- Tîm Iechyd Tramor
Gweinyddiaeth Amddiffyn, Personél Gwasanaethau ac Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-Filwyr
- Cynllun Pensiynau Rhyfel
Cyllid a Thollau EM
- Budd-dal Plant
- Credydau Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
- Treth Bersonol
Gwasanaeth Pasbort a Hunaniaeth
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
Cynghorau Lleol
- Swyddfa Budd-dal Tai
- Swyddfa Budd-dal Treth Cyngor
Gallwn hefyd ddweud wrth y sefydliadau hyn os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny:
- Llyfrgelloedd
- Bathodynnau Glas
- Gwasanaethau Oedolion
- Gwasanaethau Plant
- Casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor
- Gwasanaethau Etholiadol
Am ragor o wybodaeth cofiwch ffonio 01437 775176.
Cysylltu â ni
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Prendergast
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Mae taflenni'n ymwneud â budd-daliadau, profiant a chymorth gyda chostau angladd ar gael gan y Cofrestrydd a hefyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.