Marwolaethau
Ymdopi a Phrofedigaeth
Os yw'n anodd i chi ymdopi, un ai oherwydd eich bod dan deimlad neu'n ymarferol, wedi i chi golli eich priod, un o'ch teulu neu gyfaill, trwy farwolaeth neu wahanu, mae llawer o sefydliadau sy'n gallu eich helpu chi.
- Mae llyfryn Gofal yr Henoed 'Galar a Phrofedigaeth (Bereavement and Grief)' yn cynnig arweiniad a chymorth ar gyfer ymdopi ar eich pen eich hun neu gefnogi pobl eraill sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar, yn ogystal â gwybodaeth am Ewyllys a Phrofiant. Fe gewch chi hwn yn swyddfa Gofal yr Henoed Sir Benfro Age Concern Pembrokeshire (yn agor mewn tab newydd) neu Gofal yr Henoed Du (yn agor mewn tab newydd)
- Cruse - Gofal mewn Galar (yn agor mewn tab newydd) - Elusen genedlaethol sy'n cynnig cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n dioddef galar. Mae'r cynghorwyr gwirfoddol yn cael eu dewis, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n ofalus. Mae llinell gymorth ar gyfer Cymru gyfan a gwasanaeth arbenigol ar gyfer plant yng Nghymru.
- Cruse - 0808 808 1677
- Cruse Cymru - Ffôn: 02920 886913 / Ebost: wales.cymru@cruse.org.uk
- Cruse Sir Benfro - Ffôn: 0800 288 4700 / Ebost: westwales@cruse.org.uk
- 10:00am - 12:00 canol dydd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Peiriant ateb bob amser arall.
- National Bereavement Alliance (yn agor mewn tab newydd) - Mae profiad pawb o alar yn wahanol ac nid oes ffordd ‘cywir’ o alaru nac ymdopi. Gall siarad â phobl sy'n agos atoch helpu, ond mae angen cymorth ychwanegol ar lawer o bobl ar yr adeg anodd ho
- Mae'r Canllaw Cymorth Galar (yn agor mewn tab newydd) yn amlinellu'r amrywiaeth eang o gymorth profedigaeth sydd ar gael, o adnoddau hunangymorth i grwpiau cymorth a chwnsela galar ffurfiol. Mae'r canllaw hefyd yn cynnws manylion o gefnogaeth ar gyfer grwpiau arbennig o bobl; e.e. gweddwon ifanc, plant, y gymuned LHDTC+, grwpiau ffydd a phobl wedi'u heffeithio gan fathau penodol o brofedigaeth.
Cynghori mewn profedigaeth
Os ydych chi wedi profi marwolaeth rhywun yn bwysig i chi, efallai byddwch yn gweld hi'n anodd addasu i'r newidiadau enfawr sy'n digwydd yn eich bywyd. Gall galar ysgwyd popeth - eich credoau, eich personoliaeth, a hyd yn oed eich synnwyr o realiti.
- Gall gynghori mewn profedigaeth darparu cefnogaeth yn ystod yr amserau anodd hyn. Yn aml bydd siarad am y golled yn caniatáu person i addasu i'w bywyd newydd a'i holl newidiadau - da a drwg. Gallai cadw teimladau tu fewn neu wadu'r tristwch estyn y boen. Rhaid cydnabod unrhyw golled i ni symud ymlaen. Mae cynghori mewn profedigaeth yn ceisio helpu cleientiaid ddod o hyd i le am eu colled fel y gallent barhau a bywyd a dod o hyd i dderbyniaeth.
- Cyfarwyddiadur Cynghori (yn agor mewn tab newydd)
- Ffôn: 0844 803 0252
- Marie Curie - Elusen genedlaethol gofal diwedd oes sy’n darparu ystod o gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i unrhyw salwch angheuol. Mae hyn yn cynnwys cwnsela, cymorth grŵp a chymorth ffôn un i un.
- Ffôn: 0800 090 2309
- Gwefan: Marie Curie (yn agor mewn tab newydd)
ID: 2560, adolygwyd 07/05/2024