Arwerthiannau cist car

In the guide

Ceir gofynion gwahanol wrth werthu mewn arwerthiannau cist car, gan ddibynnu ar b'un a ydych yn 'fasnachwr' yn l y gyfraith ai peidio

Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gyfer Cymru a Lloegr

Os byddwch chi'n gwerthu mewn arwerthiannau cist car, bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i benderfynu a ydych yn 'fasnachwr' ai peidio ac, os ydych chi, beth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio 'r gyfraith. Mae hefyd wedi'i lunio i helpu gwerthwyr preifat dilys i benderfynu beth ddylen nhw ei werthu ai peidio.

Nid oes consensws ymhlith awdurdodau lleol ar sut y dylid dosbarthu arwerthiannau cist car, ond mewn rhai ardaloedd, mae cynghorau'n gorfodi'r amodau arferol a roddir i drwyddedau marchnadoedd. Bydd rhai awdurdodau'n caniatu arwerthiannau cist car dim ond os bydd yr enillion yn mynd i elusen yn hytrach na mentrau masnachol.

Mae awdurdodau eraill yn caniatu nifer fechan yn unig o arwerthiannau bob blwyddyn. Felly, fel cyfranogwr, efallai bydd eich ymddygiad yn effeithio'n gadarnhaol neu'n negyddol ar benderfyniad yr awdurdodau i ganiatu trwyddedau i drefnwyr arwerthiannau cist car yn y dyfodol. Felly cofiwch fod yn gyfrifol o ran swn, sbwriel a thraffig, yn ogystal 'ch ymddygiad tuag at gwsmeriaid yn yr arwerthiant.

Rhan1:masnachwyr

Ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n gwerthu mewn arwerthiannau cist car yn ystyried eu bod yn masnachu, er efallai eu bod yn gwerthu mewn arwerthiannau o'r fath sawl gwaith y flwyddyn.

Felly pryd fydd y gyfraith yn eich ystyried yn fasnachwr? Nid oes rheol bendant, ond dylech ystyried y cwestiynau canlynol:

A yw'r nwyddau y byddwch yn eu gwerthu yn eiddo personol i chi?Os byddwch yn prynu nwyddau yn arbennig i'w hailwerthu, er enghraifft, o wefannau arwerthu, hysbysebion papur newydd neu siop talu a chludo – neu os byddwch yn creu nwyddau er mwyn eu gwerthu, rydych fwy na thebyg yn fasnachwr.

Ydych chi'n gwerthu mewn arwerthiannau cist car yn rheolaidd?Os felly, rydych chi'n debygol o fod yn fasnachwr, hyd yn oed os nad yw arwerthiannau cist car yn ffynhonnell sylweddol o incwm.

Ydych chi'n cyflogi rhywun i'ch cynorthwyo ag arwerthiannau?Os felly, rydych chi fwy na thebyg yn fasnachwr.

Ydych chi'n gwerthu nwyddau tebyg mewn lleoliadau eraill – er enghraifft, marchnadoedd, ar y stryd neu o gartref? Os felly, rydych chi bron yn sicr yn fasnachwr.

Faint o'ch incwm sy'n deillio o gymryd rhan mewn arwerthiannau cist car ac am ba ganran o'ch incwm mae'n cyfrif?Po fwyaf sylweddol yw cyfran yr incwm rydych yn ei gael o arwerthiannau cist car, y mwyaf tebygol ydyw eich bod chi'n fasnachwr yn yr arwerthiannau hynny.

Dynodi pwy ydych chi

Yn ddigon rhesymol, gall defnyddwyr ddisgwyl gwybod pwy maen nhw'n delio nhw a phwy y dylid cysylltu nhw os oes ganddyn nhw gwestiwn am yr hyn maen nhw'n ei brynu.

Mae Deddf Cwmnau 2006 yn pennu'r gofynion yn ymwneud 'r enw y mae'r busnes yn dewis ei ddefnyddio i fasnachu a'r rheolau sy'n atal defnyddio enwau a all gamarwain y cyhoedd. Mae'r gofynion enwau busnes yn berthnasol os nad ydych yn masnachu dan eich enw eich hun. Maen nhw'n nodi bod rhaid i chi ddangos eich enw busnes yn glir, a chyfeiriad lle gellir anfon dogfennau cyfreithiol. Mae'r gofynion hyn hefyd yn berthnasol i dderbynebau, anfonebau, archebion a gohebiaeth sy'n cael eu hanfon mewn cysylltiad 'ch busnes. Efallai byddwch chi'n pryderu am roi'r manylion hyn i gwsmeriaid, ond os na wnewch chi hynny, byddwch yn torri'r ddeddfwriaeth ac yn agored i gosbau a orfodir os bydd safonau masnach yn cymryd camau ffurfiol. Am ragor o wybodaeth, gweler 'Enwau cwmnau a busnesau'.

Yn ogystal hyn, mae'n ofynnol i chi roi gwybodaeth i ddefnyddwyr dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 cyn iddynt gytuno i brynu nwyddau, gwasanaethau neu gynnwys digidol o'ch safle busnes (sy'n cynnwys safle parhaol masnachwr yn ogystal safle dros dro, fel stondin marchnad). Dywed y Rheoliadau fod rhaid i chi roi gwybodaeth benodol i ddefnyddwyr, (neu sicrhau ei bod ar gael iddyn nhw), cyn i'r defnyddwyr ddechrau unrhyw gontract gyda chi, fel eich manylion adnabod (enw'r busnes neu eich enw masnachu), cyfeiriad daearyddol a rhif ffn, cyfanswm pris y nwyddau neu'r gwasanaethau gan gynnwys trethi (TAW) neu, os nad yw'r pris yn hysbys, sut caiff y pris ei gyfrifo. Am ragor o wybodaeth, gweler 'Contractau defnyddwyr:gwerthiannau ar y safle'.

Gofynion wrth werthu nwyddau

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn mynnu, os byddwch chi'n gwerthu rhywbeth, yn newydd neu'n ail law, y dylai fod o ansawdd boddhaol, fel y'i disgrifiwyd ac yn addas i'w bwrpas (gan gynnwys unrhyw bwrpas y mae'r prynwr yn rhoi gwybod i chi amdano). Caiff amgylchiadau perthnasol eu hystyried, felly ni all defnyddiwr ddisgwyl i nwyddau ail law fod cystal rhai newydd, neu gellir prynu hen beth am ei werth esthetig yn hytrach na'i ymarferoldeb.

Os byddwch chi, fel masnachwr, yn gwerthu rhywbeth nad yw'n diwallu'r gofynion hyn, efallai y gall defnyddiwr hawlio o leiaf un rhwymedi gennych. O fewn y 30 diwrnod cyntaf, mae gan y defnyddiwr hawl i wrthod y nwyddau a hawlio ad-daliad. Fel dewis arall, neu os yw'r nwyddau wedi bod ym meddiant y defnyddiwr am fwy na 30 diwrnod, gall ofyn i'r gwerthwr drwsio neu amnewid y nwyddau. Os nad yw'r opsiynau hyn yn gweithio, neu os nad ydyn nhw'n briodol (ac nid oes angen i'r defnyddiwr roi mwy nag un cyfle i drwsio neu amnewid), gall y defnyddiwr hawlio ad-daliad llawn neu rannol, a/neu iawndal am ei golledion yn lle hynny.

Os bydd problem 'r nwyddau yn ystod y chwe mis ar l eu prynu, caiff ei dybio bod y diffyg yno pan gawsant eu prynu, oni bai y gall y masnachwr brofi fel arall (oni bai bod y defnyddiwr yn gwrthod y nwyddau yn ystod y 30 diwrnod cyntaf heb roi cyfle i'r masnachwr drwsio neu amnewid y nwyddau yn gyntaf). Ar ddiwedd y chwe mis, rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y diffyg yn bodoli adeg prynu'r nwyddau. Os bydd y defnyddiwr yn profi hynny, yna byddai disgwyl i chi unioni'r sefyllfa'n briodol.

Fel masnachwr, dylech fod yn barod i anrhydeddu'r hawliau hyn. Os byddwch yn gwerthu rhywbeth diffygiol, yr unig ffordd o osgoi'ch rhwymedigaeth i ddarparu'r rhwymediau hyn fydd nodi'r diffygion ar adeg ei werthu. Fodd bynnag, ni wnaiff hyn eich amddiffyn rhag hawliad os bydd gan yr eitem ddiffygion eraill. Mae eich dyletswyddau i'r defnyddiwr yn y sefyllfa hon yn sifil, yn hytrach na throseddol, ond o dan Ddeddf Menter 2002, gall safonau masnach wneud cais i'r llysoedd sifil am orchymyn gorfodaeth i'ch atal rhag torri cyfraith sifil.

Am ragor o wybodaeth, gweler'Gwerthu a chyflenwi nwyddau'.

Dyletswydd gyffredinol i fasnachu'n deg

Ceir dyletswydd gyffredinol i beidio masnachu'n annheg, agwmpesir ganReoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Os gwnewch unrhyw beth sy'n annheg ac a fyddai'n effeithio ar benderfyniad trafodaethol y defnyddiwr - er enghraifft, i brynu neu i beidio gofyn am ad-daliad - yna fe allech fod yn torri'r gyfraith.

Am ragor o wybodaeth, gweler'Diogelu defnyddwyr rhag masnachu annheg'.

Diogelwch nwyddau

Mae Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 a Rheoliadau Cyffredinol Diogelwch Nwyddau 2005 yn mynnu fod unrhyw nwyddau a werthir yn ddiogel. Dylech fod yn arbennig o ofalus theganau, nwyddau trydanol, nwyddau cosmetig, dodrefn wedi'u clustogi a dillad (yn enwedig dillad nos).

Prisio nwyddau

Mae Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, CansloaThaliadau Ychwanegol) 2013 yn mynnu eich bod yn rhoi gwybod i'r defnyddiwr am gyfanswm pris y nwyddau neu'r gwasanaethau gan gynnwys trethi (TAW) neu, os nad yw'r pris yn hysbys, sut caiff y pris ei gyfrifo.

Mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn datgan na ddylech ddynodi pris mewn ffordd gamarweiniol, naill ai yn y modd y mae'n cael ei roi (am ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus) neu trwy hepgor gwybodaeth am y pris y mae angen i'r defnyddiwr ei gwybod (megis tl gorfodol am gludiant) os byddai hynny'n effeithio ar benderfyniad y cwsmer i brynu.Er enghraifft, niddylech ddefnyddio cymariaethau pris neu arwyddion 'sl' pan fydd y pris uchaf y byddwch yn ei nodi mewn cymariaethau yn annheg neu'n ddiystyr.

Sylwer: er bod bargeinio neu negodi'n rhan o natur y farchnad, nid yw'r gyfraith yn caniatu i chi gamarwain cwsmeriaid am bris y nwyddau rydych yn eu gwerthu; gweler 'Darparu gwybodaeth am brisiau'.

Hawliau defnyddwyr

Mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 yn gwahardd gwybodaeth sy'n camarwain neu sy'n debygol o gamarwain defnyddwyr mewn perthynas hawliau'r defnyddiwr. Felly, ni ddylech rwystro hawliau defnyddwyr mewn unrhyw ffordd, na rhoi'r argraff eich bod yn eu rhwystro trwy godi arwyddion megis 'dim ad-daliadau' neu 'gwerthir fel y gwelir'. Hyd yn oed os byddwch yn rhoi ymadrodd o'r fath ar dderbynneb, ni fydd yn effeithio ar eich rhwymedigaethau i gwsmeriaid, a bydd ganddyn nhw hawl i unioni camwedd o hyd mewn achosion o nwyddau diffygiol neu rai wedi'u cam-ddisgrifio.

Derbynebau

Yn gyffredinol, mae'r cyhoedd yn credu'n gamsyniol bod rhaid i fasnachwr roi derbynneb iddynt pan brynir nwyddau. Mae hwn yn gonfensiwn - yn arfer da hyd yn oed - ond nid yw'n ofyniad cyfreithiol (er efallai bod cyfraith trethi yn gofyn i chi gynhyrchu derbynebau dan amgylchiadau penodol). Wrth gwrs, os ydych chi'n fasnachwr, ni fyddai ceisio plesio'r cwsmer yn gwneud unrhyw niwed, ond nid oes rhaid i chi gydymffurfio. Fodd bynnag, efallai y gwnaiff eich cynorthwyo i gadw cofnodion manwl, fel bod modd i chi gadw cofnodion treth dibynadwy.

Eitemau bwyd

Mae Rheoliad yr UE (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Asiantaeth Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn disgrifio gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn datgan y dylai bwyd fod yn ddiogel, hynny yw, ni ddylai fod yn niweidiol i iechyd nac yn anaddas i'w fwyta gan bobl. Ni ddylai labeli, hysbysebion na dulliau o gyflwyno bwyd gamarwain defnyddwyr. Mae'n rhaid i fusnesau bwyd wybod pa fusnesau sydd wedi cyflenwi bwyd neu gynhwysion iddynt, a pha fusnesau maent hwythau wedi cyflenwi cynnyrch iddynt, a dylai'r manylion hyn fod ar gael ar gais. Dylid rhoi'r gorau i werthu bwyd anniogel neu ofyn i gwsmeriaid ei ddychwelyd os bydd eisoes wedi'i werthu.

Mae rheolau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn rheoleiddio labelu a chyfansoddiad bwyd, a rhaid i chi sicrhau fod bwyd wedi'i labelu'n gywir (gweler Marc dyddiad a lot bwyd sydd wedi'i becynnu) ac o ansawdd dderbyniol. Gall y dirwyon am werthu bwyd sy'n torri'r gofynion hyn fod yn sylweddol. Mae rheoliadau hefyd ar hylendid bwyd a bwyd sy'n anaddas i'w fwyta.

Os byddwch yn gwerthu bwyd, mae'n ofynnol i chi gofrestru 'ch gwasanaeth iechyd yr amgylchedd lleol.

Disgrifio nwyddau a nwyddau ffug

Mae cam-ddisgrifio nwyddau yn dor-contract dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Os camarweinir defnyddwyr gan nwyddau a gam-ddisgrifir, bydd hynny'n dor-cytundeb hefyd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Cyn gwerthu eitemau wedi'u recordio neu eitemau brand megis cryno ddisgiau, DVDs/disgiau Blu-ray, gemau fideo neu grysau-t, dylech sicrhau nad ydynt yn ffug, oherwydd gellir gosod cosbau llym ar unrhyw un sy'n torri deddfau hawlfraint a nodau masnach (Deddf Nodau Masnach 1994).

Yn ogystal throseddau posibl o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994, os gallai marchnata'r nwyddau a werthir gennych achosi dryswch rhwng y nwyddau hynny a nwyddau cystadleuydd (trwy ddefnyddio nodau masnach, enwau masnach neu nodau adnabyddus eraill cystadleuydd), ac os byddwch yn achosi i ddefnyddiwr brynu rhywbeth na fyddai wedi'i brynu fel arall trwy ei gamarwain, bydd hyn yn torri Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 hefyd.

Mae gwerthu ffilmiau DVD neu Blu-ray yn weithred fentrus iawn, oherwydd gall gwerthu ffilmiau sydd heb eu dosbarthu'n gywir gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain ddenu dirwyon neu ddedfryd o garchar dan Ddeddf Recordiadau Fideo 1984. Fe'ch cynghorir yn gryf i gael cyngor manylach ar Ddeddf Recordiadau Fideo 1984 cyn ystyried gwerthu ffilmiau fideo. Gweler 'Recordiadau a gemau fideo ar werth ac ar log'.

Peidiwch chael eich denu i werthu copau ffug o gerddoriaeth neu ffilmiau gan feddwl bod y lleoliad yn anffurfiol. Hyd yn oed os nad chi a greodd y copau o'r gwreiddiol, mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yn cwmpasu trosedd eilaidd os byddwch chi'n elwa o'r weithred yn fasnachol a chithau'n gwybod bod yr hawlfraint wedi'i thorri, neu fod gennych chi reswm i gredu hynny.

Am ragor o wybodaeth, gweler'Eiddo deallusol', sy'n cynnwys dolenni i adran Swyddfa Eiddo Deallusol gwefan GOV.UK.

Camliwio

O dan Ddeddf Camliwio 1967, mae'n bosibl y bydd unrhyw honiad ffug am ansawdd, tarddle neu ddilysrwydd nwyddau a werthir yn enghraifft o gamliwio, a buasai'n rhoi hawl i'r cwsmer ddwyn achos yn eich erbyn mewn llys sifil.

Rhan2:osnad ydych chi'n fasnachwr

Os ydych chi'n werthwr dilys nad yw'n fasnachwr - er enghraifft, os yw'r nwyddau rydych yn eu gwerthu yn eiddo personol i chi - ni fydd rheoliadau'r gyfraith ar fasnachu yn berthnasol i chi ar y cyfan. Fodd bynnag, mae eithriadau - er enghraifft mae Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (sy'n parhau i fod yn berthnasol yma gan fod Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn berthnasol i drafodion rhwng busnes a defnyddiwr yn unig) yn mynnu bod y nwyddau'n cyd-fynd 'r disgrifiad. Os byddwch yn disgrifio nwyddau mewn unrhyw ffordd a daw'n amlwg wedyn bod y disgrifiad hwnnw'n ffug, bydd rhaid i chi roi ad-daliad neu amnewid yr eitem neu ostwng y pris i adlewyrchu'r camddisgrifiad neu'r camliwiad. Mae posibilrwydd hefyd y gall cwsmer ddwyn hawliad sifil yn eich erbyn os anafir ef neu os difrodir ei eiddo o ganlyniad i'ch esgeulustod.

Fodd bynnag, gallwch wneud nifer o bethau a argymhellir fel 'arferion da' wrth werthu'n breifat i'ch cynorthwyo i osgoi problemau, ac mae gweddill yr adran hon yn manylu ar y pethau hyn.

Nwyddau trydanol

Rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio phrynu eitemau fel tanau trydan, blancedi trydan a haearnau smwddio mewn arwerthiannau cist car. Oni bai bod gan yr eitem ffynhonnell ddibynadwy ddiweddar a'i bod yn cynnwys y cyfarwyddiadau gwreiddiol, byddem yn eich rhybuddio'n gryf ei beidio 'u gwerthu.

Bwyd

Nid arwerthiannau cist car yw'r lle i geisio cael gwared ar duniau a phecynnau sy'n cuddio yng nghefn eich cypyrddau bwyd.

Mae'r ddau fath o farc dyddiad yn y ddeddfwriaeth ('defnyddio erbyn' ac 'ar ei orau cyn') yn cael eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr i ddangos y bydd y bwyd ar ei orau, ac y dylai fod yn ddiogel i'w fwyta,cyn pwynt neu ddyddiad penodol, gan dybio'i fod wedi'i storio'n gywir. Os oes gan fwyd ddyddiad 'defnyddio erbyn', mae hyn yn golygu ei fod yn ddarfodus dros ben ac yn debygol o fod yn beryglus i'w fwyta ymhen byr o dro; ni ddylid bwyta na chyflenwi bwyd ar l ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'. Gall gwerthwr gyflawni trosedd os bydd bwyd yn dirywio'n sylweddol nes bydd yn anaddas i'w fwyta gan bobl. Gweler'Marc dyddiad a lot bwyd sydd wedi'i becynnu'am ragor o fanylion.

Dillad

Meddyliwch ddwywaith cyn gwerthu dillad nos, oherwydd efallai na fydd yn diwallu'r gofynion ar hylosgedd sy'n berthnasol i ddillad nos a werthir gan fasnachwyr. Gall cotiau plant llinyn cwfl hefyd fod yn beryglus, felly byddwch yn ofalus wrth werthu'r eitemau hyn os byddwch yn ansicr ynglyn 'u tarddle ac/neu eu diogelwch.

Teganau

Archwiliwch deganau i sicrhau nad oes ymylon miniog na rhannau bychan y gellir eu tynnu oddi arnynt. Rhowch y tegan mewn sgip yn hytrach na'i werthu os bydd mewn cyflwr gwael neu'n hen iawn. Bydd yn fanteisiol i chi os yw'r pecyn gwreiddiol gennych chi, oherwydd gellir rhoi cyfarwyddiadau defnyddio, neu gyfarwyddiadau ar oedran argymelledig y defnyddiwr, i'r prynwr.

Nwyddau cosmetig

Mae rhai cynhwysion wedi'u rheoleiddio ac, os na fydd y seliau'n gyfan, gall yr eitemau hyn gael eu halogi. Mae nifer o reolau ynglyn 'r hyn y gellir ac na ellir ei werthu. Gweler 'Cynhyrchion cosmetig' neu cysylltwch 'ch gwasanaethau safonau masnach lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Rhan3:meysydd peryglus eraill

Dylid pwyllo cyn gwerthu'r mathau o nwyddau a restrir isod. Mae safonau diogelwch penodol yn ymwneud gwerthu pob un o'r rhain gan fasnachwyr, a dylech eu harchwilio'n ofalus cyn i chi hyd yn oed ystyried eu gwerthu:

  • pramiau a chadeiriau gwthio
  • gwresogyddion paraffin
  • gwresogyddion olew

Nwyddau wedi'u dwyn

Gall trin nwyddau wedi'u dwyn arwain at gosbau llymach na'r lladrad. Os byddwch yn gwerthu nwyddau wedi'u dwyn, bydd gan y prynwr hawl i gael ad-daliad gennych chi, hyd yn oed os nad chi oedd y lleidr. Er eich lles chi, wrth brynu nwyddau, gofynnwch am dderbynneb ac am gael gweld dogfen adnabod briodol, nodwch rif cerbyd y gwerthwr a chysylltwch 'r orsaf heddlu agosaf os byddwch yn amau fod drwg yn y caws. Gwyliwch am eitemau sy'n cael eu dwyn yn rheolaidd, yn enwedig offer garddio, arfau pwer a beiciau mynydd.

Gynnau chwarae a gynnau peli traul ('bb')

Os byddwch yn prynu neu'n gwerthu arfau tn chwarae neu ffug, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n gwneud hynny'n gyfrifol. Mae Deddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006 a'r rheoliadau ategol bellach yn ei gwneud hi'n drosedd i werthu 'arf ffug' i unigolyn o dan 18 oed, ac i unigolyn o dan 18 oed brynu arf o'r fath.

Heblaw am rai eithriadau, mae gwerthu 'arfau ffug realistig' hefyd yn drosedd. Gellir gwerthu'r gynnau hynny sy'n amlwg yn deganau - er enghraifft, oherwydd eu golwg neu faint afrealistig - heb unrhyw gyfyngiadau. Os ydych chi'n ansicr am unrhyw wn yr ydych am ei werthu, dylech holi'r heddlu am ragor o gyngor.

Deddfwriaeth allweddol:

Deddf Camliwio 1967

Deddf Gwerthu Nwyddau 1979

Deddf Recordiadau Fideo 1984

Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988

Deddf Diogelwch Bwyd 1990

Deddf Nodau Masnach 1994

Deddf Menter 2002

Rheoliad yr UE (EC) Rhif 178/2002sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch BwydEwropac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd

Gorchymyn Nodi Prisiau 2004

Rheoliadau Cyffredinol Diogelwch Cynnyrch 2005

Deddf Cwmnau 2006

Deddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Deddf Recordiadau Fideo 2010

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Adolygwyd / diweddarwyd diwethaf:Chwefror2018

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y DU ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen; fel arfer, caiff diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE eu hymgorffori yn y testun.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2019 itsa Ltd.

TSI: 260381, ID: 528, updated 24/04/2019