Cyflenwi gwasanaethau - o 1 Hydref 2015 ymlaen

In the guide

Gwnewch yn siwr eich bod yn deall eich rhwymedigaethau - o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 - pan fyddwch yn cyflenwi gwasanaethau i ddefnyddiwr

Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gyfer Cymru a Lloegr

MaeDeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 ynnodirheolau sy'n ymwneud chyflenwi gwasanaethau i ddefnyddwyr. Hefyd, mae'r Ddeddf yn llywodraethu cyflenwinwyddau a chynnwys digidol,ac mae'n darparuun set o reolau ar gyfer gwerthu a chyflenwi nwyddau, gan gynnwyslle cyflenwir nwyddaufel rhan o wasanaeth neu gontract ar gyfer gwaith a deunyddiau.

Dyma ganllaw ar yr hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n codi pan fydd masnachwr yn cyflenwi gwasanaethau i ddefnyddiwr. Mae'n ateb cwestiynau a ofynnir yn aml gan fasnachwyr ynglyn 'u rhwymedigaethau tuag at y defnyddiwr unigol

Beth yw masnachwr?

Os ydych chi'n 'unigolyn' sy'n gweithredu at ddibenion yn ymwneud 'ch masnach, busnes, crefft neu alwedigaeth, rydych yn 'fasnachwr'.

Gall unigolyn olygu mwy nag un unigolyn - er enghraifft, os yw'ch busnes yn bartneriaeth o ddau unigolyn neu fwy. Gall unigolyn fod yn gwmni, elusen (neu sefydliad dielw arall), adran y llywodraeth, awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus.

Os ydych chi'n fasnachwr sy'n caniatu i unigolyn arall weithredu yn eich enw neu ar eich rhan, byddech yn dal i fod yn gyfrifol am y contractau hynny - er enghraifft, os ydych chi'n cyflogi pobl i wneud contractau ar gyfer gwerthu ceir i'ch cwsmeriaid neu'n is-gontractio gyda rhywun arall i gyflenwi llafur wrth adeiladu wal.

Beth yw defnyddiwr?

At ddibenion y canllaw hwn, 'defnyddiwr' yw unigolyn sydd, wrth ymdrin masnachwr, yn gweithredu at ddibenion y tu allan i'w fasnach, busnes, crefft neu alwedigaeth, yn gyfan gwbl neu yn bennaf. Pan fydd defnyddiwr yn cyflwyno'i hun fel busnes (er enghraifft, trwy sefydlu cyfrif busnes ar gyfer prynu gwasanaeth) nid yw'r gyfraith yn ei ystyried yn ddefnyddiwr.

Os yw'r masnachwr yn honni nad defnyddiwr yw'r cwsmer, a bod hawliau'r cwsmer yn gyfyngedig felly, cyfrifoldeb y masnachwr yw profi hyn.

Ffurfio contract

YCONTRACT

Pan fydd defnyddiwr yn prynu gwasanaethau oddi wrth fasnachwr, bydd y ddau'n ffurfio contract. Gellir diffinio contract fel cytundeb rhwng o leiaf dau barti y bwriedir iddo fod yn gyfreithiol rwymol. Yn ogystal 'r telerau y cytunwyd arnynt rhwng y parton, mae'r gyfraith yn gosod safonau penodol ar gyfer contractau defnyddwyr.

Er mwyn i amod fod yn gyfreithiol rwymol, mae'n rhaid iddo fod yn rhan amlwg o'r contract ac yn gyfreithiol. Nid yw telerau a roddir i ddefnyddiwr ar l i'r contract gael ei lunio (er enghraifft, telerau a ysgrifennwyd ar gefn derbynneb yn unig) yn rhan o'r contract, ac nid oes ganddynt unrhyw effaith.

Nid oes rhaid i gontract fod yn ysgrifenedig, ond mae'n ddoeth nodi telerau pwysig yn ysgrifenedig er mwyn osgoi dadl yn ddiweddarach.

Cyfeirir at fethiant i gydymffurfio thelerau contract fel tor-contract ac, fel arfer, bydd yn rhaid i'r unigolyn sy'n cyflawni'r tor-contract ei unioni mewn rhyw ffordd.

SUT CAIFF Y CONTRACT EI LUNIO?

Yr elfen hanfodol wrth ffurfio contract yw'r cytundeb (sy'n cynnwys cynnig a derbyniad). Mae angen o leiaf ddau barti (fel y masnachwr a'r defnyddiwr). Bydd un ohonynt (y cynigiwr) yn gwneud cynnig, y bydd y llall (y derbyniwr cynnig) yn ei dderbyn. Mynegiant o barodrwydd i lunio contract yw cynnig, a wneir gyda'r bwriad iddo ddod yn gyfrwymol ar y cynigiwr cyn gynted ag y bydd y derbyniwr yn ei dderbyn.

Pan fydd masnachwr yn hysbysebu gwasanaethau (er enghraifft, mewn rhestr brisiau) maent fel arfer yn rhoi'r hyn y cyfeirir ato fel 'gwahoddiad i drin' i ddefnyddwyr. Yna, gall y defnyddiwr wneud cynnig i brynu'r gwasanaethau. Ar yr adeg hon, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y masnachwr i dderbyn y cynnig; llunnir contract os a phan fydd y masnachwr yn derbyn.

Weithiau, mae'r broses yn gweithio'r ffordd arall - hynny yw, mae'r masnachwr yn gwneud cynnig i'r defnyddiwr a llunnir contract pan fydd y defnyddiwr yn derbyn y cynnig.

O dan y contract, bydd y defnyddiwr yn cytuno i dalu swm o arian i'r masnachwr a/neu wneud rhywbeth arall yn gyfnewid am y gwasanaethau a gyflenwir gan y masnachwr. Adwaenir yr ymrwymiad hwn fel 'cydnabyddiaeth' yn y contract. Os nad oes cydnabyddiaeth (hynny yw, os bydd masnachwr yn cynnig cyflenwi gwasanaethau'n gwbl rydd o unrhyw dl cydnabyddiaeth neu rwymedigaeth arall), nid oes contract o gwbl.

BETH FYDD YN DIGWYDD OS BYDD Y DEFNYDDIWR YN NEWID EI FEDDWL?

Fel arfer, nid oes gan ddefnyddiwr hawl awtomatig i newid ei feddwl a chanslo contract; felly, os bydd hyn yn digwydd, ystyrir ei fod yn torri'r contract. Fodd bynnag, ceir hawl awtomatig i ganslo mewn rhai achosion arbennig, gan gynnwys y rhan fwyaf o gontractau defnyddwyr a wneir o bell (er enghraifft, trwy archeb bost neu'r rhyngrwyd) neu yng nghartref y defnyddiwr ac ati. Gweler'Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013'isod.

Os bydd defnyddiwr yn canslo'r contract yn anghyfreithlon, gall y masnachwr hawlio'r costau rhesymol a gafwyd. Pan na all y masnachwr adennill y gwerthiant a gollwyd (er enghraifft, trwy wneud archeb arall yn lle yr archeb a ganslwyd) gall ei hawliad gynnwys colli elw. Os yw'r defnyddiwr wedi gwneud taliad llawn neu rannol o flaen llaw, gall y masnachwr gadw digon i dalu am y colledion hyn yn unig ac mae'n rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.

Yr hyn y gall y defnyddiwr ei ddisgwyl (hawliau statudol)

O dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, mae safonau penodol yn berthnasol i bob contract ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Mae'n rhaid i fasnachwr sy'n cyflenwi gwasanaeth fodloni'r safonau canlynol:

  • bod yn rhaid i'r gwasanaeth gael ei gyflawni gyda gofal a sgl rhesymol.Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r masnachwr, o leiaf, weithio i'r un safon ag unrhyw unigolyn rhesymol gymwys yn y grefft honno neu'r proffesiwn hwnnw. Nid yw'r gyfraith yn awgrymu y bydd unrhyw ganlyniad penodol yn cael ei gyflawni (er enghraifft, ni fydd meddyg cymwys yn gallu trin pob claf yn llwyddiannus o reidrwydd), ond bydd llawer o gontractau'n cynnwys telerau penodol ynglyn 'r canlyniad y gall y cwsmer ei ddisgwyl gan y gwasanaeth. Er mwyn lleihau'r perygl o anghytundeb gymaint phosibl, dylid datgan yn eglur lle y cytunwyd ar ganlyniad penodol a lle y ceir perygl o beidio chyflawni'r canlyniad a ddymunir
  • bod gwybodaeth a roddir i'r defnyddiwr ar lafar neu'n ysgrifenedig yn gyfrwymol pan fydd y defnyddiwr yn dibynnu arni.Bydd hyn yn cynnwys dyfynbrisiau ac unrhyw addewidion ynglyn graddfeydd amser neu'r canlyniadau sydd i'w cyflawni. Mae hyn yn berthnasol os bydd y defnyddiwr yn ystyried y wybodaeth hon wrth benderfynu p'un a fydd yn prynu'r gwasanaeth, neu wneud unrhyw benderfyniad ynglyn 'r gwasanaeth wedi hynny
  • bod yn rhaid i gost y gwasanaeth fod yn rhesymol.Yn aml, bydd contract yn pennu pris, neu'n nodi'n eglur sut y cyfrifir y pris (er enghraifft, cyfradd yr awr). Lle na chytunir ar y pris o flaen llaw, mae'n rhaid iddo fod yn rhesymol. Yn nodweddiadol, bernir hyn o gymharu 'r prisiau y gallai masnachwyr eraill tebyg fod wedi eu codi
  • bod yn rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal o fewn amser rhesymol.Yn aml, bydd contract yn nodi dyddiad neu amser i'r gwasanaeth gael ei gyflawni neu ei gwblhau. Lle na cheir cytundeb ynglyn ag amser, mae'n rhaid i'r raddfa amser fod yn rhesymol serch hynny. Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar y math o wasanaeth a'r holl amgylchiadau eraill perthnasol

Yn ogystal, ceir llawer o achosion lle y cyflenwir nwyddau yn rhan o gontract ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Ar gyfer y rheolau sy'n berthnasol i gyflenwi nwyddau yn yr amgylchiadau hyn, gweler'Gwerthu a chyflenwi nwyddau'.

Camau unioni yn achos tor-contract

Os bydd y masnachwr yn torri'r contractar gyfer cyflenwi gwasanaethautrwy fethu bodloni'r safonau sy'n ofynnol dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, mae gan y defnyddiwr yr hawl i fynnu bod y gwasanaeth yn cael ei ailgyflawni neu i gael gostyngiad yn y pris.

AILGYFLAWNI GWASANAETH

Mae'r cam unioni hwn ar gael pan fydd y masnachwr yn methu ag arfer gofal a sgl rhesymol neu pan fydd yn torri gofyniad sy'n codi o wybodaeth a roddwyd ganddo ynglyn 'r gwasanaeth. Gall y defnyddiwr fynnu bod y masnachwr yn ailgyflawni'r gwasanaeth er mwyn ei gwblhau'n gywir. Mae'n rhaid i'r gwaith hwn gael ei wneud heb unrhyw gost i'r defnyddiwr, o fewn amser rhesymol a heb achosi anghyfleustra sylweddol i'r defnyddiwr.

Ni all y defnyddiwr ofyn am ailgyflawni lle y byddai'n amhosibl gorffen darparu'r gwasanaeth i'r safon sy'n ofynnol.

GOSTYNGIAD YN Y PRIS

Gall y defnyddiwr hawlio gostyngiad yn y pris os bydd ailgyflawni'r gwasanaeth yn amhosibl neu os na ellir ei wneud o fewn amser rhesymol a heb achosi anghyfleustra sylweddol. Gellir hawlio gostyngiad yn y pris hefyd os na chyflawnir y gwasanaeth o fewn amser rhesymol neu os bydd y masnachwr yn torri gofyniad sy'n codi o wybodaeth a roddwyd ganddo ynglyn rhywbeth heblaw am y gwasanaeth ei hun.

Bydd swm y gostyngiad yn y pris yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd yr achosion o dor-contract, ac fe all fod yn unrhyw beth hyd at 100% o'r pris. Os yw'r defnyddiwr eisoes wedi talu'n llawn neu'n rhannol am y gwasanaeth, fe allai fod ganddo'r hawl i gael rhywfaint o arian yn l.

CAMAU UNIONI ERAILL

Nid yw'r camau unioni o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn disodli hawliau cyfreithiol presennol y defnyddiwr, a all gynnwys hawlio iawndal os na fydd y masnachwr yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol dan y Ddeddf, neu dan un o'r telerau cytunedig yn y contract.

Nid yw'r Ddeddf ei hun yncynnwys hawl i'r defnyddiwr drefnu i rywun arall gwblhau'r gwasanaeth ac yna chodi'r tl am hyn ar y masnachwr gwreiddiol.

Fel arfer, bydd defnyddiwr yn fodlon caniatu i'r masnachwr unioni'r sefyllfa, ond, ceir achosion lle y cyflawnwyd y gwasanaeth mor wael fel y byddai'n afresymol disgwyl i'r defnyddiwr roi ail gyfle i'r masnachwr. Fe allai fod amgylchiadau hefyd lle y byddai'n anymarferol gwneud hynny - er enghraifft, os mai atgyweiriad i gerbyd oedd y gwasanaeth, ac yna bod y cerbyd yn torri i lawr gannoedd o filltiroedd o'r garej wreiddiol oherwydd nad oedd y gwaith wedi'i wneud yn iawn.

Yn yr achosion hyn, mae'n bosibl y byddai'r defnyddiwr yn gallu hawlio cost gwaith unioni gan fasnachwr arall. Fodd bynnag, hyd yn oed yn yr achosion hyn, mae'n ddoeth iddo drafod ei bryderon a'i fwriadau gyda'r masnachwr gwreiddiol yn gyntaf er mwyn ceisio dod i ryw fath o gytundeb ynglyn hyn.

EITHRIADAU: PRYD NA ALL DEFNYDDIWR HAWLIO

Ni all defnyddiwr hawlio lle nad yw'r gwasanaeth yn cyflawni'r canlyniad a ddymunwyd ganddo, er y cyflawnwyd y gwasanaeth gyda gofal a sgl rhesymol, oni bai y cytunwyd ar y canlyniad hwnnw yn gyntaf.

Ni all defnyddiwr hawlio pan fydd ef, ac nid y masnachwr, yn gyfrifol am bethau sy'n mynd o chwith. Os bydd defnyddiwr yn gofyn i'r masnachwr ddefnyddio deunyddiau neu ddulliau amhriodol neu dorri corneli i arbed arian, a hynny'n groes i gyngor y masnachwr, ni all y defnyddiwr hawlio i'r graddau bod y deunyddiau, y dulliau neu'r achosion hyn o dorri corneli'n arwain at ganlyniad siomedig. Os bydd masnachwr yn cytuno i wneud gwaith ar y sail hon, dylid gwneud cofnod ysgrifenedig o'r hyn y cytunwyd arno, a risgiau canlyniadau gwael.

Ni all defnyddiwr hawlio am ddifrod a achosir ganddo; ni all hawlio ychwaith os bydd yn newid ei feddwl yn syml ynglyn ag eisiau'r nwyddau neu'r gwasanaethau oni bai bod y contract yn caniatu iddo wneud hynny trwy gyfnod ailfeddwl neu'r hawl i ganslo.

Ni chaiff defnyddiwr hawlio am ddiffygion sy'n ymddangos o ganlyniad i draul arferol.

YMDRIN CHWYNION

O dan Reoliadau Darparu Gwasanaethau 2009, mae gan fasnachwyr ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i gwynion gan ddefnyddwyr cyn gynted phosibl, a gwneud pob ymdrech i ddatrys y cwynion hynny. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i fasnachwyr ymateb i negeseuon e-bost a llythyrau cwyno, a bod yn rhaid iddynt ddychwelyd galwadau ffn. Pan fydd cwyn yn ymddangos yn ddilys, dylai'r masnachwr unioni'r sefyllfa'n gyflym. Os bydd y masnachwr yn herio atebolrwydd, dylai roi esboniad eglur o'i resymau.

Os bydd y masnachwr wedi dod i ddiwedd ei weithdrefn gwynion ei hun wrth ymdrin chwyn, ac nid yw'r gwyn wedi'i datrys, rhaid i'r masnachwr ddarparu manylion 'dull amgen o ddatrys anghydfod' i'r defnyddiwr, a rhaid iddo ddweud p'un a yw'n cytuno i'r gwyn gael ei datrys gan y cynllun hwnnw. Am ragor o wybodaeth, gweler 'Dull amgen o ddatrys anghydfod'.

Terfynau amser ar gyfer achosion llys

Os caiff nwyddau eu gosod fel rhan o wasanaeth, gall y defnyddwyr ddisgwyl i'r nwyddau hynny beidio thorri cyn eu hamser, hyd yn oed os yw disgwyliad oes resymol y nwyddau hynny yn sawl blwyddyn. Fodd bynnag, ceir terfyn amser sy'n atal defnyddwyr rhag gwneud honiad yn y llys yn y pen draw.

Mewn achos o dor-contract, ni all y defnyddiwr fel arfer ddod honiad i'r llys fwy na chwe blynedd ar l y tor-contract (er enghraifft, byddai hyn yn golygu'r dyddiad gosod os bydd unedau ffenestri wedi'u selio yn torri). Fodd bynnag, os ydych chi wedi cynnig gwarant ar gyfer y gwaith, rhaid i chi anrhydeddu'r warant honno (ac os ydych chi'n methu gwneud hynny, gall y defnyddiwr hawlio hyd at chwe blynedd ar l y dyddiad hwnnw).

Nid yw hyn yn golygu bod angen i'r holl nwyddau bara mor hir hyn, ond dyma'r terfyn amser y mae'r gyfraith yn ei rhoi i ddefnyddiwr i gymryd camau cyfreithiol. Os yw'r masnachwr wedi ymddwyn yn esgeulus, weithiau mae terfynau amser hwy yn berthnasol.

Telerau contract annheg

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn ymdrin defnyddio telerau annheg mewn contractau defnyddwyr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Telerau contract annheg'.

Yn ogystal, mae unrhyw ymgais i gamarwain y defnyddiwr ynglyn 'i hawliau yn drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Gweler 'Diogelu defnyddwyr rhag masnachu annheg' i gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hyn, sy'n ymdrin dyletswyddau masnachwyr tuag at ddefnyddwyr yn gyffredinol.

Rheolau eraill sy'n effeithio ar gontractau defnyddwyr

RHEOLIADAU CONTRACTAU DEFNYDDWYR (GWYBODAETH,CANSLO A THALIADAU YCHWANEGOL)2013

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod i ddefnyddwyr ar gyfer y rhan fwyaf o 'gontractau o bell' (y rhai hynny a wneir trwy'r rhyngrwyd ac ati) a 'chontractau oddi ar y safle' (y rhai hynny a wneir yng nghartref defnyddiwr, er enghraifft). Maent hefyd yn mynnu bod gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi i ddefnyddwyr, nid yn unig o ran contractau oddi ar y safle a chontractau o bell, ond hefyd lle mae defnyddwyr yn gwneud cytundeb ar safle busnes masnachwr. Ni chaiff masnachwyr godi taliadau cudd, a cheir codi taliadau ychwanegol gyda chaniatd penodol y defnyddiwr yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler:

'Contractau defnyddwyr: gwerthu o bell'

'Contractau defnyddwyr: gwerthu oddi ar y safle'

'Contractau defnyddwyr: gwerthu ar y safle'

ESGEULUSTOD

Pan fydd masnachwr yn cyflenwi gwasanaeth, bydd ganddo ddyletswydd gofal i'r defnyddiwr ac eraill y gallai ei waith effeithio arnynt. Os yw ei waith islaw'r safon, mae'n bosibl y bydd hynny'n torri'r ddyletswydd gofal ac fe allai'r sawl sy'n dioddef colled wneud hawliad. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed lle nad oes contract uniongyrchol rhwng y parton - er enghraifft, lle y gwneir yr hawliad gan un o ffrindiau neu berthnasau'r defnyddiwr, neu lle mae'r masnachwr yn is-gontractiwr nad yw'n gweithio'n uniongyrchol i'r defnyddiwr. Mae'r ddyletswydd gofal yn debyg i'r safon 'gofal a sgl rhesymol' (gweler 'Yr hyn y gall y defnyddiwr ei ddisgwyl (hawliau statudol)'uchod), ac mae'n berthnasol i safon y gwaith yn hytrach na gwarantu canlyniad penodol.

CAMGYFLEU

Camgyflead yw datganiad anwir o ffaith a wneir gan unigolyn neu ei asiant sy'n cymell rhywun arall i lunio contract gydag ef/hi.

Gan ddibynnu ar p'un oedd y camgyflead wedi'i wneud yn dwyllodrus, yn esgeulus neu'n ddiniwed, bydd gan y sawl a ddibynnodd ar y camgyflead yr hawl i gam unioni a allai gynnwys diddymiad (sy'n golygu dirwyn y contract i ben neu ei ganslo), ad-daliad a/neu iawndal.

RHEOLIADAU DIOGELU DEFNYDDWYR RHAG MASNACHU ANNHEG2008

Mae'rRheoliadau hyn yn darparuhawl unioni camwedd ychwanegol ac amgen i ddefnyddwyr. Pan fydd masnachwr wedi defnyddio arferion gwerthu camarweiniol neu ymosodol, mae'n bosibl y bydd y defnyddiwr yn gallu hawlio iawndal a/neu ostyngiad yn y pris neu ganslo'r contract yn llwyr.

Mae'r Adran Busnes,Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS, a elwid yn Adran Fusnes,Arloesi a Sgiliauar y pryd) wedi cynhyrchu arweiniad ar hawl defnyddwyr i unioni camwedd o dan y Rheoliadau:Arferion Masnachol Camarweiniol ac Ymosodol – Hawliau Preifat Newydd i Ddefnyddwyr.

DEDDF CONTRACTAU(HAWLIAU TRYDYDD PARTON)1999

Mae'r ddeddf hon yn rhoi hawliau i unrhyw un y bwriadwyd iddo elwa ar y trafodyn. Er enghraifft, os bydd rhywun yn prynu gwasanaeth fel anrheg i ffrind, a gwneir y gwasanaeth i safon isel, gall derbynnydd neu brynwr yr anrheg gymryd camau ar gyfer tor-contract (cyn belled ag yr eglurwyd mai'r bwriad oedd rhoi'r gwasanaeth yn anrheg). Gall masnachwyr ddefnyddio telerau contract i eithrio hawliau trydydd parton, ond, yn ymarferol, bydd yn aml yn symlach (ac yn darparu gwell profiad i'r cwsmer) i'r masnachwr ymdrin yn uniongyrchol derbynnydd anrheg.

MANYLION ADNABOD Y MASNACHWR

Mae angen i'r defnyddiwr wybod, neu allu darganfod, pwy y mae'n ymdrin ag ef. Mae'n rhaid i fanylion adnabod a chyfeiriad masnachwr gael eu harddangos yn ei fan busnes, ar ddogfennau busnes allweddol ac ar wefannau. Mae'n rhaid sicrhau hefyd bod y wybodaeth hon ar gael i ddefnyddwyr cyn i gontract gael ei lunio a phryd bynnag y bydd defnyddiwr yn gofyn amdani. Gweler 'Enwau cwmni a busnes'.

Os na fydd masnachwr yn datgelu ei fod yn gwmni cyfyngedig a bod achos o dor-contract yn digwydd, mae'n bosibl y gallai'r defnyddiwr hawlio yn erbyn cyfarwyddwyr y busnes fel unigolion. Os na fydd masnachwr yn datgelu ei fod yn gweithredu fel asiant ar gyfer rhywun arall, mae'n bosibl y gallai'r defnyddiwr wneud unrhyw hawliad yn uniongyrchol yn erbyn y masnachwr hwnnw.

NWYDDAU HEB EU CASGLU

Weithiau, ni fydd defnyddwyr yn casglu eu nwyddau ar l trefnu iddynt gael eu hatgyweirio neu byddant yn anghofio casglu eitemau a sychlanhawyd.

Mae Adran 12 Deddf Camweddau (Camymyrraeth Nwyddau) 1977 yn amlinellu'r camau y dylai masnachwr eu cymryd i drefnu bod y nwyddau'n cael eu casglu ac yn egluro'r hyn y gall ei wneud os na chnt eu casglu.

Byddai'n ddigonol gosod hysbysiad y gellir ei weld yn rhwydd gan ddefnyddwyr, sy'n datgan pa mor hir y bydd y masnachwr yn cadw'r nwyddau ar l eu hatgyweirio a bwriad i'w gwaredu ar l y dyddiad hwn. Byddai angen i'r cyfnod fod yn rhesymol.

Os na arddangosir hysbysiad, mae'n bosibl y bydd angen i'r masnachwr anfon llythyr at y defnyddiwr trwy ddanfoniad cofnodedig yn datgan bod y nwyddau'n barod i'w casglu ac o ble. Dylai'r llythyr nodi'r swm sy'n ddyledus hefyd. Mae'n rhaid rhoi hysbysiad ychwanegol os yw'r masnachwr yn bwriadu gwerthu neu waredu'r nwyddau ar l dyddiad penodol a sut y gellir casglu elw ychwanegol o'r gwerthiant.

Cwestiynau cyffredin

C.Os wyf yn darparu gwasanaeth i ddefnyddiwr, a oes rhaid i mi ddarparu gwarant?
A.Nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwarant ysgrifenedig am wasanaeth nac am unrhyw nwyddau a gyflenwir. Fodd bynnag, ni allwch ddileu hawliau cyfreithiol y defnyddiwr, a allai fod yn berthnasol hyd yn oed os daw diffyg i'r golwg beth amser ar l i'r gwaith gael ei wneud neu i'r nwyddau gael eu cyflenwi. Os ydych yn darparu gwarant, dylai ei thelerau ychwanegu at hawliau cyfreithiol y defnyddiwr a dylent gael eu datgan yn eglur.

C.Rwy'n gwneud gwaith cynnal a chadw a gwella cartrefi ac yn cynnig gwarant 10 mlynedd. A oes rhaid i'r warant fod yn drosglwyddadwy i berchenogion dilynol yr eiddo?
A.Rhan o werth gwarantau yw'r ffaith bod y defnyddiwr yn gallu eu trosglwyddo i berchenogion dilynol. Mae amod sy'n gwneud y warant yn anhrosglwyddadwy yn debygol o fod yn annheg.

C.Os byddaf yn darparu gwasanaeth a bod rhywbeth yn mynd o'i le, a oes rhaid i'r defnyddiwr roi cyfle i mi ei gywiro?
A.Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r defnyddiwr roi cyfle i'r masnachwr gwreiddiol gywiro ei waith ei hun. Fodd bynnag, ceir achosion lle na fyddai'n rhesymol disgwyl i ddefnyddiwr wneud hyn. Er enghraifft, ni allech ddisgwyl i fasnachwr gael ail gyfle os yw'r gwaith mor wael fel y byddai unrhyw ddefnyddiwr rhesymol wedi colli ffydd yn ei allu i wneud y gwaith yn iawn.

C.Mae rhywun yn gofyn i fasnachwr am ddyfynbris. Sut mae hyn yn wahanol i amcanbris?
A.Fel arfer, mae dyfynbris yn bris sefydlog tra bod amcanbris, yn gyffredinol, yn ddyfaliad bras o'r hyn y byddai'r gwaith yn ei gostio.

C.Tra bod masnachwr yn gwneud gwaith i ddefnyddiwr, mae'r defnyddiwr yn gofyn am rai newidiadau i'r gwaith. Os yw'r masnachwr wedi rhoi dyfynbris, a oes modd newid y pris yn awr?
A.Oes, caiff y defnyddiwr a'r masnachwr newid y contract trwy gytundeb. Mae dadleuon yn codi'n aml pan geir camddealltwriaeth ynglyn 'r hyn y cytunwyd arno. Am y rheswm hwn, dylid cofnodi pob newid yn ysgrifenedig.

C.Trefnodd defnyddiwr apwyntiad ar gyfer triniaeth harddwch ond ni chadwodd yr apwyntiad. A all y masnachwr godi tl am yr apwyntiad?
A.Gall y masnachwr godi tl am ei golledion yn unig. Os llwyddodd i roi'r apwyntiad i gwsmer arall, gan olygu na wastraffwyd amser yr apwyntiad, mae'n bosibl na fydd colled. Os gwastraffwyd yr amser, gellir codi tl, ond dylai'r masnachwr ystyried unrhyw arbedion a wnaed (er enghraifft, cost deunyddiau na ddefnyddiwyd).

C.Mae defnyddiwr yn cwyno bod gwasanaeth wedi'i wneud i safon wael, ond mae'r masnachwr yn dweud bod y safon yn dderbyniol. Beth ddylen nhw ei wneud?
A.Er mwyn datrys anghytundeb ynglyn safon gwaith, efallai y bydd angen ceisio barn trydydd parti annibynnol. Gallai hwn fod yn dirfesurydd neu aseswr, neu'n weithiwr proffesiynol neu arbenigwr arall yn y gwasanaeth dan sylw. Pan ddefnyddir arbenigwr annibynnol, yn ddelfrydol, dylai'r defnyddiwr a'r masnachwr gytuno ar hyn yn ysgrifenedig.

C.Mae masnachwr yn amcangyfrif y bydd ystafell wydr yn cael ei gosod ymhen pedair i chwe wythnos. Ar l chwe wythnos, nid yw'r gwaith wedi'i gwblhau. A oes gan y defnyddiwr yr hawl i ganslo'r contract?
A.Os yw'r masnachwr wedi rhoi dyddiad cwblhau bras, yn hytrach nag ymrwymiad penodol, mae'n rhaid i'r gwaith gael ei wneud o fewn amser rhesymol. Dylai'r defnyddiwr roi terfyn amser olaf i'r masnachwr gwblhau'r gwaith, ac wedi hynny bydd yn gallu trin unrhyw oedi ychwanegol fel tor-contract a chanslo'r contract.

Cyflenwi gwasanaethau ynghyd nwyddau / cynnwys digidol: contractau cymysg

Mewn nifer o achosion, ni fydd cytundeb rhwng defnyddiwr a masnachwr ar gyfer gwasanaethau yn unig, ond efallai y bydd yn cynnwys nwyddau a/neu gynnwys digidol hefyd. Mae'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr yn amlinellu sut mae'r gwahanol elfennau'n gweithio gyda'i gilydd. Gweler 'Contractau cymysg'am ragor o wybodaeth.

Crynodeb o hawliau defnyddwyr

I helpu busnesau a defnyddwyr i ddeall y newidiadau, maeBEISwedi cydweithio'n agos grwpiau o fusnesau a defnyddwyr i ddatblygu crynodeb o elfennau allweddol y Ddeddf mewn Saesneg syml. Ni fwriedir i'r 'crynodeb o hawliau defnyddwyr' fod yn ganllaw cynhwysfawr ar hawliau defnyddwyr, ond yn drosolwg cyffredinol o hawliau allweddol defnyddwyr, gan ganolbwyntio ar y materion mwyaf cyffredin.

Nid oes gofyniad cyfreithiol arnoch i ddangos y wybodaeth hon, ond gallai eich helpu chi i wneud pethau'n fwy clir i'ch cwsmeriaid a'ch staff. Mae dyluniad syml i'r daflen wybodaeth, ac efallai y byddwch eisiau ei deilwra yn unol 'ch anghenion busnes – er enghraifft, trwy gynnig polisi dychwelyd sy'n adeiladu ar y gofynion statudol, neu ychwanegu enghreifftiau o'ch busnes eich hun (efallai trwy roi rhywbeth yr ydych yn ei werthu, yn hytrach na 'gwasanaethau'). Mae'r geiriau'n gyfreithiol gywir ac yn amlinellu hawliau eich cwsmeriaid, felly rydym yn awgrymu eich bod yn teilwra'r geiriau hyn ac ychwanegu atynt, yn hytrach na dileu neu addasu'r geiriau a ddarperir.

Mae'r crynodeb wedi'i atodi isod mewn fformat PDF a Word, ac mae'r ail o'r ddau yn eich galluogi i greu eich fersiwn eich hunan yn haws:
Crynodeb o hawliau defnyddwyr: gwasanaethau (PDF)
Crynodeb o hawliau defnyddwyr: gwasanaethau (Word)

Gwerthu nwyddau

Os yw'ch busnes yn gwerthu nwyddau hefyd, gweler 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau'.

Cynnwys digidol

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 hefyd yn ymdrin chontractau rhwng masnachwr a defnyddiwr mewn perthynas chynnwys digidol, ar wahn i nwyddau a gwasanaethau. Gweler'Cynnwys digidol'i gael rhagor o wybodaeth.

Cludo teithwyr

Pan ddaeth y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr i rym am y tro cyntaf, roedd y sectorau prif linellau rheilffordd, awyrennau a morol wedi'u heithrio rhag y rheolau ar gyflenwi gwasanaethau. Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol bellach, sy'n golygu bod y Ddeddf yn gwbl berthnasol i'r sectorau prif linellau rheilffordd, awyrennau a morol.

Hefyd, mae'r diwydiannau hyn yn parhau i fod chynlluniau penodol lle gall teithwyr hawlio iawndal am oedi neu ohirio, ac mae'r cynlluniau hyn yn ategu darpariaethau'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr.

Mae rhai gwasanaethau bws a choets rhyngwladol wedi'u heithrio o'r rheolau ar gyflenwi gwasanaethau, ond cnt eu cwmpasu gan gynllun penodol o hawliau defnyddwyr.

Contractau a wnaed cyn 1 Hydref 2015

O ran contractau a wnaed cyn 1 Hydref 2015, gallai deddfwriaeth a rheolau gwahanol fod yn berthnasol. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd llawer o wahaniaeth o ran y camau ymarferol y bydd angen i'r defnyddiwr a'r masnachwr eu cymryd i ddatrys cwyn, ond, mewn rhai achosion, gallai'r gwahaniaethau fod yn arwyddocaol. Er enghraifft, fe allai fod rhai achosion lle y bydd gan ddefnyddiwr yr hawl i wrthod nwyddau o dan gontract hyn, hyd yn oed pe na fyddai ganddo'r un hawl o dan gontract mwy newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: cyn 1 Hydref 2015'a'Gwerthu a chyflenwi gwasanaethau/nwyddau gyda gwasanaethau: cyn 1 Hydref 2015'.

Darllen ychwanegol

Mae BEIS wedi cynhyrchu arweiniad manylach i helpu busnesau i ddeall goblygiadau'r Ddeddf:Y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr: Gwasanaethau – Canllaw i Fusnesau.

Cosbau

Mae Deddf Menter 2002 yn creu'r gallu i gyrff gorfodi, fel gwasanaethau safonau masnach, geisio gorchymyn llys sy'n atal methiant i gydymffurfio darpariaethau sifil a throseddol darnau amrywiol o ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr, gan gynnwys Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Gall methiant i gydymffurfio gorchymyn llys o'r fath arwain at gosb uchaf o ddirwy a dwy flynedd o garchar.

Deddfwriaeth Allweddol:

Deddf Camweddau (Camymyrraeth Nwyddau) 1977

Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Parton) 1999

Deddf Menter 2002

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Diwygio) 2014

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Adolygwyd/diweddarwyd ddiwethaf:Chwefror2018

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y DU ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen; fel arfer, caiff diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE eu hymgorffori yn y testun.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2019 itsa Ltd.

TSI: 314636, ID: 528, updated 24/10/2018