![]()
Mae gofyniadau gwahanol ar gyfer cymysgu porthiant, gan ddibynnu ar ddefnyddio ychwanegion neu rag-gymysgeddau
Er i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2021, mae rhai darnau o ddeddfwriaeth (a elwir yn 'gyfraith a gymathwyd') yn parhau i fod yn gymwys hyd nes y cnt eu disodli gan ddeddfwriaeth newydd y DU, eu dirymu neu y caniateir iddynt ddod i ben. Mae hyn yn golygu bod ein canllawiau yn dal i gynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a ddeilliodd o'r UE.
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru
Mae Rheoliad (CE) Rhif 183/2005 a gymathwydgosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaidyn mynnu bod bron pob busnes sy'n gwneud, yn marchnata neu'n defnyddio porthiant anifeiliaid yn cael ei gofrestru 'u hawdurdod lleol neu wedi'i gymeradwyo ganddo.
Bydd y gofynion ar gyfer cymysgwyr bwyd anifeiliaid ar y fferm yn amrywio yn dibynu ar y math o fwyd yn cael ei gymysgu. Gellir rhannu hyn i ddau faes yn fras, yn seiliedig ar Atodiadau'r rheoliad:
DIFFINIAD O YCHWANEGION
Mae ychwanegyn yn golygu sylwedd, micro-organeb neu baratoad a ychwanegir yn fwriadol at borthiant neu ddr er mwyn cyflawni un neu fwy o swyddogaethau penodedig. Rhaid awdurdodi ychwanegion o dan Reoliad (CE) Rhif 1831/2003 a gymathwydar ychwanegion i'w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid- er enghraifft, fitaminau A a D ac elfennau hybrin penodol.
Mae mwy o wybodaeth am ychwanegion i'w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Dim ond ychwanegion cymeradwy y gellir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid. Mae gan rai ychwanegion lefel gyfyngedig o ddefnydd a ganiateir ac maent ar gael ar gyfer rhai rhywogaethau o anifeiliaid yn unig.
I gael rhestr o ychwanegion cymeradwy, cyfeiriwch at y gofrestr o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a reoleiddir ar gyfer Prydain Fawr ar wefan yr ASB. Mae angen cyflwyno ceisiadau am awdurdodiadau newydd, addasiadau i awdurdodiadau neu adnewyddu awdurdodiadau (ym Mhrydain Fawr) i wasanaeth ceisiadau cynhyrchion a reoleiddir yr ASB.
Mae rhaggymysgedd o ychwanegion yn golygu cymysgeddau o ychwanegion neu gymysgeddau o un neu ragor o ychwanegion bwyd anifeiliaid gyda deunyddiau bwyd anifeiliaid neu ddr a ddefnyddir fel cludwyr; ni fwriedir i rag-gymysgeddau gael eu bwydo'n uniongyrchol i anifeiliaid.
ATODIADAU I REOLIAD (CE) RHIF 183/2005 A GYMATHWYD
Maeatodiadau i reoliad (EC) Rhif 183/2005 a gymathwyd(gweler y ddolen yn 'Deddfwriaeth allweddol' isod) yn nodi amrywiol safonau y mae'n rhaid i fusnesau bwyd anifeiliaid gydymffurfio nhw.
ATODIAD I
(gofynion wrth gymysgu bwyd i'w ddefnyddio ar ddaliadau ffermwyr yn unig, heb ychwanegion neu rag-gymysgeddau o ychwanegion)
Mae'n ofynnol i ffermwyr sy'n dod i mewn i'r categori hwn gydymffurfio gofynion Atodiad I. Yn gryno, mae'n rhaid i ffermwyr sy'n ddarostyngedig i'r gofynion hyn:
ATODIAD II
(gofynion pan na fyddant yn dod o dan Atodiad I a/neu'n cymysgu bwyd ag ychwanegion neu rag-gymysgeddau o ychwanegion)
Mae'n ofynnol i ffermwyr sy'n dod i mewn i'r categori hwn gydymffurfio gofynion Atodiad II. Bydd hyn yn berthnasol i ffermwyr sy'n prynu ychwanegion bwyd neu rag-gymysgeddau (ac eithrio gwerthwyr silwair) ac yn eu cymysgu'n uniongyrchol-er enghraifft, gyda phorthiant neu rawnfwydydd, ac ati. Fe ystyrir y weithgaredd hwn yn risg uwch o gymharu mathau eraill o weithgarwch. Yn gryno, mae'n rhaid i ffermwyr sy'n ddarostyngedig i'r gofynion hyn weithredu'r mesurau canlynol:
BETH YW HACCP?
Mae HACCP (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) mewn perthynas ag Atodiad II yn ddull systematig wedi'i ddogfennu o reoli diogelwch.
Bydd astudiaeth a system HACCP lawn yn dadansoddi pob cam o'r gweithgareddau bwyd anifeiliaid ar y fferm er mwyn nodi peryglon a allai ddigwydd a gweithredu mesurau rheoli (pwyntiau rheolaeth critigol). Gellir disgrifio'r saith cam i HACCP yn gryno fel a ganlyn:
Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) wedi cynhyrchuCymhwyso Egwyddorion HACCP: Canllawiau Ymarferol ar gyfer y Gadwyn Cyflenwi Bwyd-amaeth, a gynlluniwyd i'w defnyddio gan fusnesau y gallai HACCP fod yn gysyniad cwbl newydd iddynt a hefyd i'r rheini sydd wedi cael profiad blaenorol ohono. Mae mynediad i'r canllaw yn gyfyngedig i aelodau AIC.
Mae gwefan yr ASB hefyd yn cynnwys gwybodaeth am HACCP.
Rhaid i fusnesau ddefnyddio system HACCP sy'n briodol i'r gweithgareddau bwyd anifeiliaid a gyflawnir.
ATODIAD III
(ffermwyr yn bwydo anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd)
Yn ogystal 'r gofynion yn Atodiad I neu Atodiad II, mae'n ofynnol i bob ffermwr gydymffurfio gofynion Atodiad III. I grynhoi, mae'n rhaid i bob ffermwr:
CYMYSGU GYDA MEDDYGINIAETHAU AC YCHWANEGION PENODOL
Nid yw'r canllawiau hyn yn berthnasol i gymysgu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid penodedig-er enghraifft, cocsidiostatau a histomonostatau; ac nid yw ychwaith yn berthnasol i gymysgu bwyd anifeiliaid i gynnwys meddyginiaethau milfeddygol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau meddyginiaethau milfeddygol y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, sydd ar gael ar wefan GOV.UK.
GWYBODAETH BELLACH
Mae canllawiau'r ASB ar gyfer ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid yn cynnwys gwybodaeth i'r rhai sy'n cynhyrchu neu'n cymysgu bwyd anifeiliaid.
Gweler hefyd 'Hylendid porthiant i ffermwyr a thyfwyr'.
SAFONAU MASNACH
I gael mwy o wybodaeth am waith gwasanaethau Safonau Masnach - a chanlyniadau posibl o beidio chadw at y gyfraith - gweler 'Safonau Masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
YN Y DIWEDDARIAD HWN
Dim newidiadau mawr
Adolygwyd / Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 2024
Deddfwriaeth allweddol
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.