![]()
Gwybodaeth hanfodol i gyflenwyr cynhyrchion adeiladu, gan gynnwys nodau CE
Er i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2021, mae rhai darnau o ddeddfwriaeth (a elwir yn 'gyfraith a gymathwyd') yn parhau i fod yn gymwys hyd nes y cnt eu disodli gan ddeddfwriaeth newydd y DU, eu dirymu neu y caniateir iddynt ddod i ben. Mae hyn yn golygu bod ein canllawiau yn dal i gynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a ddeilliodd o'r UE.
Er mwyn deall y canllawiau hyn yn llawn, mae'n bwysig nodi'r gwahaniaeth rhwng y DU a Phrydain Fawr:
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Pan roddir cynhyrchion ar farchnad Prydain Fawr, mae'n orfodol i weithgynhyrchwyr lunio datganiad perfformiad a chymhwyso marc UKCA i unrhyw un o'u cynhyrchion adeiladu sy'n dod o dan safon ddynodedig*, neu'n cydymffurfio ag 'asesiad technegol y DU' (UKTA) a gyhoeddwyd ar eu cyfer.
[* 'Safonau dynodedig' yw'r rhai a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI).]
Y GYFRAITH
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Adeiladu 2013, sy'n gweithredu Rheoliad (UE) Rhif 305/2011 a gymathwyd sy'n gosod amodau wedi'u cysoni ar gyfer marchnata cynhyrchion adeiladu, yn ymdrin phedair prif elfen:
Mae dau ddarn o ddeddfwriaeth yn gwneud newidiadau i'r drefn ar gyfer cynhyrchion adeiladu:
Ers Ionawr 1af 2021, mae cyrff a hysbysir yn y DU sy'n gweithredu o dan Reoliad Rhif 305/2011 ac sydd wedi'u lleoli yn y DU gyda 'corff cymeradwy' newydd y DU wedi cael eu rhestru ar gronfa ddata newydd yn y DU. Bydd cyrff cymeradwy yn gallu ymgymryd gweithgaredd asesu cydymffurfiaeth ar gyfer safonau dynodedig. Pan fydd corff cymeradwy wedi cynnal yr asesiad, rhaid i'r gwneuthurwr (neu ei gynrychiolydd awdurdodedig) osod marc UKCA.
DIFFINIAD O GYNNYRCH ADEILADU
Yn Rheoliad (UE) Rhif 305/2011 a gymathwyd, diffinnir cynnyrch adeiladu fel "unrhyw gynnyrch neu becyn a gynhyrchir ac a osodir ar y farchnad i'w hymgorffori mewn modd parhaol mewn gwaith adeiladu neu rannau ohoni ac y mae ei pherfformiad yn cael effaith ar y perfformiad y gwaith adeiladu mewn perthynas 'r gofynion sylfaenol ar gyfer gwaith adeiladu".
Mae cynhyrchion adeiladu yn cynnwys cynhyrchion megis drysau, ffenestri, caeadau a gatiau, pilenni, cynhyrchion inswleiddio thermol, simneiau a ffliwiau, offer glanweithiol, larymau tn, lloriau, cynhyrchion sy'n gwrthsefyll tn, teclynnau gwresogi gofod, ceblau per, gwydr, a gosodiadau.
MARCIO UKCA, CE AUKNI
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i rai cynhyrchion gael eu marcio gan UKCA pan gnt eu rhoi ar farchnad fewnol Prydain Fawr. Mae marcio UKCA yn ddangosydd allweddol o gydymffurfiad cynnyrch deddfwriaeth y Prydain Fawr. Trwy osod marc UKCA ar gynnyrch, mae gwneuthurwr yn datgan ei fod yn cydymffurfio 'r holl ofynion cyfreithiol i gyflawni marc UKCA.

Cyfrifoldeb y gwneuthurwr yw cynnal yr asesiad cydymffurfiaeth yn unol 'r ddeddfwriaeth.
Nid oes angen i bob cynnyrch adeiladu a werthir yn y DU ddwyn y marc UKCA. Fdd bynnag, os oes angen marc UKCA ar gynnyrch adeiladu ond nad oes ganddo un, mae'n anghyfreithlon ei roi ar farchnad Prydain Fawr.
Dylech wybod pa gynhyrchion y mae'n rhaid iddynt fod marc UKCA a'r dogfennau cysylltiedig sy'n ofynnol, a dylent allu adnabod cynhyrchion nad ydynt yn amlwg yn cydymffurfio. Mae gwefan GOV.UK yn cynnwys gwybodaeth fanylach am farc UKCA, gan gynnwys canllawiau ar rolau a chyfrifoldebau ac asesu cydymffurfiaeth a dogfennaeth.
Mae'r marc CE yn cyfateb i'r marc UKCA yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Fe'i defnyddiwyd yn y DU nes inni adael yr UE.

Mae trefniadau trosiannol ar waith, sy'n golygu y gellir gosod marc CE ar unrhyw gynnyrch a roddir ar y farchnad ym Mhrydain Fawr tan 30 Mehefin 2025 (er er mwyn osgoi anawsterau yn nes at yr amser, argymhellir eich bod yn dechrau defnyddio marc UKCA cyn gynted phosibl. ag y bo modd). O'r dyddiad hwn ymlaen, bydd angen i nwyddau sy'n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr fodloni gofynion Prydain Fawr.
Lle mae Gogledd Iwerddon dan sylw, defnyddir marc arall: marc UKNI. Mae angen hyn oherwydd Protocol Gogledd Iwerddon, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2021.

Mae canllawiau ar y marc UKNI ar gael ar wefan GOV.UK.
CANLLAWIAU ADRAN AR GYFER LEFELU I FYNY, TAI A CHYMUNEDAU
Mae'r Adran ar gyfer Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau (DLUHC) wedi cynhyrchu canllawiau ar y Rheoliad, sydd i'w gweld ar wefan GOV.UK. Roedd y DLUHC yn cael ei adnabod fel y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar adeg ei gyhoeddi
SAFONAU MASNACH
I gael mwy o wybodaeth am waith gwasanaethau Safonau Masnach - a chanlyniadau posibl o beidio chadw at y gyfraith - gweler 'Safonau Masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
YN Y DIWEDDARIAD HWN
Dim newidiadau mawr
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Mehefin 2024
Deddfwriaeth allweddol
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.