![]()
Y safon ofynnol ar gyfer effeithlonrwydd ynni rhai mathau o eiddo rhent annomestig yw sgr o E neu uwch
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr
Bwriedir i Reoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) 2015 wella safon effeithlonrwydd ynni yn y sector tai rhent preifat ac annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Rheoliadau'n targedu eiddo sydd ar hyn o bryd wedi'u graddio'n F neu G ar eu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC), gan roi mesurau ar waith i godi eu sgr i leiafswm o E. Bydd hyn yn lleihau'r allyriadau a gynhyrchir drwy wresogi a pweru'r adeiladau hyn, sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am 12% o allyriadau'r DU.
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin 'r gofynion ar gyfer eiddo annomestig (y rhai nad ydynt yn anheddau).
Beth yw'r lefel isaf o effeithlonrwydd ynni?
Mae'r Rheoliadau'n gwahardd gosod eiddo annomestig ansafonol (is na Band E), o dan ddull graddol:
Pa eiddo sydd wedi'u cynnwys?
Nid yw'r Rheoliadau ond yn berthnasol i'r eiddo hynny y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gael EPC. Ers 2008, bu'n ofynnol i'r rhan fwyaf o eiddo annomestig gael EPC. Mae eithriadau os yw'r eiddo yn:
Gweler y canllaw 'Tystysgrifau Perfformiad Ynni' am ragor o fanylion.
Mae landlordiaid preifat, awdurdodau lleol a rhai cyrff cyhoeddus eraill yn cael eu cynnwys, yn ogystal thenant sy'n isosod eiddo sy'n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau. Nid yw'r Rheoliadau'n berthnasol i eiddo a osodir ar denantiaeth sy'n llai na chwe mis neu'n fwy na 99 o flynyddoedd.
Mae'r Rheoliadau'n cynnwys gofynion tebyg ar gyfer eiddo domestig, er bod dyddiadau cychwyn yn wahanol. Lle bo eiddo o ddefnydd cymysg, o ran ei fod yn cynnwys unedau preswyl a masnachol (megis siop fflat/fflatiau uwchben), a bod y rhain yn cael eu gosod ar wahn, bydd y darpariaethau perthnasol ar gyfer eiddo domestig yn berthnasol i'r fflatiau, a'r gofynion annomestig i'r siop. Os caiff yr eiddo ei osod yn ei gyfanrwydd, yna bydd angen i'r landlord archwilio'r denantiaeth i benderfynu a yw'n brydles breswyl neu fasnachol.
Beth os yw'r eiddo yn sgr F neu G ar hyn o bryd?
Os yw EPC yr eiddo ar hyn o bryd yn dangos gradd F neu G, yna rhaid i'r landlord wneud gwelliannau i sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd y raddfa E cyn y dyddiad perthnasol.
Os oes gan y tenant hawl i adnewyddu o dan Ddeddf Landlord a Thenantiaid 1954, nid yw'r Rheoliadau'n ymyrryd 'r hawliau hyn, felly ni all y tenant na'r landlord ddefnyddio'r diffyg cydymffurfio fel cyfiawnhad dros wrthod adnewyddu, neu derfynu'r brydles yn gynnar.
Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni adeilad mae nifer o welliannau posibl y gellid bod wedi'u hargymell gan yr asesydd ynni sy'n llunio'r EPC, neu gellir eu cael drwy syrfwr neu gynghorwr effeithlonrwydd ynni arall. Gall hyn gynnwys gwelliannau neu estyniadau i systemau gwresogi ac awyru, inswleiddio, gwydro, ac ati.
Faint fydd yn ei gostio?
Bwriedir i'r Rheoliadau gael dim goblygiadau o ran costau i landlordiaid; yr unig beth y mae'n rhaid iddynt ei wneud yw gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni sy'n bodloni'r prawf 'ad-dalu saith mlynedd'. Golyga'r prawf ad-dalu saith mlynedd fod gwerth disgwyliedig yr arbedion ar filiau ynni y disgwylir i'r gwelliant eu cyflawni dros saith mlynedd yn fwy na'r gost o'i ad-dalu.
Mae'n rhaid cyfrifo gwerth arbedion gan ddefnyddio'r fethodoleg gymeradwy, sef y fethodoleg ar gyfer cyfrifo EPCs, a defnyddio prisiau ynni perthnasol. Er nad yw'r Rheoliadau'n nodi pwy ddylai wneud y cyfrifiad, mae canllawiau'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (gweler 'Rhagor o wybodaeth' isod) yn cyfeirio at "asesydd ynni annomestig cymwys, fel asesydd ynni annomestig achrededig lefel 4 (NDEA)". Gall landlordiaid ddod o hyd i asesydd drwy'r wefan GOV.UK.
Os bydd gwerth arbedion ar filiau ynni, ar l cwblhau'r cyfrifiad, yn llai na chost y gwelliant, yna ni fydd yn bodloni'r prawf talu'n l, ac felly ni fydd y gwelliant yn welliant perthnasol at ddibenion y ddeddfwriaeth ac ni fydd ofynnol eu gosod.
Fodd bynnag, os yw gwerth yr arbedion yn fwy neu'n gyfwerth chost y gwelliant, yna bydd yn rhaid i'r landlord wneud y gwelliannau cyn y gellir gosod yr eiddo (oni bai bod eithriadau'n berthnasol).
Mae rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o'r cyfrifiadau wedi'u cynnwys yng nghanllawiau BEIS.
A oes unrhyw eiddo wedi'i eithrio rhag y gofynion?
Mae rhai amgylchiadau lle gall landlord geisio cael ei eithrio o'r gofynion:
Mae eithriad hefyd pan fydd person yn dod yn landlord yn sydyn, oherwydd un o'r amgylchiadau isod, a byddai'n amhriodol neu'n afresymol i orfod cydymffurfio ar unwaith:
O Ebrill 2023, gall landlord ddefnyddio'r eithriad hwn hefyd os cafodd ei osod ar denantiaeth a oedd yn bodoli eisoes wrth brynu buddiant yn yr eiddo. Mae'r eithriad hwn yn para am chwe mis.
Sut ydw i'n cofrestru eithriad?
Rhaid i bob eithriad fod wedi'i gofrestru ar Gofrestr Eithriadau'r Sector Rhentu Preifat.
Gall landlordiaid hunanardystio eu heithriadau a chaiff y gofrestr ei monitro gan awdurdodau lleol fel offeryn gorfodi, a hefyd gan BEIS i fonitro effaith y ddeddfwriaeth. Mae mynediad i'r cyhoedd at rywfaint o wybodaeth, gan gynnwys cyfeiriadau at eiddo lle mae eithriadau wedi'u cofrestru, enwau landlordiaid (ac eithrio lle mae'r landlord yn unigolyn), natur yr eithriadau, yn ogystal a thystysgrifau EPC dilys ar gyfer eiddo.
Er mwyn cofrestru, bydd angen i landlordiaid gael manylion am gyfeiriad yr eiddo, pa eithriadau sydd i'w cofrestru ac EPC dilys ar gyfer yr eiddo. Yn dibynnu ar yr eithriad y gofynnir amdano, bydd y landlord hefyd angen unrhyw gyngor arbenigol neu adroddiadau ysgrifenedig sy'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r rheswm dros yr eithriad.
Gall yr EPC ar gyfer eiddo gael ei drosglwyddo os gwerthir yr eiddo; fodd bynnag, ni fydd unrhyw eithriadau cofrestredig yn cael eu trosglwyddo a byddant yn peidio bod yn gymwys unwaith y caiff yr eiddo ei werthu.
Rhagor o wybodaeth
Mae BEIS wedi cynhyrchu dogfennau canllaw ar gyfer landlordiad ar gyfer pob math o eiddo ac mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar eithriadau'r Sector Rhentu Preifat a gofynion tystiolaeth Cofrestr Eithriadau'r Sector Rhentu Preifat.
Safonau Masnach
I gael mwy o wybodaeth am waith gwasanaethau safonau masnach - a chanlyniadau posibl o beidio chadw at y gyfraith - gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
Yn y diweddariad hwn
Dim newidiadau mawr
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2022
Ddeddfwriaeth allweddol
Deddf Landlord a Thenantiaid 1954
Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007
Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012
Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.