![]()
Y safon isaf o ran effeithlonrwydd ynni mewn rhai eiddo domestig a rentir yw gradd E neu uwch
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr
Bwriedir i Reoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) Lloegr a Cymru 2015 wella safon effeithlonrwydd ynni yn y sector tai rhent preifat ac annomestig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Rheoliadau'n targedu eiddo sydd ar hyn o bryd wedi'u graddio'n F neu G ar eu tystysgrifau perfformiad ynni (EPCs), gan roi mesurau ar waith i godi eu sgr i leiafswm o E. Bydd hyn yn lleihau'r allyriadau a gynhyrchir drwy wresogi a pweru'r adeiladau hyn, sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am 12% o allyriadau'r DU.
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin 'r gofynion ar gyfer eiddo domestig (y rhai nad ydynt yn anheddau preswyl a ddefnyddir at ddibenion masnachol).
BETH YW'R LEFEL ISAF O EFFEITHLONRWYDD YNNI?
Mae'r Rheoliadau'n gwahardd gosod eiddo domestig is-safonol (is na band E), o dan ddull graddol:
PA EIDDO SYDD WEDI'U CYNNWYS?
Mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r eiddo hynny a osodir ar denantiaethau sicr, rheoleiddiedig ac amaethyddol y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gael EPC. Ers 2008, mae wedi bod yn ofynnol i'r rhan fwyaf o eiddo domestig gael EPC. Mae eithriadau os yw'r eiddo yn:
Gweler y canllaw 'Tystysgrifau Perfformiad Ynni' am ragor o fanylion.
Mae landlordiaid preifat, awdurdodau lleol a rhai cyrff cyhoeddus eraill yn cael eu cynnwys, yn ogystal thenant sy'n isosod eiddo sy'n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau. Nid yw'r Rheoliadau'n berthnasol i eiddo a osodir ar denantiaeth sy'n llai na chwe mis neu'n fwy na 99 o flynyddoedd.
Mae'r Rheoliadau'n cynnwys gofynion tebyg ar gyfer eiddo annomestig. Lle bo eiddo o ddefnydd cymysg, o ran ei fod yn cynnwys unedau preswyl a masnachol (megis siop fflat/fflatiau uwchben), a bod y rhain yn cael eu gosod ar wahn, bydd y darpariaethau perthnasol ar gyfer eiddo domestig yn berthnasol i'r fflatiau, a'r gofynion annomestig i'r siop. Os caiff yr eiddo ei osod yn ei gyfanrwydd, yna bydd angen i'r landlord archwilio'r denantiaeth i benderfynu a yw'n brydles breswyl neu fasnachol.
BETH OS YW'R EIDDO AR HYN O BRYD GRADD F NEU G?
Os yw'r Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo ar hyn o bryd yn dangos sgr o F neu G, yna dylsai'r landlord wedi gwneud gwelliannau i godi'r eiddo i sgr E cyn y dyddiad perthnasol.
Os oes gan y tenant hawl i adnewyddu o dan Ddeddf Landlord a Thenantiaid 1954, nid yw'r Rheoliadau yn ymyrryd 'r hawliau hyn, felly ni all y tenant na'r landlord ddefnyddio'r diffyg cydymffurfio fel cyfiawnhad dros wrthod adnewyddu, neu derfynu'r brydles. gynnar.
Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni adeilad, mae nifer o welliannau posibl a allai fod wedi'u hargymell gan yr aseswr ynni sy'n llunio'r Dystysgrif Perfformiad Ynni, neu y gellir eu cael trwy syrfwr neu gynghorydd effeithlonrwydd ynni arall. Gall hyn gynnwys gwelliannau neu estyniadau i systemau gwresogi ac awyru, inswleiddio, gwydro, ac ati.
FAINT FYDD YN EI GOSTIO?
Lle bo argymhellion yn rhestru un neu fwy o fesurau gwella sy'n addas ar gyfer eiddo, dim ond lle:
Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau a gynhyrchwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (gweler 'Gwybodaeth bellach' isod).
A OES UNRHYW EIDDO WEDI'I EITHRIO RHAG Y GOFYNION?
Mae rhai amgylchiadau lle gall landlord geisio cael ei eithrio o'r gofynion:
Mae eithriad hefyd pan fydd person yn dod yn landlord yn sydyn, oherwydd un o'r amgylchiadau isod, a byddai'n amhriodol neu'n afresymol i orfod cydymffurfio ar unwaith:
SUT YDW I'N COFRESTRU EITHRIAD?
Rhaid i bob eithriad fod wedi'i gofrestru ar Gofrestr Eithriadau'r PRS (Mae PRS yn golygu 'sector rhentu preifat ').
Gall landlordiaid hunanardystio eu heithriadau a chaiff y gofrestr ei monitro gan awdurdodau lleol fel offeryn gorfodi, a hefyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i fonitro effaith y ddeddfwriaeth. Mae mynediad i'r cyhoedd at rywfaint o wybodaeth, gan gynnwys cyfeiriadau at eiddo lle mae esemptiadau wedi'u cofrestru, enwau landlordiaid (ac eithrio lle mae'r landlord yn unigolyn), natur yr esemptiadau, yn ogystal ag EPCs dilys ar gyfer eiddo.
Er mwyn cofrestru, bydd angen i landlordiaid gael manylion am gyfeiriad yr eiddo, pa eithriadau sydd i'w cofrestru ac EPC dilys ar gyfer yr eiddo. Yn dibynnu ar yr esemptiad y gofynnir amdano, bydd y landlord hefyd angen unrhyw gyngor arbenigol neu adroddiadau ysgrifenedig sy'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r rheswm dros yr eithriad.
Gall yr EPC ar gyfer eiddo gael ei drosglwyddo os gwerthir yr eiddo, ond, ni fydd unrhyw eithriadau cofrestredig yn cael eu trosglwyddo a byddant yn peidio bod yn gymwys unwaith y caiff yr eiddo ei werthu.
GWYBODAETH BELLACH
Mae BEIS wedi cynhyrchu dogfennau canllaw i landlordiaid ar gyfer eiddo ddomestig ac hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar eithriadau'r PRS a gofynion tystiolaeth y Gofrestr Esemptiadau.
SAFONAU MASNACH
I gael mwy o wybodaeth am waith gwasanaethau safonau masnach - a chanlyniadau posibl o beidio chadw at y gyfraith - gweler 'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
Yn y diweddariad hwn
Mae dwy adran newydd wedi'u hychwanegu: 'Beth os yw'r eiddo ar hyn o bryd gradd F neu G?' a 'Faint fydd y gost?'.
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Rhagfyr 2022
Ddeddfwriaeth allweddol
Deddf Landlord a Thenantiaid 1954
Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007
Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012
Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.