![]()
Dealltwch y gyfraith o ran enw masnachu'ch busnes; mae yna rheolau penodol sydd ond yn berthnasol i ' gwmnau '
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Mae'r gofynion ar gyfer defnyddio, arddangos a datgelu enwau cwmnau, busnesau a masnachu wedi'u disgrifio mewn pedwar darn o ddeddfwriaeth:
Mae gofynion yn ymwneud 'r enw y mae busnes yn dewis ei fasnachu a rheolau i atal y defnydd o enwau a allai gamarwain y cyhoedd.
I BWY Y MAE'R DARPARIAETHAU ENWAU BUSNES YN BERTHNASOL?
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi gofynion manwl yngln ag enwau y gall busnesau ddewis eu masnachu a sut mae manylion penodol am fusnesau yn gorfod cael eu datgelu i'w cwsmeriaid. Mae'r darpariaethau'n berthnasol i:
UNIG FASNACHWYR A PHARTNERIAETHAU
Mae'n ofynnol i fasnachwyr unigol a phartneriaethau nad ydynt yn gwmnau cofrestredig arddangos a datgelu gwybodaeth fanwl am eu busnesau pan fyddant yn defnyddio enw busnes nad yw'n gyfenw iddynt (gyda neu heb ragenwau neu flaenlythrennau), neu un sy'n defnyddio'r enwau'r holl bartneriaid.
Er enghraifft, os oes gan John Smith siop o'r enw Becws Teulu Hapus byddai'r gofynion datgelu yn berthnasol iddo; pe byddai'n galw ei fusnes yn Mr Smith, John Smith, neu J Smith, ni fyddent. Byddai'r un peth yn wir am bartneriaeth. Os oes gan John Smith a Sarah Jones bartneriaeth busnes o'r enw 'Pobyddion Hapus', byddai'r gofynion datgelu yn berthnasol; pe bydden nhw'n galw eu busnes yn J Smith a S Jones, neu Smith a Jones, fydden nhw ddim.
Yn ogystal 'r uchod, nid yw'r gofynion datgelu yn berthnasol pan fo busnes yn parhau masnach cyn-berchennog, ac mae'r enw newydd yn cynnwys y perchnogion blaenorol a chyfredol-er enghraifft, 'Mr Smith (gynt Ms Jones)'.
ARDDANGOSFA ENWAU BUSNES
Pan fydd unig fasnachwr neu bartneriaeth yn cynnal busnes o dan enw nad yw'n cynnwys y perchennog neu'r partneriaid, rhaid datgelu'r manylion yn llawn i gwsmeriaid a chyflenwyr er mwyn nodi'n glir ar bwy y maent yn gwneud busnes.
Mae'r wybodaeth canlynol yn ofynnol i'w datgelu:
Rhaid i'r wybodaeth ofynnol:
Nid yw'n ofynnol i bartneriaethau o fwy nag 20 o bersonau ddatgelu manylion pob un o'r partneriaid mewn dogfennau busnes os:
Ceir enghraifft isod o hysbysiad y gellid ei arddangos i gydymffurfio 'r gofynion mewn adeiladau busnes ar gyfer unig fasnachwr. Mae angen i bartneriaethau gynnwys enwau llawn y pob un o'r partneriaid mewn hysbysiad o'r fath.
|
MANYLION PERCHNOGAETH Y fel sy'n ofynnol gan adran 1204 o Ddeddf Cwmnau 2006 Enw llawn y perchennog: John Smith Cyfeiriad lle y gall dogfennau sy'n ymwneud 'r busnes gael eu cyflwyno'n effeithiol: |
CWMNAU
Mae'r gofynion canlynol yn berthnasol yn unig i gwmnau sydd wedi'u cofrestru gydaT'r Cwmnau.
RHEOLAU AR ENWAU CWMNAU
Mae rheolau penodol yn y ddeddfwriaeth ynghylchcorffori ac enwau cwmniauy gellir eu defnyddio a'u cofrestru gyda Th'r Cwmnau, a gellir gweld y canllawiau llawn ar wefan GOV.UK.
Yn fyr, mae'r rheolau sy'n ymwneud ag enwau cwmnau yn cynnwys:
DANGOS GWYBODAETH AM Y CWMNI
ENW COFRESTREDIG
Rhaid i gwmnau gweithredol arddangos eu henw cwmni cofrestredig llawn yn:
Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i gwmnau lle na ellir datgelu cyfeiriad preswyl pob cyfarwyddwr unigol gan gofrestrydd y cwmnau i asiantaeth cyfeirio credyd. Yn y sefyllfa hon, nid oes rhaid i'r cwmni arddangos ei enw cofrestredig mewn unrhyw leoliad ar wahn i swyddfa gofrestredig y cwmni neu fan archwilio ar gyfer cofnodion y cwmni.
DULL ARDDANGOS
Lle rhennir eiddo busnes gan hyd at bum cwmni, rhaid i'r enw cofrestredig fod:
Os yw safleoedd busnes yn cael eu rhannu gan chwe chwmni neu fwy, rhaid i bob cwmni sicrhau bod ei enw cofrestredig naill ai:
... neu
ENW COFRESTREDIG I YMDDANGOS MEWN CYFATHREBIADAU
Rhaid i gwmnau ddatgelu eu henw cofrestredig ar:
MANYLION PELLACH I'W DATGELU
Rhaid i gwmnau ddatgelu'r manylion canlynol ar eu llythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau:
Os bydd cwmnau yn datgelu faint o gyfalaf cyfrannau sydd yn y mannau hynny, rhaid i'r datgeliad fod o ran cyfalaf cyfrannau wedi'i dalu.
DATGELU ENWAU CYFARWYDDWYR
Pan fo llythyrau busnes cwmni yn cynnwys enwau unrhyw un o gyfarwyddwyr unigol neu gorfforaethol y cwmni, heblaw yn y testun neu fel llofnodwr, mae'n rhaid i'r llythyr ddatgelu enwau pob un o gyfarwyddwyr y cwmni.
CEISIADAU AM WYBODAETH AM GWMNAU
O fewn pum diwrnod gwaith ar l derbyn cais ysgrifenedig am wybodaeth gan gwmni gan unrhyw un y mae'n delio hi wrth gynnal busnes, rhaid i gwmnau anfon ateb ysgrifenedig yn datgelu:
CYFEIRIAD E-BOST COFRESTREDIG
Rhaid i gwmnau fod chyfeiriad e-bost cofrestredig. Rhaid i hwn fod yn 'gyfeiriad priodol' lle byddai disgwyl i e-byst a anfonir ato gan y Cofrestrydd Cwmnau ddod i sylw person sy'n gweithredu ar ran y cwmni.
DARLLENADWYAETH O ARDDANGOSFEYDD A DATGELIADAU
Rhaid i'r holl wybodaeth y mae'n ofynnol ei dangos neu ei ddatgelu fod yn eglur ac yn ddarllenadwy.
PARTNERIAETHAU ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG
Mae'r gofynion ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (LLPau) yn debyg i rheiny ar gyfer cwmnau.
Gall dau neu fwy o unigolion neu gwmnau sefydlu (ymgorffori) fel LLP i weithredu busnes. Mae gan LLP bersonoliaeth gyfreithiol ar wahn ac nid yw ei aelodau yn atebol yn bersonol am ddyledion y busnes.
RHEOLAU AR ENWAU'R LLP
Mae rheolau penodol yn y ddeddfwriaeth ynghylchcorffori ac enwau LLPy gellir eu defnyddio a'u cofrestru gyda Th'r Cwmnau, a gellir gweld y canllawiau llawn ar wefan GOV.UK.
Yn fyr, mae'r rheolau sy'n ymwneud ag enwau LLP yn cynnwys:
DANGOS GWYBODAETH LLP
ENW COFRESTREDIG
Rhaid i bob LLP arddangos ei enw cofrestredig llawn yn:
Os nad oes modd i gyfeiriadau preswyl pob aelod o'r LLP gael eu datgelu gan gofrestrydd y cwmnau i asiantaeth cyfeirio credyd, yna nid oes rhaid i'r LLP arddangos ei enw cofrestredig yn unrhyw fan ac eithrio swyddfa gofrestredig yr LLP neu fan archwilio ar gyfer cofnodion LLP.
DULL ARDDANGOS
Pan fo eiddo busnes yn cael ei rannu gan hyd at bump LLPs rhaid i'r enw cofrestredig fod:
Pan fo eiddo busnes yn cael ei rannu gan chwech neu fwy o'r LLPs, rhaid i bob LLP sicrhau bod ei enw cofrestredig naill ai:
... neu
Enw cofrestredig i ymddangos mewn cyfathrebiadau
Rhaid i'r LLPs ddatgelu eu henw cofrestredig ar:
MANYLION PELLACH I CAEL EU DATGELU
Rhaid i'r LLPs ddatgelu'r manylion canlynol ar eu llythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau:
DATGELU ENWAU AELODAU
Pan fo llythyrau busnes PAC yn cynnwys enwau unrhyw aelod o'r PAC, ac eithrio yn y testun neu fel llofnodwr, rhaid i'r llythyr ddatgelu enwau'r holl aelodau. Os oes gan y PAC fwy nag 20 o aelodau, nid oes angen iddi ddangos enwau'r aelodau cyn belled 'i bod yn cadw rhestr o enwau'r holl aelodau yn ei phrif le busnes, a bod y ddogfen yn nodi bod y rhestr ar gael i'w harchwilio.
CEISIADAU AM WYBODAETH
O fewn pum niwrnod gwaith o dderbyn cais ysgrifenedig am wybodaeth am yr LLP gan unrhyw un y mae'n delio hi wrth gynnal busnes, rhaid i'r LLP anfon ateb ysgrifenedig yn datgelu:
DARLLENADWYAETH O ARDDANGOSFEYDD A DATGELIADAU
Rhaid i'r holl wybodaeth y mae'n ofynnol ei dangos neu ei datgelu fod yn eglur ac yn ddarllenadwy.
GOFYNION ERAILL
Mae'r canlynol yr un mor berthnasol i unig fasnachwyr, partneriaethau, cwmnau a'r LLPs.
ENWAU MASNACHU & NODAU MASNACH
P'un a oes gennych fusnes, partneriaeth neu gwmni, mae'n bosibl iawn y byddwch yn dymuno masnachu o dan enw gwahanol. Os ydych, mae angen ichi fod yn ymwybodol na allwch ddefnyddio nod masnach cwmni arall fel eich enw busnes. Gallwch chwilio drwy'rcofrestr marciau masnachar wefan GOV.UK i gael gwybod a yw marc eisoes wedi'i gofrestru.
Os bydd rhywun arall yn dechrau masnachu gan ddefnyddio eich enw masnach neu eich nod masnach anghofrestredig, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd camau i ' basio allan ' yn y llysoedd sifil i'w hatal. Felly, efallai y byddwch am gofrestru eich enw masnachu neu eich nod masnach anghofrestredig ar gyfer diogelwch gwell.
I gael eich cofrestru, mae'n rhaid i nodau masnach gydymffurfio 'r rheolau sy'n ymwneud chofrestru marciau masnach ac nid yw enwau neu farciau penodol yn gymwys i'w cofrestru-er enghraifft, marciau sy'n cynnwys termau masnach gyffredin, megis Tacsis A1, Glanhawyr A1, ac ati. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal unrhyw un rhag cynnal busnes o dan yr enwau hynny.Igofrestru nod masnachgallwch wneud cais ar-lein i'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).
Gweler'Eiddo deallusol'i gael rhagor o wybodaeth.
GWERTHIANNAU O BELL
Hefyd yn berthnasol i unrhyw fusnes sy'n masnachu drwy hysbysebion neu ar-lein yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwr roi manylion i ddarpar brynwr. Cyn i ddefnyddiwr orffen trafodiad ar-lein neu ymateb i hysbyseb ac ati, rhaid i'r cyflenwr roi manylion cyfeiriad post ei fusnes, fel y gall defnyddiwr ymdrin chwynion mewn fformat ysgrifenedig gwydn.
Mae Rheoliadau Masnach Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n gwerthu neu'n hysbysebu ar-lein ddarparu gwybodaeth benodol ar eu gwefan, y mae rhai ohonynt yn gorgyffwrdd 'r gofynion uchod, megis enw'r cwmni neu'r busnes, un o nodweddion daearyddol y DU cyfeiriad a gwybodaeth fanwl am brisio, taliadau cyflenwi, ac ati.
Gweler'Contractau defnyddwyr: gwerthu o bell'i gael rhagor o wybodaeth.
SAFONAU MASNACH
I gael mwy o wybodaeth am waith gwasanaethau Safonau Masnach - a chanlyniadau posibl o beidio chadw at y gyfraith - gweler 'Safonau Masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
YN Y DIWEDDARIAD HWN
Ychwanegwyd gofynion newydd o ran enwau a chyfeiriadau e-bost ar gyfer cwmnau a PACau.
Adolygwyd / Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 2024
DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.