Yn y canllawiau
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fwyd anifeiliaid anwes yr ydych yn ei werthu i gael ei labelu gwybodaeth benodol
Sylwch: er bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd rhai deddfau UE (a elwir yn ddeddfau 'wrth gefn') yn dal i fod yn berthnasol hyd nes y byddant yn cael eu disodli gan ddeddfwriaeth newydd y DU; mae hyn yn golygu y byddwch yn dal i weld cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yn ein canllawiau.
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru
Mae'r canllaw hwn yn ymdrin labelu unrhyw fath o fwyd cyfansawdd a bwyd anifeiliaid anwes sydd ar werth naill ai'n rhydd (o finiau, hoprau neu arddangosfeydd swmp manwerthu eraill) neu mewn symiau bach rydych yn gwneud eich hunain drwy dorri pecynnau mwy i lawr i feintiau llai.
Os byddwch yn prynu cynwysyddion neu becynnau wedi'u pecynnu ymlaen llaw, a'ch bod yn eu cynnig ar werth, dylai'r rhain fod wedi'u labelu eisoes gan y gwneuthurwr neu'r cyflenwr.
Rhaid labelu bwydydd anifeiliaid anwes gyda'r gofynion labelu gorfodol; cyfeirir at hyn weithiau fel 'datganiad statudol'.
Beth yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd?
Mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd yn gynnyrch sy'n cynnwys cymysgedd o ddau gynhwysyn o leiaf (gydag neyu heb ychwanegion), fel arfer ar ffurf cymysgedd bras, ciblau/bisgedi, neu fel bwyd gwlyb mewn tuniau neu bwydau.
Labelu
Rhaid labelu'r bwyd anifeiliaid anwes gyda'r gofynion labelu gorfodol cyffredinol a'r gofynion labelu gorfodol penodol.
Gofynion labelu gorfodol cyffredinol:
Gofynion labelu gorfodol penodol:
Cyflwyniad labelu
Os yw'r bwyd anifeiliaid anwes yn cyrraedd mewn pecyn neu gynhwysydd, dylai'r manylion labeli gael eu cynnwys naill ai'n uniongyrchol ar y cynhwysydd neu ar label sydd ynghlwm wrtho (yn amodol ar fn eithriadau). Pan fo'r deunydd yn cyrraedd mewn swmp, gellir darparu'r wybodaeth mewn dogfennaeth gysylltiedig.
Mae'n rhaid i'r manylion labelu gael ei roi mewn modd amlwg, darllenadwy ac annileadwy ac yn Saesneg (yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth). Mae'n rhaid i'r manylion fod yn hawdd eu hadnabod a ni ddylid eu cuddio gan unrhyw wybodaeth arall. Ni ddylai'r labelu a'r pecynnu gamarwain y defnyddiwr o ran natur, dull cynhyrchu, maint, gwydnwch, cyfansoddiad a rhywogaethau'r anifeiliaid y'i bwriadwyd ar eu cyfer.
Wrth werthu bwyd anifeiliaid anwes yn rhydd o finiau neu hoprynnau mae'n rhaid i'r manylion labelu gofynnol gael eu arddangos mewn lle amlwg, naill ai ynghlwm wrth y bin neu gyda'r porthiant mewn ffordd sy'n dangos yn glir i ba gynnyrch y mae'n perthyn. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i fanylion porthiant llawn gael eu darparu i'r prynwr ar neu gyda'r anfoneb (fan bellaf). Mae hyn yn ymwneud yn unig bwyd a werthir yn rhydd mewn meintiau heb fod yn fwy na 20 kg ac a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol.
Ar gyfer nwyddau eraill wedi'u rhagbecynnu, rhaid i chi farcio pob pecyn gyda'r manylion labelu gofynnol. Fodd bynnag, ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes 'amlbecyn' (megis un pecyn gyda sawl cynhwysydd, lle nad yw cyfanswm pwysau'r pecyn yn fwy na 10 kg), dim ond ar y deunydd pacio allanol yn hytrach nag ar bob cynhwysydd y mae angen rhoi'r labeli gorfodol llawn. Rhaid labelu'r cynwysyddion yn yr aml-becyn gyda'r canlynol o leiaf:
Pan fo bwyd yn cael ei werthu'n rhydd, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod unrhyw ddyddiadau 'ddefnydio erbyn neu 'ar eu orau cyn' a rhifau batsh yn cael ei ddiweddaru pan ychwanegir stoc newydd. Rhaid hefyd ystyried cylchdroi stoc yn effeithlon ac effeithiol er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth a roddir yn y datganiad statudol.
Mae'r cyngor a geir yn y canllaw hwn yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu ar labeli bwyd anifeiliaid anwes. Gellir darparu rhagor o wybodaeth ddewisol hefyd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi annog datblygu dau god ymarfer labelu da ledled yr UE (un ar gyferbwyd anifeiliaid anwesac un ar gyferbwyd cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd) a dylid ymgynghori 'r rhain fel canllaw i helpu i gydymffurfio gofynion labelu. Mae rhai o gyfreithiau'r UE wedi'u cadw a'u 'trosi' yng nghyfraith y DU, a dylid ymgynghori 'r codau fel canllaw i gynorthwyo i gydymffurfio gofynion labelu cyfredol.
Gweithgynhyrchu eich bwydydd anwes eich hun
Os ydych yn cynhyrchu neu'n cymysgu eich bwydydd anwes eich hun i'w gwerthu cysylltwch 'ch gwasanaeth safonau masnach lleol am gyngor pellach. Er mwyn cynhyrchu eich bwyd anifeiliaid anwes, rhaid i'ch awdurdod lleol ei gofrestru a/neu ei gymeradwyo ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn tai domestig ac adeiladau tebyg. Ceir rhagor o wybodaeth yn'Cynhyrchu eich bwydydd anifeiliaid anwes eich hun'.
Cosbau
Gall methu chydymffurfio chyfraith safonau masnach arwain at gamau gorfodi ac at gosbau, a allai gynnwys dirwy a/neu garchar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler'Safonau masnach: pwerau, gorfodi a chosbau'.
Deddfwriaeth allweddol
Rheoliad (CE) Rhif 767/2009ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid
Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl
Rheoliad (UE) Rhif 142/2011gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 a Chyfarwyddeb 97/78/EC
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddi, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016
Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 2021
Yn y diweddariad hwn
Eglurwyd y gofynion labelu sy'n ymwneud 'aml-becynnau'
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2021 itsa Ltd.