![]()
Sut y mae swyddogion safonau masnach yn sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio chyfraith Safonau Masnach, gan gynnwys eu pwerau i ymweld busnesau ac i gymryd camau gorfodi ffurfiol
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr
Mae pobl sy'n gweithio i wasanaethau Safonau Masnach yn cael eu cyflogi gan eich awdurdod lleol (cyngor) ac maent wedi'u hawdurdodi i gyflawni eu swyddogaethau i orfodi deddfau Safonau Masnach. Mae teitlau swyddi a chymwysterau yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol a rhwng gwahanol swyddogaethau, ond at ddibenion y canllaw hwn cyfeirir atynt fel swyddogion Safonau Masnach.
Mae gwasanaethau Safonau Masnach yn gorfodi'r gyfraith ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys:
[*Nid yw rhai mathau o wasanaethau Safonau Masnach, gan gynnwys bwrdeistrefi Llundain, yn gorfodi cyfraith bwyd; mae gan adrannau eraill y cyfrifoldeb hwnnw yn lle hynny.]
PAM EU BOD YN YMWELD MI?
Mae gwasanaethau Safonau Masnach yn ymweld ag adeiladau busnes am nifer o resymau, ond pwrpas sylfaenol ymweliad yn gyffredinol yw gwirio a sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio 'r gyfraith yn ogystal mynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio neu ymchwilio iddo. Mae gwasanaethau Safonau Masnach yn dilyn dull sy'n seiliedig ar gudd-wybodaeth, lle mae'r penderfyniadau am weithgareddau gorfodi yn cael eu llywio gan ddadansoddiad o wybodaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys cwynion a hanes blaenorol busnesau. Gall swyddogion Safonau Masnach hefyd gynnal archwiliadau o eiddo yn rheolaidd-er enghraifft, yn unol rhaglen flynyddol o arolygiadau.
PA BWERAU SYDD GANDDYNT?
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan Swyddogion Safonau Masnach bwerau o dan Atodlen 5 i Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth y maent yn ei gorfodi, efallai y bydd ganddynt bwerau ychwanegol neu ychydig yn wahanol. Mae prif bwerau Swyddog Safonau Masnach yn cynnwys y per i fynd i mewn i eiddo, pwerau archwilio a phwerau i sicrhau neu atafaelu deunydd y gallai fod ei angen fel tystiolaeth:
[*Gellid ystyried bod gwrthod mynediad yn rhwystr i swyddog, sy'n drosedd.]
Gallai gwasanaethau Safonau Masnach wneud cais i lys i ofyn i chi wneud newidiadau i'ch gwefan. Byddai hwn ond yn cael ei ddefnyddio os nad yw ymgynghoriadau rhwng SwyddogionSafonau Masnach a'ch busnes wedi bod yn effeithiol.
SUT FYDDA I'N GWYBOD EU BOD NHW'N DDILYS?
Dylai swyddog safonau masnach dilys gario adnabyddiaeth ffotograffeg, a fydd fel arfer yn dangos eu henw, adran a'r awdurdod lleol y maent yn gweithio iddo. Os oes gennych unrhyw amheuon yna ffoniwch eich awdurdod lleol yn syth.
A ALLANT GAU BUSNESAU?
Na. Nid oes gan wasanaethau Safonau Masnach unrhyw bwerau uniongyrchol i'ch gorchymyn i roi'r gorau i fasnachu. Fodd bynnag, gallant wneud cais i'r llysoedd am orchmynion, a allai gyfyngu ar eich gweithgareddau.
BETH ALL WASANAETHAU SAFONAU MASNACH EU GWNEUD I ATAL BUSNESAU SY'N TORRI'R GYFRAITH?
Mae ystod eang o opsiynau ar gael, er eu bod yn amrywio yn dibynnu ar natur yr achos o dorri cyfraith Safonau Masnach.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae busnesau'n awyddus i gydymffurfio 'r gyfraith ac eisiau osgoi risgiau a threuliau camau gorfodi ffurfiol. Caiff llawer o achosion o dorri cyfraith Safonau Masnach eu datrys drwy gyngor a chamau adferol y cytunir arnynt gan y busnes (a allai gynnwys newid cynhyrchion, systemau, labelu neu hysbysebu a/neu drefnu i wneud iawn i gwsmeriaid y mae'r tramgwydd wedi effeithio arnynt).
Fodd bynnag, mae opsiynau gorfodi ffurfiol ar gael bob amser i wasanaethau Safonau Masnach. Yr awdurdod lleol sydd 'r penderfyniad i gymryd camau ffurfiol, ond mae'n debygol y cymerir camau ffurfiol mewn achosion lle y ceir toriad difrifol (o ran y niwed i gwsmeriaid neu i fusnesau eraill drwy fantais gystadleuol annheg) neu pan fydd busnes yn methu ag ymateb i, neu ymgysylltu ag, ymdrechion anffurfiol i sicrhau cydymffurfiaeth.
GORFODI FFURFIOL A CHOSBAU
Mae gan bob gwasanaeth Safonau Masnach bolisi gorfodi, sy'n esbonio sut y maent yn ceisio sicrhau bod y camau y maent yn eu cymryd yn deg ac yn gymesur. Gallwch ofyn am hyn gan eich awdurdod lleol.
Mae'r prif opsiynau gorfodi ffurfiol yn cynnwys y canlynol:
ERLYN
Mae llawer o achosion o dorri cyfraith safonau masnach yn droseddau a gellir eu herlyn yn Llys yr Ynadon neu Lys y Goron. Gall erlyniad llwyddiannus gael amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys:
RHYBUDD SYML
Rhybudd ffurfiol yw hwn, a allai gael ei gynnig fel dewis arall yn lle erlyn, os yw hynny er budd y cyhoedd.
Nid oes rheidrwydd ar wasanaethau Safonau Masnach i gynnig rhybuddiad, ond efallai y byddai'n cael ei gynnig ar gyfer troseddu tro cyntaf cymharol ddibwys.
GORCHMYNION GORFODI
Ar gyfer amrywiaeth o achosion o dorri'r rheolau, gall gwasanaethau Safonau Masnach wneud cais i'r llys sirol neu i'r uchel lys am orchymyn gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r busnes gydymffurfio 'r gyfraith. Gall hyn gynnwys y canlyniadau canlynol:
YMRWYMIAD
Addewid ffurfiol yw hyn gan y busnes i gydymffurfio 'r gyfraith a, lle bo'n briodol, i gymryd mesurau gwell i ddefnyddwyr.
Nid oes rheidrwydd ar wasanaethau Safonau Masnach i dderbyn ymrwymiad, ond efallai y derbynnir os yw'n ymddangos bod y busnes yn ymrwymo i wneud iawn.
Gallai fod cosbau ariannol os bydd busnes yn torri ei ymrwymiad.
HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Mewn rhai achosion, gall gwasanaethau safonau masnach gyhoeddi rhybudd yn gofyn i'r busnes weithredu neu i roi'r gorau i wneud rhywbeth, heb fod angen gwneud cais i'r llys am orchymyn. Mae gan yr hysbysiadau hyn enwau gwahanol a gwahanol amodau gan ddibynnu ar y gyfraith y cnt eu gwneud oddi tanynt.
Yn gyffredinol bydd dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio 'r hysbysiad. Os bydd busnes yn methu chydymffurfio hysbysiad, gall hyn arwain at achos llys; os yw'r busnes yn anghytuno efo defnyddio'r hysbysiad, fel arfer bydd cyfle i wneud cais i'r llys neu i dribiwnlys i apelio yn ei erbyn.
Mae hysbysiadau cydymffurfio ar gael o dan ystod o gyfreithiau, gan gynnwys safonau bwyd, iechyd anifeiliaid, diogelwch cynnyrch, pwysau a mesurau, a masnachu teg.
HYSBYSIADAU COSB ARIANNOL
Mewn rhai achosion, gall gwasanaethau Safonau Masnach gyhoeddi hysbysiad cosb yn gofyn i fusnes gymeryd camau neu i stopio a gwneud rhywbeth penodol, heb yr angen i wneud cais i'r llys am orchymyn.Weithiau mae'r hysbysiadau hyn am swm penodol, ond mewn rhai sefyllfaoedd gallant amrywio yn l yr amgylchiadau.
Mae hysbysiadau o'r fath ar gael o dan ystod o ddeddfwriaethau, gan gynnwys cyfreithiau sy'n ymwneud ag asiantau gosod, tocynnau eilaidd, bagiau siopa untro ac (mewn rhai ardaloedd) gwerthu alcohol o dan oedran.
Fel arfer, gall y busnes apelio i'r llys neu i dribiwnlys yn erbyn defnyddio hysbysiad o'r fath neu yn erbyn lefel y gosb a osodwyd.
A ALL GWASANAETHAU SAFONAU MASNACH YMYRRYD I WNEUD IAWN I DDEFNYDDIWR?
Ni all gwasanaethau Safonau Masnach orchymyn gwneud iawn i ddefnyddwyr unigol na chymryd camau cyfreithiol ar eu rhan, er y gallant gynnig cyngor a chymorth i ddefnyddwyr sy'n gwneud eu ceisiadau eu hunain yn y llys neu drwy wasanaeth datrys anghydfodau amgen (gweler 'Dulliau amgen o ddatrys anghydfod'yn adran Busnes mewn Ffocws o'r Gydymaith Busnes).
Fodd bynnag, os ceir erlyniad neu os gwneir cais am orchymyn gorfodi, gall gwasanaethau Safonau Masnach wneud cais am orchymyn llys sy'n gofyn am iawndal.
Os byddwch yn torri'r mathau hyn o gyfraith rydych hefyd mewn perygl o gael eich erlyn yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr.
YW GWASANAETHAU SAFONAU MASNACH YNO I DDIOGELU DEFNYDDWYR YN HYTRACH NA BUSNESAU?
Na. Er mai bwriad y rhan fwyaf o gyfraith Safonau Masnach yw diogelu defnyddwyr, mae torri cyfraith Safonau Masnach yn rhoi busnesau gonest, dibynadwy o dan anfantais. Hefyd, mae gwasanaethau Safonau Masnach yn gorfodi deddfwriaeth sy'n diogelu busnesau (gweler 'Marchnata busnes i fusnes') ac yn rhoi cyngor i fusnesau. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i roi sylw i ddymunoldeb hybu twf economaidd yn eu hardal, ac felly mae gwasanaethau Safonau Masnach yn awyddus i hyrwyddo busnesau llwyddiannus sy'n cydymffurfio 'r gyfraith.
PRIF AWDURDOD
Mae Prif Awdurdod yn gynllun sy'n cael ei redeg gan awdurdodau lleol i gynnig cyngor i fusnesau. Am ragor o wybodaeth gweler'Prif Awdurdod'.
GWYBODAETH BELLACH
Cynhyrchodd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS, rhagflaenydd yr Adran Busnes a Masnach) ganllawiau manwl ar sut mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn effeithio ar bwerau swyddogion Safonau Masnach: Pwerau Ymchwilio Gorfodwyr Cyfraith Defnyddwyr: Canllawiau i Fusnesau ar y Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
YN Y DIWEDDARIAD HWN
Newidiadau a wnaed i adlewyrchu dyfodiad Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 (Rhan 3: 'Gorfodi cyfraith diogelu defnyddwyr') i rym.
Adolygwyd / Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 2025
DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.