Meddwl am ddechrau busnes gofal plant
Meddwl am ddechrau busnes gofal plant?
Mae dechrau busnes gofal plant yn ymrwymiad sylweddol a chyn i chi ddechrau bydd rhaid i chi ystyried y gofal plant a gynigir eisoes yn eich ardal ddewisedig a'r ‘galw' am y gofal plant yr ydych yn dymuno ei ddarparu.
Yna bydd angen i chi benderfynu pa fath o ofal plant yr ydych am ei ddarparu:
- Meithrinfa ddydd
- Cylch Chwarae
- Clwb y tu allan i oriau ysgol (clwb ar ôl ysgol neu glwb gwyliau)
- Gwasanaeth gwarchod plant cofrestredig
- Grŵp rhiant a phlentyn bach
Er mwyn pennu a oes galw am y gwasanaeth yr ydych yn bwriadu ei gynnig, bydd angen i chi gyflawni ychydig o ymchwil i'r farchnad.
Dylai gynnwys holl agweddau eich syniad arfaethedig - oedrannau'r plant, oriau agor, ffioedd, rhaglen weithgareddau etc. Bydd hyn yn helpu i nodi maint a math yr adeilad y bydd arnoch ei angen.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod yng Nghymru gyflawni Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (CSA) bob tair blynedd, pan asesir y cyflenwad gofal plant a'r galw gan nodi'r bylchau yn y ddarpariaeth. Gallai'r CSA fod yn ddefnyddiol wrth ymchwilio anghenion ‘gofal plant' o fewn ardal benodol.