Meddwl am ddechrau busnes gofal plant

Cychwyn grwp rhiant a phlentyn bach

Mae grŵp rhiant â phlentyn bach yn lleoliad anffurfiol i rieni, gwarchodwyr a phlant ofalu am blant gyda'i gilydd. Mae grwpiau i blant bach yn ffordd dda iawn i blant cyn oed ysgol gymdeithasu, cyfarfod â phlant newydd, dysgu i ryngweithio ag eraill ac yn bwysicaf, i gael hwyl. 

Mae'n gyfle i rieni a gofalwyr gyfarfod a mwynhau cwmni oedolion eraill. Y rhieni a'r gofalwyr sy'n gyfrifol am y plant felly mae'n rhaid iddynt aros gyda'r plant bob amser. 

Yn aml, mae'n anodd dod o hyd i grŵp lleol am nifer o resymau. Efallai nad oes un yn eich ardal chi, neu efallai nad oes lle yn y grŵp ar gyfer rhagor o blant. Os felly y mae, efallai eich bod yn ystyried cychwyn eich grŵp eich hun.  

Nid oes angen cofrestru grŵp rhiant â phlentyn bach gydag Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) oherwydd nad yw'r rhieni/gofalwyr yn gadael eu plant ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, efallai y byddai'n syniad da i wirio pa grwpiau eraill sydd yn yr ardal neu pa grwpiau sydd ar fin cychwyn. Gallwch hefyd wirio'r diddordeb yn lleol drwy hysbysebu eich bwriadau, neu wirio gydag ymwelwyr iechyd neu weithwyr proffesiynol eraill.

Mae grwpiau plant bach fel arfer yn cael eu rhedeg yn un o'r ddau ddull isod:  

  •  Grwpiau sy'n cael eu rhedeg gan Bwyllgorau - fel arfer mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan rieni ar gyfer rhieni. Bydd yr aelodau'n ffurfio pwyllgor sy'n cyfarfod yn gyson. Bydd y Pwyllgorau'n cynnwys nifer o bobl a etholwyd, megis cadeirydd, ysgrifennydd, trysorydd etc. Mae'n ffordd dda o rannu'r llwyth gwaith a gall hwyluso'r broses benderfynu.
  • Grwpiau Capel - Fel arfer mae'r rhain yn cael eu trefnu a'u rhedeg gan aelodau o'r Capel. Gan nad oes pwyllgor yn cynnal y grwpiau hyn, maent yn croesawu pob help a chymorth posibl gan rieni a gofalwyr.

Lleoliadau

Unwaith i chi benderfynu ar y modd y bydd y grŵp yn cael ei redeg (gan bwyllgor neu beidio), un o'r pethau cyntaf y bydd angen ei wneud fydd dod o hyd i leoliad addas i'r grŵp gyfarfod. Mae lleoliadau poblogaidd ar gyfer cyfarfodydd yn cynnwys neuaddau capeli/pentrefi/cymunedol, neu sied sgowtiaid.

Rhai o'r pethau i'w hystyried wrth edrych am leoliad addas:

  • A oes lle diogel i storio offer rhwng cyfarfodydd?
  • A oes diffoddwyr tân?
  • Allanfeydd tân addas?
  • A oes lle diogel i gadw pramiau/cadeiriau gwthio?
  • A yw'r fynedfa/allanfa yn medru atal y plant?
  • A oes gwres? Os felly, a yw'n ddiogel? A fyddai modd i'r plant losgi?
  • A ellir stacio dodrefn yn ddiogel?
  • Pa adnoddau cegin a geir?
  • A yw cyfleusterau'r tŷ bach yn addas?
  • A yw'r llawr yn hawdd ei lanhau? A yw'n wastad ac yn addas ar gyfer teganau / chwarae/
  • Yswiriant - a oes gan y lleoliad yswiriant neu a fydd angen i chi gael yswiriant eich hun?

Arian

Wedi ffurfio'r grŵp bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o arian ar gyfer costau a theithiau o bryd i'w gilydd. Bydd y costau'n cynnwys pethau megis:

  • Costau rhent:

Faint yw'r rhent?

A oes rhaid i chi dalu yn ystod gwyliau ysgol hyd yn oed os nad yw'r grŵp yn cael ei gynnal?

A yw'r rhent yn cynnwys costau goleuo a gwresogi neu a yw'r rhain yn ychwanegol?

  • Costau yswiriant ac unrhyw gostau tanysgrifio/aelodaeth.
  • Costau lluniaeth - te/coffi/byr brydau iach
  • Cost offer a deunyddiau megis papur, glud, tywod, teganau.

Yswiriant

Mae'n rhaid bod gan y grŵp bolisi yswiriant rhag ofn y bydd rhywun yn cael niwed neu ddamwain. Mae'n bwysig eich bod yn cadw rhestr eiddo a faint byddai'n costio i gael rhywbeth yn ei le. Trefnwch pwy fydd yn gyfrifol am weinyddu a threfnu'r polisi yswiriant. Bydd angen i chi sicrhau bod eich rhestr eiddo'n cael ei diweddaru'n gyson.

Gweinyddiaeth

Bydd angen trefnu a phenodi unigolyn yn gyfrifol am:

  • Archebu'r lleoliad
  • Casglu'r allwedd
  • Datgloi a chloi eto
  • Dychwelyd yr allwedd
  • Casglu ffioedd ym mhob sesiwn
  • Cadw'r holl gofnodion ariannol yn gyfredol
  • Talu'r rhent? Yswiriant? Costau eraill? Cadw arian mân?

Bydd angen cadw'r arian yn ddiogel rhwng sesiynau - meddyliwch pwy fydd yn gyfrifol am unrhyw gyfrifon banc a bancio.

Cynllunio Sesiynau

Bydd angen i chi benderfynu pryd y byddwch yn cynnal pob sesiwn - yn ystod y tymor yn unig neu drwy'r flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn cymryd plant o'u babandod hyd nes eu bod yn dair oed, ond os ydych yn cynnal eich sesiynau yn ystod gwyliau ysgol, bydd rhaid i chi benderfynu a ydych yn barod i gymryd plant oed ysgol yn ystod y sesiynau

Bydd hefyd arnoch angen penderfynu pa mor hir y bydd pob sesiwn - mae'r mwyafrif yn rhedeg am 1½ i 2 awr

Ffurflen Gofrestru

Mae'n syniad da i aelodau newydd y grŵp lenwi ffurflen gofrestru syml. Gall hwn gynnwys manylion megis:

  • Enw'r rhiant /gofalwr
  • Enw'r plentyn
  • Dyddiad geni'r plentyn
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Cyflyrau meddygol (gan gynnwys alergeddau)
  • Anghenion penodol
  • Llofnod y rhiant / gofalwr
  • Dyddiad ymuno

Mae'n rhaid i'r ffurflen hon hefyd gynnwys datganiad Diogelwch Data, yn nodi'r modd y bydd yr wybodaeth a ddarparwyd yn cael ei storio a'i defnyddio a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Mae'n rhaid i'r unigolyn sy'n llenwi'r ffurflen roi caniatâd ysgrifenedig i'r wybodaeth gael ei defnyddio yn y dulliau a nodwyd. Ni ddylid defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddibenion eraill heblaw'r hyn a nodwyd.

Cofrestr/cofnod presenoldeb

Mae angen sicrhau eich bod yn cadw cofrestr neu gofnod o bob person sy'n bresennol ym mhob sesiwn. Felly, pe bai argyfwng neu angen gwacau'r adeiladu byddwch yn gwybod pwy sydd yn yr adeilad. Bydd hwn hefyd yn rhoi syniad i chi o niferoedd y grŵp bob wythnos.

Llyfr damweiniau

Pe bai rhywun yn cael damwain yn ystod sesiwn bydd angen i chi gofnodi'r manylion mewn llyfr damweiniau. Bydd angen cofnodi'r amser a'r math o anaf, enw'r unigolyn, y cymorth cyntaf a roddwyd ac os bu'n rhaid mynd at y meddyg neu i'r ysbyty. Bydd angen i'r unigolyn ei hun neu'r rhiant/gofalwr arwyddo hwn i ddangos eu bod yn hapus gyda'r hyn a gofnodwyd. 

Polisi Amddiffyn Plant

Mae'n rhaid i bawb sy'n rhan o weithgareddau'n sy'n ymwneud â phlant gael polisi amddiffyn plant cyfredol. Mae angen adolygu'r polisi'n flynyddol. Mae angen cael polisi er mwyn diogelu ac amddiffyn y gwirfoddolwyr a'r plant. Dylai copi o'r polisi fod ar gael neu dylid ei arddangos yn glir pan fo'r grŵp yn cynnal sesiwn a dylid sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol ohono. Rhaid i bolisïau gynnwys materion megis canllawiau ar gyfer y broses o ddewis gwirfoddolwyr, gweithdrefnau ymarferol i gadw'r plant yn ddiogel, a diffiniadau ynghylch y mathau o gam-drin a gwybodaeth ynghylch yr arwyddion neu symptomau cam-drin.

Diogelwch Tân

Mae'n syniad da i gyfarfod â'ch Swyddog Diogelwch Tân Lleol. Mewn rhai achosion, hwn yw rheolwr yr adeilad yr ydych yn ei rentu. Byddant yn medru dweud wrthoch am y rheoliadau cyfredol, gwirio diffoddwyr tân, larymau tân, allanfeydd tân a hyd yn oed eich cynghori ynghylch y weithdrefn ymarfer tân. Mae'n bwysig bod holl aelodau'r grŵp yn ymwybodol o'r weithdrefn hon a phwy sy'n gyfrifol pe bai argyfwng.

Diogelwch y Lleoliad

Cyn pob sesiwn mae'n rhaid i chi wirio'r ystafell i sicrhau ei bod yn glir o unrhyw wrthrychau niweidiol a bod gan bob soced trydan orchuddion diogelwch, bod tanau neu wresogyddion y tu ôl i sgrin ac os oes angen bod gatiau diogelwch yn eu lle.

Rhaid cadw pramiau a chadeiriau gwthio'n ddiogel ac i ffwrdd oddi wrth allanfeydd tân neu bwyntiau mynediad. Rhaid rhoi teganau ac offer yn ddiogel ac allan o afael plant pan fo hynny'n briodol. 

Cymorth Cyntaf

Mae'n fuddiol cael unigolyn â chymhwyster cymorth cyntaf yn bresennol ym mhob sesiwn, ynghyd â blwch cymorth cyntaf llawn.

Teganau ac Offer

Dylai pob un fod mewn cyflwr da a glân, wedi'u gwirio a'u cynnal yn rheolaidd. Dylai'r teganau fod yn briodol ar gyfer gwahanol grwpiau oed. Mae'n fuddiol cael dewis da ar gyfer pob cyfnod datblygiad. Mae'n rhaid i bob tegan ac offer arddangos y symbolau diogelwch ac ansawdd priodol.

Trefniadaeth y Sesiwn

Ar gychwyn pob sesiwn, neu wrth i bobl gyrraedd, bydd angen cadw cofnod o bwy sy'n bresennol. Mae hwn yn bwysig ar gyfer argyfwng tân neu argyfwng arall.

Wrth gynllunio sesiwn, mae angen i chi ystyried y canlynol:

 Cynllun

Efallai y bydd angen i chi arbrofi gyda chynllun yr ystafell i ddod o hyd i rywbeth sy'n addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Gall clystyrau o bobl fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhwystro mynediad i rai ardaloedd, ond cofiwch fod angen i'r oedolion fod yn agos i'r gweithgareddau er mwyn i'r plant deimlo'n ddigon diogel i chwarae. Mae hefyd yn hanfodol i fabanod gael eu diogelu rhag plant bach sy'n dechrau cerdded neu sy'n defnyddio teganau megis beiciau bach.

Gweithgareddau

Bydd angen ystod eang o deganau a gweithgareddau. Efallai y byddai'n syniad cael chwarae di-strwythur, gweithgaredd crefft neu weithgaredd anniben, cornel llyfrau, teganau y gellir eistedd arnynt, posau, offer chwarae mawr ac ardal ddiogel i fabanod gyda ratl, teganau meddal a symudion. Cofiwch geisio amrywio'r gweithgareddau'n wythnosol a sicrhau bod yr ystafell yn ddiogel i bawb fedru symud o gwmpas yn hawdd ac yn ddiogel. Efallai y byddai'n braf cael grŵp stori neu ganu tua diwedd y sesiynau.

Lluniaeth

Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn cynnig rhyw fath o luniaeth ar ffurf te a choffi ar gyfer rhieni/gofalwyr (sicrhewch fod pob diod boeth yn cael ei pharatoi a'i hyfed ymhell oddi wrth blant ifanc) a dŵr neu laeth i'r plant. Fel arfer cynigir byr bryd iach hefyd.

Y gyfrinach i greu grŵp llwyddiannus yw bod yn gynhwysol a rhoi croeso i bawb - mamau, tadau, mamau a thadau-cu, gofalwyr a phlant. Bydd nifer y bobl sy'n teimlo ar eu pen eu hunain yn eu cymunedau yn croesawu'r cymorth a'r cyfeillgarwch y gall eich grŵp ei gynnig.

Y peth pwysicaf i chi a'ch grŵp ei gofio yw cael hwyl 

Ceir rhagor o gymorth a gwybodaeth ynglŷn â sefydlu grŵp rhiant â phlant bach gan:

Mae'r rhan fwyaf o grwpiau yn aelodau o Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Cymru PPA) neu Mudiad Meithrin (MM) sy'n cynnig help cyffredinol, cymorth ac arweiniad ar sefydlu a rhedeg grŵp rhiant â phlentyn bach / Ti a Fi

  

ID: 1777, adolygwyd 22/02/2023