Meddwl am ddechrau busnes gofal plant

Dechrau Cylch Chwarae sef Gofal Sesiynol

Fel arfer, mae cylchoedd chwarae yn gweithredu o ganolfannau cymunedol, ysgolion neu adeiladau eglwysi ac maent yn cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 2 a 5 oed. Cânt eu cynnal am 2 i 3 awr yn y bore a/neu yn y prynhawn yn bennaf yn ystod y tymor.

Mae gofal cofleidiol yn gweithredu mewn ysgolion ac mae'n cynnig gofal sesiynol i blant rhwng 3 a 4 oed. Mae gofal cofleidiol yn galluogi plant sy'n mynd i feithrinfa'r ysgol i aros ar safle'r ysgol drwy'r dydd. Er enghraifft, gall plant sy'n mynd i'r feithrinfa yn y bore ddefnyddio gofal cofleidiol ar ôl eu sesiwn ysgol i aros yn yr ysgol hyd 3.20pm. Bydd plant sy'n mynd i'r feithrinfa yn y prynhawn yn defnyddio gofal cofleidiol yn y bore.

Lle cynigir dwy sesiwn mewn unrhyw ddydd, ni ddylai plant fynd i fwy na phum sesiwn yr wythnos. Rhaid bod egwyl rhwng y sesiynau lle nad oes plant yng ngofal y darparwr.  

Cyn dechrau grŵp chwarae newydd, mae'n bwysig iawn asesu'r galw am y grŵp. Mae'n rhaid i chi wybod faint o blant 2 i 3 oed sydd yn yr ardal a'r ffordd y mae ffigurau'r boblogaeth leol yn debygol o newid, e.e. a oes datblygiadau tai ar droed?

Mae'n rhaid i chi fod yn siŵr bod rhieni'r plant hynny am iddynt fynd i ryw fath o ddarpariaeth, a dod i wybod pa fath o ddarpariaeth y byddent yn dymuno ei chael. Rhieni yw'r partner amlwg wrth ddarparu gofal ac addysg i blant yn eu blynyddoedd cynnar. Drwy osod syniadau, barn a gwerthoedd rhieni wrth wraidd eich darpariaeth i'w plant, byddwch yn ennyn eu diddordeb i gefnogi ac i helpu i ddatblygu eich cynllun.

Gwnewch ymchwil i'r farchnad drwy siarad â rhieni a gofalwyr mewn grwpiau mam a'i phlentyn a thrwy siarad ag ymwelwyr iechyd a chanddynt ymwybyddiaeth dda o'r ddarpariaeth gymunedol yn eu hardal eu hunain.

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob tair blynedd lle dadansoddir y cyflenwad a'r galw gan ddynodi'r bylchau yn y ddarpariaeth. Gall yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant fod yn arf defnyddiol wrth ymchwilio anghenion ‘gofal plant' o fewn ardal benodol.

Os oes digon o alw, y camau nesaf yw:

  • Penderfynu ar strwythur y grŵp chwarae (cael ei redeg gan yr ysgol, pwyllgor gwirfoddol neu'n breifat)
  • Dod o hyd i safle addas
  • Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Cyflogi'r bobl addas
  • Cyfarparu'r grŵp chwarae
  • Cwblhau'r gwaith papur

Safle

Wrth chwilio am safle addas, mae'n rhaid i chi ystyried a yw'r adeilad mewn cyflwr da, a yw mewn lle saff a diogel i'r plant, a oes yno gyfleusterau tŷ bach a chegin addas, a yw'r safle yn hawdd ei gyrraedd i deuluoedd ac a yw'n hygyrch i blant ac oedolion a chanddynt anableddau. Rhaid i chi hefyd ystyried yr ardal chwarae y tu allan, a'r modd y mae/y bydd yn cael ei diogelu.

Cofrestru ag AGC (yn agor mewn tab newydd)

Mae'n rhaid i bob lleoliad gofrestru ag AGC os ydynt yn gofalu am blant o dan 8 oed ac yn gweithredu am dros ddwy awr y diwrnod.

Prif nod y cofrestriad yw hyrwyddo ansawdd ac amddiffyn plant, gan sicrhau y gofalir amdanynt mewn amgylchedd diogel ac addas.

Rhaid i leoliad gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC cyn y gellir caniatáu cofrestru. 

Rheoli'r grŵp chwarae/gofal cofleidiol

Mae'n rhaid i'r person sy'n rheoli:

  • Feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad gofal dydd ac o leiaf gymhwyster lefel 3 cydnabyddedig sydd ar restr bresennol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru neu Fframwaith Strategol Cymhwyster i Waith Chwarae Skills Active (neu unrhyw restr sy'n eu disodli hwy), sy'n addas i'r swydd

Y staff

  • Bydd o leiaf 50% o'r staff nad ydynt yn goruchwylio yn meddu ar o leiaf gymhwyster lefel 2  o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru neu Fframwaith Strategol Cymhwyster i Waith Chwarae Skills Active (neu unrhyw restr sy'n eu disodli hwy), sy'n addas i'r swydd.
  • Rhaid i'r holl staff gael gwiriad CRB manwl
  • Mae rhagor o wybodaeth ar arfer da wrth recriwtio, rheoli a goruchwylio staff ar gael ar: Gofal Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cymarebau staffio

Isafswm y cymarebau staffio mewn gofal dydd yw:

  •  Un oedolyn i bob tri o blant dan 2 oed.
  • Un oedolyn i bob pedwar o blant 2 oed.
  • Un oedolyn i bob wyth o blant rhwng 3 - 7 oed.

Mae'r cymarebau hyn yn cynnwys plant y staff neu'r gwirfoddolwyr ac mae'n berthnasol i unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys hebrwng a chludo plant.

Gellir cyfrif gwirfoddolwyr cyson yn y cymarebau staffio cyffredin.

Cynhelir lefelau staffio yn ystod teithiau, ac yn ôl amgylchiadau, gall fod yn angenrheidiol i'w rhagori. Rhaid i staff sy'n goruchwylio teithiau fod â chymhwyster lefel 3. 

Mae trefniadau wrth gefn addas yn eu lle i gyflenwi achosion brys ac absenoldeb staff yn annisgwyl. Mae yno ddigon o staff a gwirfoddolwyr addas i gyflenwi amserau egwyl, gwyliau, hyfforddi, salwch a'r amser y mae staff yn ei dreulio gyda rhieni.

Mae'n rhaid cael dau aelod o staff o leiaf yn gweithio ar yr un pryd.

Cyfarpar

Cyn prynu unrhyw gyfarpar, mae'n bwysig ystyried gwagle a chynllun y safle. Dylid datblygu ardaloedd gweithgareddau i ddenu diddordeb y plant ac i ysgogi dysgu, gydag adnoddau a ddewiswyd yn ofalus er mwyn cynnig cyfleoedd di-ben-draw i chwarae. Dylai'r gwagle a'r gweithgareddau adlewyrchu a hyrwyddo darluniau cadarnhaol o amrywiaeth, ac annog plant ac oedolion i fwynhau chwarae a rhyngweithio gyda'i gilydd wrth hyrwyddo annibyniaeth y plant. Nid oes rhaid i'r offer fod yn newydd; fodd bynnag, dylai fod mewn cyflwr ac o ansawdd da, a dylai fod yn ddiogel i blant ei ddefnyddio. Dylai fod nod barcud a nod CE ar y teganau sy'n dangos eu bod yn cydymffurfio â Safonau Diogelwch Prydeinig ac Ewropeaidd. Rhaid i chi sicrhau bod yr adnoddau yn addas ar gyfer yr ystod oed a gwahanol gamau datblygiad y plant yn y lleoliad. Dylid defnyddio defnyddiau naturiol lle bo'n bosibl.  

Iechyd a diogelwch

Mae'n bwysig eich bod yn llunio polisi diogelwch, sy'n egluro eich nod i gael amgylchedd saff a diogel. Dylai gynnwys y gweithdrefnau i ddynodi, adrodd a delio â risgiau, damweiniau ac offer diffygiol. Rhaid i bob damwain yn y lleoliad gael ei chofnodi'n gywir a dylid gwirio'r llyfr damweiniau yn rheolaidd.

Mae dyletswydd ar y darparwyr i:

  • ddatblygu gweithdrefnau effeithiol i ddiogelu ac amddiffyn plant rhag niwed neu gam-drin
  • sicrhau bod y lleoliad - y safle a'r cyfarpar - yn ddiogel, ac adnabod unrhyw risgiau a'u rheoli drwy asesiadau risg rheolaidd
  • gwirio gweithdrefnau ac offer tân yn rheolaidd   
  • sicrhau bod yno bob amser aelod o staff ar y safle a chanddo dystysgrif cymorth cyntaf pediatreg cyfredol  
  • gwneud gwiriadau diogelwch rheolaidd ar eu safle ac ar y cyfarpar yn ddyddiol cyn i'r plant gyrraedd. Yn ogystal, rhaid i chi gynnal asesiad risg systematig ar eich safle, y cyfarpar a'r gweithgareddau yr ydych yn eu cynnig, er mwyn adnabod unrhyw broblemau posib.
  • sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Iechyd yr Amgylchedd. (Gall safleoedd gael eu harchwilio i sicrhau bod yr ardal paratoi bwyd yn addas ac yn lân, bod y storfa fwyd yn ddigonol a bod gweithdrefnau hylendid ar waith wrth baratoi bwyd)

Mae rhagor o gymorth a chanllawiau ar ddechrau grŵp chwarae ar gael o:

Mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau yn dod yn aelodau o Blynyddoedd Cynnar Cymru (yn agor mewn tab newydd) neu'r Mudiad Meithrin (yn agor mewn tab newydd) (MM) sy'n cynnig help, cymorth a chefnogaeth gyffredinol wrth ddechrau a rhedeg grŵp chwarae/Cylch Meithrin.

 

ID: 1775, adolygwyd 02/10/2023