Meddwl am ddechrau busnes gofal plant
Dod yn warchodwr plant cofrestredig
Mae gwarchod plant yn gallu bod yn werth chweil iawn; byddwch yn fos arnoch chi eich hun ac yn rhedeg eich busnes o'ch cartref.
A chithau'n warchodwr plant cofrestredig byddwch yn:
- Gallu gofalu am eich plant eich hun ar yr un amser os oes gennych deulu
- Cynnig amgylchedd ysgogol a hapus i'r plant yr ydych yn gofalu amdanynt
- Cynnig cyfleoedd dysgu a dylanwadu ar y modd y mae'r plant yn eich gofal yn datblygu
- Gweithio yn eich cartref, gan ddewis yr oriau yr ydych yn eu gweithio a'r gwasanaethau yr ydych yn eu darparu
- Cyfarfod â gwarchodwyr plant eraill yn eich ardal a dod i adnabod eich cymuned leol.
Beth mae gwarchodwr plant cofrestredig yn ei wneud?
A chithau'n warchodwr plant cofrestredig byddwch yn gofalu am un neu ragor o blant dan 8 oed am fwy na dwy awr y dydd, fel arfer yn eich cartref eich hun, am dâl. A chithau'n warchodwr plant cofrestredig byddwch yn dilyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ac yn cael eich arolygu gan Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGC) i sicrhau eich bod yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol i'r plant yr ydych yn gofalu amdanynt. Byddwch fel arfer yn hunangyflogedig ac yn rhedeg eich busnes eich hun.
Rhaid i warchodwr plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC (wedi'u hatodi wrth waelod yr e-bost hwn) cyn y gellir caniatáu cofrestru.
Er y bydd pob diwrnod yn wahanol, gallai diwrnod arferol gynnwys:
- Ymweld â pharc, llyfrgell neu grŵp chwarae
- Trefnu gweithgareddau dysgu hwyliog ac ysgogol, megis gwisgo i fyny neu chwarae creadigol
- Darparu prydau bwyd a byrbrydau i'r plant, a'u cynnwys yn y broses o baratoi bwyd
- Mynd â phlant i'r ysgol neu i glybiau a'u casglu
- Gweithio gyda gwarchodwyr plant lleol eraill i drefnu gweithgareddau grŵp
Cyn y gallwch ddechrau gweithio yn warchodwr plant yn gofalu am blant dan 8 oed yn eich cartref, bydd angen i chi gofrestru gydag AGC gan ei bod yn anghyfreithlon i ofalu am blant dan 8 oed yn eich cartref am fwy na dwy awr y dydd am dâl heb fod yn gofrestredig (oni bai eich bod yn berthynas waed i'r plentyn)
Yn effeithiol o 01 Hydref 2012 mae'r broses gofrestru ar gyfer gwarchod plant yn Sir Benfro fel a ganlyn:
- Mynychu sesiwn wybodaeth a drefnwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
- Cofrestru ar y cwrs CYPOP 5 : Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant yn y cartref gyda Choleg Sir Benfro
- Mynychu pob sesiwn o'r cwrs CYPOP 5
- Llunio a chwblhau eich portffolio tystiolaeth gan ddilyn y meini prawf asesu ar gyfer CYPOP 5
- Mynychu gweithdy cyn-cofrestru i gael cymorth ac arweiniad ar: Creu eich prosbectws gofal plant, Llunio polisïau a gweithdrefnau, Cofnodi tystiolaeth ar gyfer cofrestru
- Mynychu cwrs 12 awr ar Gymorth Cyntaf Pediatrig
- Cyflwyno eich cais i AGGCC
- Cael gwiriad CRB manwl, gwiriad iechyd a darparu geirdaon.
- Arolygwr AGGCC yn ymweld â'ch cartref
- Ymgeisio am Grant Cychwyn Busnes gan yr Awdurdod Lleol
- Cysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i'w hysbysu eich bod ar fin cychwyn gwarchod plant
Cwestiynau Cyffredin
A yw'n gostus i gychwyn arni?
A chithau'n warchodwr plant newydd yng Nghymru, efallai y bydd modd i chi gael cymorth gan y Bartneriaeth Gofal Plant yn yr Awdurdod Lleol, sydd ar hyn o bryd yn rhoi cymorth tuag at gost ‘Tools of the Trade' y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) sy'n cynnwys nifer o fanteision gan gynnwys atebolrwydd cyhoeddus ac aelodaeth o'r gymdeithas am 12 mis.
Faint o blant y gallaf ofalu amdanynt?
Y nifer fwyaf o blant y gall gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw:
- Chwech o blant dan wyth mlwydd oed.
- O'r chwech o blant hynny, ni all mwy na thri bod o dan bum mlwydd oed.
- O'r tri o blant hynny, fel arfer ni all mwy na dau fod o dan 18 mis oed, er y gall brodyr a chwiorydd fod yn eithriad.
Nodiau: Mae eich plant eich hun yn cael cynnwys yn y cymarebau
A oes rhaid i mi fyw mewn tŷ mawr?
Nid oes rhaid i chi gael tŷ mawr a gardd i ddod yn warchodwr plant. Nid oes rhaid i chi hyd yn oed berchen ar eich cartref eich hun.
Faint o dâl y gallaf ei godi?
Chi fydd gosod eich ffioedd.
Beth yw'r dyfodol?
Mae gwarchod plant yn yrfa ddynamig sy'n esblygu felly pan fydd eich busnes wedi'i sefydlu, mae llawer o gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi ar gael a fydd o gymorth i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch hyder.
Ceir nifer o gymwysterau gofal plant y gallwch weithio tuag atynt, o hyfforddiant rhagarweiniol sylfaenol hyd at lefel gradd!
Pan fyddwch yn cychwyn, bydd angen i chi fynychu'r cwrs hyfforddi cyn-cofrestru cydnabyddedig ar gyfer gwarchodwyr plant newydd: Deall sut i sefydlu gwasanaethau gwarchod plant yn y cartref (cyfeirir ato yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau fel Uned 5 Dewisol Plant a Phobl Ifanc CYPOP 5) mewn cydweithrediad â Choleg Sir Benfro a gall dysgwyr fynd ymlaen i gael diploma Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu Gofal Plant. Yn ogystal â dysgu agweddau perthnasol ar ofal plant, mae'r uned hon sy'n seiliedig ar wybodaeth yn cefnogi datblygiad polisïau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i gofrestru a'r sgiliau busnes sylfaenol i sefydlu gwasanaeth gofal plant yn y cartref.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y Grant Cychwyn Busnes?
Gallwch ymgeisio trwy gyfrwng y Bartneriaeth Gofal Plant am Grant Cychwyn Busnes sy'n cynnwys:
- ‘Tools of the trade' y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY)
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac aelodaeth o PACEY am 12 mis
- Llyfr arian a chofrestr bresenoldeb
- Llyfr damweiniau / digwyddiadau / meddyginiaethau
- Contractau gofal plant
- Ffurflenni Cofnod Plant
- Blanced dân.
A allaf astudio'r cwrs CYPOP 5 ar-lein?
Gallwch, mae PACEY yn cynnig CYPOP5 fel cwrs e-ddysgu, lle gall dysgwyr ddilyn y cwrs ar eu cyflymder eu hunain ac ar amser sy'n addas iddyn nhw. Mae'r cwrs e-ddysgu yn costio tua £190. Mae'r pris yn cynnwys TAW a'r holl gostau cofrestru ac asesu.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs e-ddysgu CYPOP 5 trwy anfon e-bost i: training@pacey.org.uk