Meddwl am ddechrau busnes gofal plant
Meddwl am sefydlu clwb y to allan i oriau ysgol?
Mae clybiau y tu allan i oriau ysgol yn darparu gofal i blant 4 - 14 mlwydd oed ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Efallai y gall plant 3 oed fynychu'r clwb, ond mae hyn yn ddibynnol ar y math o gofrestriad ac yswiriant y mae'r clwb wedi'u cael.
Mae clybiau'n darparu lleoedd diogel, ysgogol a llawn hwyl i blant, er mwyn iddynt gael chwarae tra bydd eu rhieni/gofalwyr yn gweithio neu'n hyfforddi. Rhoddir byrbryd i'r plant yn y prynhawn a rhaid iddynt fedru cael diodydd yn rheolaidd.
Fel arfer, mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol wedi'u lleoli mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol a gellir eu rheoli gan ysgol, pwyllgor rheoli cymunedol neu fe'u cynhelir yn fusnesau preifat gan unigolion.
Mae'n hanfodol i lwyddiant clwb eich bod yn sicrhau bod digon o alw amdano a bod y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn diwallu anghenion rhieni lleol. Gellir cyflawni hyn drwy gynnal arolwg o'r rhieni yn yr ysgol y bydd eich clwb yn ei gefnogi, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol fod sefyllfaoedd pobl yn newid - mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn golygu bod swyddi yn newid yn gyflym, ac er y bydd rhai pobl yn dweud bod arnynt angen gofal plant nawr, efallai na fydd arnynt ei angen erbyn bod y clwb wedi'i sefydlu.
Siart llif yn dangos y broses ar gyfer sefydlu clwb ar ôl oriau ysgol
- Siarad gydag eraill am y syniad ac ymchwilio i'r angen yn lleol
- Gwneud cysylltiadau - gan gynnwys yr awdurdod lleol
- Dod o hyd i leoliad a sefydlu grŵp llywio
- Llunio cyllideb a chynigion ariannu
- Ymgeisio am grantiau
Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
- Recriwtio staff
- Cynllunio i agor a hysbysebu'r clwb newydd
- Agor y drws
Cofrestriad AGC (yn agor mewn tab newydd)
Mae'n rhaid i bob clwb ar ôl oriau ysgol sy'n gofalu am blant dan 8 oed ac yn gweithredu am fwy na dwy awr mewn unrhyw un diwrnod gofrestru gydag AGGCC.
Prif nod y cofrestru yw hyrwyddo ansawdd a diogelu plant, gan sicrhau eu bod yn cael gofal mewn amgylchedd diogel ac addas.
Mae'n rhaid i leoliad gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGGCC cyn y gellir caniatáu'r cofrestriad.
Rheoli Clwb y tu allan i oriau ysgol
- Mae'n rhaid bod gan y person sy'n gyfrifol am y clwb o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd yn ogystal â chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig oddi ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru sef Rhestr o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru neu Fframwaith Cymwysterau Sgiliau Gweithredol Integredig ar gyfer Gwaith Chwarae, sy'n briodol ar gyfer y swydd ac oed y plant.
Y Staff
- Dylai 50% o weddill y staff feddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf oddi ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru sef Rhestr o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru, sy'n briodol i'r swydd.
- Mae'n rhaid i'r holl staff gael datgeliad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Recriwtio
- Ceir rhagor o wybodaeth ar arfer da mewn recriwtio, rheoli a goruchwylio staff ar Gofal Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Ceir rhagor o gymorth ac arweiniad ar sefydlu clwb y tu allan i oriau ysgol gan:
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (yn agor mewn tab newydd)
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (CPCKC) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n sefydlu, datblygu a chefnogi Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol ledled Cymru.