Meddwl am ddechrau busnes gofal plant
Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau gofal dydd i blant dan 8 oed yng Nghymru, mae'r rhain yn cynnwys:
- Gwarchodwyr Plant
- Gofal dydd llawn
- Gofal dydd sesiynol
- Gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- Creche
- Chwarae mynediad agored
Mae'n rhaid i bob lleoliad gofal plant sy'n gofalu am blant dan 8 oed ac sy'n gweithredu am fwy na dwy awr gael eu cofrestru gyda'r AGC.
Y prif amcanion wrth gofrestru yw hyrwyddo ansawdd ac i ddiogelu plant, gan sicrhau eu bod yn cael gofal mewn amgylchoedd diogel ac addas.
Rhaid i leoliad gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol AGC cyn y gellir caniatáu cofrestru.
Os bydd eich busnes yn gofalu am blant dan 8 oed am fwy na dwy awr ar unrhyw un diwrnod ac nad ydych wedi cofrestru ag AGC byddwch yn torri'r gyfraith.
Bydd AGC yn parhau i arolygu'r lleoliad(au) i sicrhau bod y person cofrestredig yn parhau i fodloni'r Rheoliadau a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wrth weithredu.