Meddwl am ddechrau busnes gofal plant

Ymchwil i'r Farchnad

Amcan ymchwilio i'r farchnad yw i chi wneud y dewis iawn wrth ddechrau ar eich menter newydd. Mae angen i chi gael gwybodaeth benodol iawn a gofyn y cwestiynau iawn i'r bobl iawn.

Gweler isod rai enghreifftiau o'r cwestiynau er mwyn i chi gychwyn ar eich ymchwil:

Eich cwsmeriaid:

  • Pwy yw eich cwsmeriaid?
  • Pa oed y byddwch yn darparu ar ei gyfer?
  • Faint y mae'ch cwsmeriaid yn barod i dalu?
  • Faint o blant fydd yn mynychu?

Eich cystadleuwyr:

  • Pwy yw eich cystadleuwyr?
  • A fedrwch chi weld unrhyw fwlch yn y farchnad?
  • Pa wasanaethau y mae'ch cystadleuwyr yn eu cynnig?
  • Faint y maen nhw'n ei godi?
  • Pa weithgareddau maen nhw'n eu cynnig?

Ym mha fodd bydd eich gwasanaeth chi yn well, pam fyddai rhiant yn dymuno talu i'w blentyn fynd i'ch lleoliad chi?

Gallwch lunio holiadur syml, ymweld â grwpiau rhiant â phlant neu gyflawni ymchwil i'r farchnad mewn ysgolion lleol neu archfarchnadoedd (mae'n rhaid i chi ofyn caniatâd cyn mynd ati).

Darpariaeth sy'n bodoli eisoes

Wrth ystyried agor darpariaeth gofal plant newydd, mae'n bwysig iawn ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig gan wasanaethau neu ddarpariaethau eraill yn eich ardal ddewisedig, gweler isod enghreifftiau o'r hyn y dylid edrych amdano:

  • Ystod y pris -yn ôl yr awr, yr wythnos neu'r mis?
  • Lleoedd gwag - yn ôl ystod oedran
  • Rhestr aros
  • Oriau agor - a gynigir oriau anghymdeithasol?
  • Lleoliad - yn hawdd ei gyrraedd gyda chludiant cyhoeddus, a oes cysylltiadau da?
  • Y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig
  • Yr ieithoedd sy'n cael eu siarad
ID: 1772, adolygwyd 22/02/2023