Mynediad i Ysgolion

Mynediad i Ysgolion

Cyn gwneud cais rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu. Mae cysylltu â'r ysgol a siarad â'r athrawon yn ffordd wych o wybod a ydych yn gwneud y dewis iawn i chi a'ch plentyn.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi siarad ag ysgol a’i bod wedi dweud bod lleoedd ar gael, nes i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi’i dderbyn, ni all ddechrau’r ysgol.

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Sir Benfro yr ydym yn eu derbyn. Os ydych yn gwneud cais am ysgol mewn sir arall, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.
Dylid cyflwyno ceisiadau am lefydd mewn ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ar-lein gan ddefnyddio gwefan y Cyngor Sir. Fodd bynnag, mae cyrff llywodraethol yr ysgolion yma yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar materion derbyn.

Yn 4 oed mae gan eich plentyn hawl i fynd i ysgol gynradd yn llawn amser. Does dim rhaid ichi anfon eich plant i’r ysgol nes byddan nhw’n 5 oed ond mae llawer o rieni’n teimlo bod cychwyn yn gynnar yn fuddiol.

Yn 11 oed bydd eich plentyn yn symud i ysgol uwchradd. Oni bai bod eich plentyn yn mynychu ysgol 3-16 neu 3-19, rhaid i chi wneud cais am yr Ysgol Uwchradd o’ch dewis; nid yw plant yn trosglwyddo’n awtomatig o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Pan fydd eich plentyn yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, cewch hysbysiadau yn ystod tymor yr hydref yn rhoi gwybodaeth am yr holl ysgolion uwchradd yn y sir ac yn dweud sut mae gwneud cais. Yn amodol ar ddewis rieni, bydd disgyblion ym mlwyddyn olaf yr elfen cynradd yn ysgolion 3-16 a 3-19 yn trosglwyddo’n awtomatig i’r elfen uwchradd.

Am rhagor o wybodaeth: Derbyniadau i ysgolion - Gwybodaeth i rieni

neu cysylltwch a:

Gwasanaeth Mynediad i Ysgolion

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1TP

 

Ffon: 01437 764551

Ebost: admissions@pembrokeshire.gov.uk

ID: 7142, adolygwyd 22/10/2024